Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

datws

datws

Yn y blynyddoedd hynny byddai llawer yn mynd i'r traeth o ddiwedd Ebrill hyd ddechrau Mehefin i ddal llymriaid, a chawn innau godi gyda'r wawr i fynd efo 'Nhad - y fo yn palu efo fforch datws a minnau'n dal y llymriaid arian, gwylltion a'u rhoi yn y bwced.

Doed o hyd i ol ei traed her creigiau Trwyn yr Wylfa drannoeth, a darganfuwyd ychydig o datws yma ac acw, ond ni welwyd byth mo'i chorff.Dyna un rheswm dros i Mam gasau'r mor.

Yn wir, dywedir fod Prydeinwyr yn cael tua un rhan o dair o'u fitamin C o datws.

Paham sôn cymaint am datws?

Dylid osgoi fel y pla unrhyw datws wedi eu paratoi yn barod, megis sglodion wedi rhewi a phowdwr i wneud stwns tatws, er eu hwylused.

Un swllt ar ddeg a chwecheiniog yr wythnos, os cofiaf yn iawn, a dalai fy nhad am lety i mi a gofalai yntau wedyn anfon bagiad o datws a swej ac wyau a chig moch i'r hen wraig o dro i dro.

Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni.

Ambell dro caem ychydig o gawl tatws melys, gyda dail y tatws yn gymysg ynddo, a byddai'n ddiwrnod mawr pan dderbyniem ddyrnaid o datws neu ddiferyn o laeth neu jam neu siwgr.

Mi wellodd ei thymer ddim ar ôl glanio pan fu raid mynd am fwyd i dŷ bach cyntefig ac amheus ei lanweithdra a bodloni ar datws drwy'u crwyn a oedd, yn ôl Dilys, heb eu golchi'n iawn cyn eu coginio.

Difyr oedd sylwi ar ffermwyr lleol yn cario llwythi anferth o datws mân i'r warchodfa i fwydo'r gwyddau, ond synnwyr cyffredin yw'r haelioni, ac ystryw i gadw'r adar newynog ar y warchodfa.

'Roedd wedi bod yn gosod tatws yn Nhyddyn Talgoch drwy'r dydd ac wedi cael ychydig o datws hadyd i fynd adref efo hi.Daethai'n nos cyn iddi gychwyn am adreg i Growrach, ac'roedd hi'n niwl trwchus.Gan nad oedd wedi cyrraedd erbyn deg aed i chwilio amdani.

Rhyw dair acer oedd maint y ffridd, a'r flwyddyn honno yr oedd un acer dan erfin gwyllt, un acer yn datws a maip, a'r llall yn ffacbys.

Llusgwyd Myrddin a Geraint fel dwy sach o datws i fyny ac i fyny grisiau cerrig serth nes roedden nhw'n brifo i gyd erbyn cyrraedd y brig.

Iddyn nhw, trasiedi a cholled fawr bersonol ydi'r ffaith fod y baedd ar gael unwaith eto yn y wlad - a hyn oherwydd fod yr anifail yn dra hoff o datws fel bwyd, a bydd yn difetha caeau lawer o datws yngh nghysgod y nos wrth iddo chwilio am bryd o fwyd.