Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daw

daw

Weithiau daw'r newydd - trwy ddirgel ffyrdd fod yna fachiad da ar y torgochiaid yn Llyn Padarn - a dyna anrheg arall o'r parsel amrywiol wedi cael sylw!

Ond os daw o i Gaerdydd, tybed a fydd ymosodwr arall yn mynd?

Daw'r bygythiad wrth i gwmni Alchemy a dynnodd eu cynnig nhw'n ôl i brynu Rover ddydd Gwener ddweud eu bod yn fodlon ailddechrau trafod gyda BMW.

Daw'r eira cyn y bore, meddai'r naill wrth y llall, gan wrando ar ddolefiad y gwynt a chofio'r gaeaf rhewllyd chwe blynedd ynghynt.

Fy amcan i yn yr ysgrif hon yw mynd gam ymhellach,a gosod gweithiau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr, nid er mwyn cyffredinoli ynghylch hanfodion neu ragoriaethau y naill na'r llall, ond gan obeithio y daw natur arbennig rhai gweithiau unigol yn amlycach o'r cyferbynnu.

Y mae pennod gyfareddol Dr Owen Thomas yn Cofiant John Jones, Talsarn yn ymdrech ddisglair i wneud hynny a daw'n agos at lwyddo pan yw'n trafod pregethwyr a glywodd ei hun.

Efallai y daw cyfle i'w portreadu hwy eto.

Yn y cyfarfodydd hyn daw nifer fawr o bobl ieuanc i gyfathrach agos iawn â'i gilydd.

Daw'r gair 'ystwyll' o'r gair Lladin am 'seren', a'r seren a arweiniodd y Doethion i Fethlehem yw'r un yr ydym yn sôn amdani.

blyb ac mi ddaw'r hen gath i lawr fel bwlet a heibio fi i'r tŷ.' Mae rhyw dueddiad ynof i anobeithio pan na fydd pethau yn dwad yn rhwydd, a daw Robin Tŷ Mawr i'm meddwl.

Ond i mi, os oes hafal y goleuni glasfelyn sy'n ffrydio trwy'r Engadin o'r gorllewin ddiwedd prynhawn dros aber a moryd Afon Mawddach y daw hwnnw.

Daw'r daith i ben gyda golwg ar natur ac ecoleg arfordirol glannau'r Fenai a'r olygfa wych a geir oddi yno tua'r tir mawr.

Daw'n fwyfwy pwysig sicrhau fod pobl sydd â'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg wrth eu gwaith ar gael i'w cyflogi.

Os daw e ag unrhyw benderfyniadau yn gyflymach nag y maen nhw'n cael eu gwneud ar hyn o bryd bydd hynny'n welliant.

Aros nes y daw o i gysylltiad eto ydi'r peth doetha.

Y mae'n cau ei ~ygaid ac yn ei ddychmygu ei hun ar Iwyfan y sasiwn neu'r gymanfa, yno'n llawn hwyl yn ysgwyd y miloedd a daw hynny â diddanwch iddo.

Yn Y Ffin a Saer Doliau daw rhywun, merch fel mae'n digwydd (er bod Gwenlyn ei hunan yn gwrthod y dehongliad fod arwyddocad i'r rhyw) i dorri ar ddedwyddwch ynysig y cymeriadau.

Deallwn y daw'r papur allan mor sych ag arfer yr wythnos nesaf.' 'A rwan, to business,' meddai'r Golygydd, gan eistedd eto yn ei gadair.

Gall ffermwr o'r trydydd byd fod yn ffigur niwlog gyda'i broblemau a'i obeithion yn ddieithr iawn inni - ond wedi inni weld ei wyneb yn eglur a chael cip ar ei deulu a'i gartref a'i gefndir yna daw yn berson y gallwn ddod i'w adnabod.

Fel y mae yn nesau ato daw sain y Teledu ychydig yn uwch.)

Ac y daw mwy eto o fedalau aur yn sgîl yr arian hwnnw.

dim ond trwy gymhwyso'n syniadau i ateb anghenion darlithwyr, myfyrwyr a chyflogwyr cymru y daw llwyddiant.

Cred rhai y bydd y claf farw os daw dwy ochr yr Eryrod ynghyd o gwmpas y corff ond ni wyddys beth yw sylfaen y gred.

Mae'n dechrau gyda'r wyddor ac yna daw ymarferion i'r disgyblion, yn dechrau gyda brawddegau syml ac yn mynd yn anos o wers i wers.

Daw'r enw protein o'r gair Groeg proteios.

Mae'n bosibl y daw trefn newydd yn y pen draw.

Daw'r un diffyg manylder a chysondeb i'r amlwg pan drafodir y safbwyntiau sy'n deillio o dro%edigaeth wleidyddol Harri.

Profir hyn yn aml pan fydd yr adar yn drysu'n lân os daw niwl trwchus ar eu taith.

Ond i fyny'r afon i'r dyfroedd oerion y daw'r eog a'r brithyll a chladdu eu wyau yn y graean.

Yna yng ngwanwyn bob blwyddyn daw miloedd ar filoedd i ymwthio i fyny afonydd Ewrop.

Buan iawn y daw arwyddion perygl i'r amlwg, ond ymddengys Gwenan druan yn ddall i'r cyfan.

Wrth droi cornel o'r llwybr daw'r pen pellaf, o'r penrhyn i'r golwg, golygfa syfrdanol.

"Hoff gennyf yw ateb y morwr hwnnw o Wlad yr Haf pan ofynnodd Coleridge iddo paham yr oedd wedi mentro ei fywyd i achub dyn na welsai erioed ac na wyddai enw na dim amdano : "Mae amcan gennym tuag at ein gilydd.' Meithrin yr amcan honno yw galwedigaeth greadigol dyn, ac wrth geisio gwneud byd teilwng o frawdoliaeth daw ef ei hun yn deilwng o'i fodolaeth.'

Dro arall daw Cadog yn êl o Gaersalem a chaiff fod perthynas eiddigeddus wedi llad ei gefnder, digwyddiad sy'n dod ag atgof o'r arwyr yn dychwelyd o Iwerddon ac yn cael fod Caswallon wedi lladd Caradog fab Brên.

Fel canlyniad i weithredoedd Manawydan rhddheir Rhiannon a Phryderi, dychwelir gwraig Llwyd ato, daw bywyd a dedwyddwch yn êl i Ddyfed, ac ni wneir drwg i neb.

pan mae unigolyn yn cael ei roi mewn sefyllfa lle mae'n llwyddo, mae'n derbyn canmoliaeth sy'n rhoi hwb i'r hunan hyder, a gyda hunan hyder y daw hunan barch.'

O bob cyfeiriad daw dynion a merched mewn crysau gwynion i gynnig canapés a vol-au-vents yr un mor lliwgar.

'Rwyn hapus bo fi wedi cael wiced a gobeithio daw un neu ddwy arall bore 'fory.

Bu+m yn sgwrsio ag o yn ddiweddar a chael orig ddigon difyr, ac wrth eistedd yn gwrando ar y glaw y bore 'ma, daw'r sgwrs i'm meddwl.

Mae'n rhaid trafod y peth 'fel busnes' nawr a daw geiriau fel 'cynyddu' ac 'elw' a 'chredyd' ac 'ail-fuddsoddi' yn rhan o'u siarad beunyddiol.

i mewn, daw mike hall yn lle scott gibbs sy'n debyg o fod allan o'r tîm cenedlaethol am y tymor oherwydd yr anaf a gafodd yn erbyn canada a nigel davies am fod neil jenkins yn symud i safle'r maswr.

Ond os daw hi'n frathu ewinedd heddiw, profodd David Park, gyda rownd o 65 ar ei ymddangosiad cynta yn y gystadleuaeth fod ganddo fo'r gêm i gario Cymru dros y llinell derfyn.

'Mae hi wedi mynd y tu ôl i'r cwmwl mawr yna,' atebodd Carol, gan ychwanegu'n galonogol, 'efallai y daw hi'n ôl i'r golwg yn y munud.'

O'r crud ac nid o'r 'gym' y daw KO

Mae'r dynion hyn yn gwybod yn o dda faint o bowdr fydd ei eisiau i chwythu'r darn hwn o'r graig allan, ac felly y maent yn rhoi rhywbeth o gan pwys i fyny o bowdr ynddo ac yn gosod fuse, sef math o weiren wedi ei llenwi â phowdr, yr hon sydd yn tanio'n araf hyd nes y daw at y powdr, a dyna ergyd ofnadwy a'r graig i'w chlywed yn rowlio i lawr.

Munud i mewn i'r gân daw cyfraniad y "Triton" sef yr enw sy'n cael ei roi ar adran bres y grwp.

Daw un mewn pennill o'r Gododdin sy'n clodfori arwr o'r enw Gwawrddur oblegid ei orchestion milwrol ac yna'n ychwagegu'r geiriau ceni bei ef arthur, sef 'er nad Arthur mohono'.

Yn sicr dylid gwneud ymgyrch arbennig yn Etholaeth Conwy o ble y daw adroddiadau i'r Blaid gael pleidleisiau arbennig o dda mewn mannau annisgwyl fel Bangor, Conwy a Chyffordd Llandudno.

Yna, fel y daw yr adroddiad at ei derfyn gyda hanes ei dderbyniad i lawn aelodaeth o'r capel ym Mhennod XXV, dyna Hiraethog yn codi awgrym y mae eisoes wedi'i wneud ac yn sôn am garwriaeth Bob a Miss Evans.

Ond os daw'r alwad, grêt, bonws fydd hyn'na.

Ac o ennill y Cwpan daw'r hawl i gynrychioli Cymru yn Ewrop, a chyfle unigryw yn ogystal i wneud eu marc yn y byd pêl-droed rhyngwladol.

Daw'r gwendidau gweinyddol i'r golwg yn ddigon amlwg yn yr enghreifftiau ym Mhwllheli a Nefyn sy'n profi sawl pwnc.

Yn ogystal â chyrsiau preswyl eraill mae Glynllifon hefyd yn Ganolfan iaith a daw disgyblion ysgol yno o bob rhan o Wynedd am wythnos ar y tro i ddysgu Cymraeg ac i'w gloywi.

Yn sgîl y llwyddiant yn Sydney, maen siwr y daw mwy eto o arian yn y dyfodol.

Dim ond ar ôl oriau o aros, o obeithio ac o syrffedu y bydd drysau'r cysegr sancteiddiolaf yn agor, ac y daw'r arweinwyr allan i geisio argyhoeddi cynulleidfa o siniciaid proffesiynol fod rhywbeth o dragwyddol bwys wedi ei gyflawni.

Daw'r diwrnod i ben gyda sesiwn 'Rantio Dros Ryddid' gyda'r beirdd Iwan Llwyd, Geraint Lovgreen ac Ifor ap Glyn.

'Roedd yr aflonyddwch di-daw yn ei chorddi hithau, yn ei gwahodd ac nid yn ei phoeni, fel y poenai ei nain.

Daw Mona a'r newydd yng nghanol yr olygfa heintus hon fod Eli wedi ei daro'n wael - ond addawa'r creadur wneud ei orau glas i ddal 'mlaen cyhyd ag y gall, er mwyn Tref!

daw yr hen lwynog lwynog davies i mewn yn glo yn lle tony copsey, tra bo mark mark ar y flaenasgell yn lle lyn jones.

Mae'r 'orders' yn dod o'r top, Doctor, oherwydd mae'r gwaith sy'n cael 'i neud yma'n bwysig iawn - yn holl-bwysig os daw rhyfel." "'Dwy'i ddim yn siŵr iawn pam y ces i alwad i ddod 'ma..." "Proffesor Dalton - ein prif wyddonydd ni 'ma - ofynnodd amanoch chi'n bersonol.

ymhlith y blaenwyr mae un newid ym mhob rheng o'r sgrym ; daw ricky evans yn lle michael griffiths ar y pen rhydd dim lle felly i brian williams o gastell-nedd.

O ble y daw'r cyllid hwn?

Nodyn chwerw-drist a glywir yn y geiriau, a daw i gof linellau clo cerdd arall gan R.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Swydd dwy flynedd yw hon, a daw'r arian o Gronfa Leverhulme.

Mae gan BBC Cymru lawer o wneuthurwyr rhaglenni gwych ac maen rhaid i ni sicrhau y daw pobl eraill yr un mor ddawnus a chreadigol i ymuno â hwy i alluogi BBC Cymru i barhau i gynhyrchu rhaglenni ardderchog.

Daw'r ail gyfeiriad o gerdd y credir ei chyfansoddi yn y seithfed ganrif, Marwnad Cynddylan, lle y disgrifir Cynddylan ap Cyndrwyn a'i feibion o bowys fel canawon Arthur fras, sef 'epil ieuainc Arthur Fawr'.

Daw i'r amlwg gliriaf yng Nghymru yn yr anrhaith ar ei hiaith.

Mae tri o'r pedwar hanes yn perthyn i oes a fu; yng Nghymru'r 1920au, ond buan iawn y daw hi'n amlwg mai yr un oedd ffaeleddau pobl yr adeg honno â ninnau heddiw.

Wrth weithio mewn gwlad dros y dŵr, mae'r cae ei hunan yn ddieithr a dim ond wrth ichi gerdded y daw eich llwybr trwyddo'n glir..

Yna, daw yn ei hôl gan gadw ar yr un trywydd yn hollol ac ar ôl dod gyferbyn â'r wâl fe gyfyd ar ei thraed ôl a rhoi llam o'i hunfan nes disgyn yn y wâl.

Daw'r diwedd gyda buddugoliaeth y Saeson.

O ganlyniad, daw gwerthoedd y dosbarth rheoli yn rhan o 'synnwyr cyffredin' bron bawb yn y gymdeithas.

A'r nos a'i lluoedd ser a'i lleddfol si, Ei gwlith a'i haden lwyd a'i dwyfol daw, Ni chawn i weini a'i heneidiol glwy; Ond gwyllt ymwibiai rheswm yma a thraw Drwy'r cread mawr a thrwy'r diddymdra mwy, Nes dyfod Cwsg ac Angau law yn llaw, I'm hudo dan eu du adennydd hwy.

'Dwi'n saff i ddweud 'dwi'n meddwl, mai o blith y gwþr sydd â'u gwreiddiau yn nhir Llanfechell ar Ynys Môn y mae'r un a gafodd y dylanwad mwyaf ar gwrs y byd llynedd - Mr Tristan Garel-Jones (mi fentra i y daw llythyr gyda throad y post yn cynnig ymgeisydd mwy teilwng - oedd hen nain Boutros Bourtos Ghali yn dod o Fynydd Mechell tybed?).

Dichon y daw llawenydd annisgwyl i'n rhan; dichon y bydd tristwch du yn ein goddiweddyd.

Er enghraifft, bu Owen Prys yn y Coleg Normal, Bangor, a Herber Evans yn y Coleg Normal, Abertawe, ac yn naturiol at ddiwedd y ganrif daw colegau Prifysgol Cymru i'r darlun.

Daw'r gair asid o'r Lladin acidus, sy'n golygu sur.Ceir cannoedd o asidau naturiol, hyd yn oed yn ein gerddi.

Bydd rhaid iddyn nhw ddal i sefyllian yn y glaw oer hyd nes y daw rhywun o hyd i ryw fath o gysgod ar eu cyfer.

Wrth i ni ymarfer mae'r eirfa'n gwella o hyd a daw geiriau annisgwyl iawn gerbron, geiriau sy wedi bod yng nghefn y cof am flynyddoedd efallai ond heb gael eu harfer.

Rhaid canolbwyntio ar y pysgota, 'does wybod yr eiliad y daw - a rhaid bod yn effro!

...coedwigwr praff yn dethol pren Tyrd ataf; cân â'th fwyell rybudd dwys A tharo unwaith, ddwywaith, nes bod cen Yn tasgu, a'r ceinciau'n crynu, a chrymu'u pwys; Dadwreiddia fi o'r ddaear, cyn y daw Ffwrneiswaith y golosgwyr acw draw.

Daw rhaglen Jimmy Springer ei hun âr bobl ryfeddaf dan haul wyneb yn wyneb ai gilydd er mwyn diddorir pitw ei feddwl a bwydor cyneddfau mwyaf afiach mewn pobl.

Erbyn hyn daeth y ffermwr i'r drws a daw trwyn ei wraig i'r golwg heibio i'r cyrten.

Ond dwi'n siwr nawr, fis yn ddiweddarach, ar ôl cael amser i eistedd lawr a meddwl, y bydd e - os daw'r alwad ffôn - yn cael gair gyda'r wraig a phenderfynu wedyn.

Daw'r nerfau o'r trwyn i fyny drwy'r tyllau bach hyn fel pan fyddwn yn anadlu fe'n galluogir i sawru a gwahaniaethu rhwng gwahanol arogleuon.

Yn sydyn reit, a Tref wrthi'n trefnu ei gynhebrwng, daw Mona a'r newydd fod dynion y cyngor ar riniog y Rex.

Serch y daw geiriau teg o du gweinidogion y Swyddfa Gymreig, rhaid i ni gofio mai unplygrwydd y Doctor Gwynofr Evans a roes i ni ein Pedwaredd Sianel, ac nid haelioni'r Fendigaid Fargaret.

Ymhell cyn i chi gyrraedd daw tri pherson i'ch cyfarfod.

Os daw e ar draws yr afal, mae'n siŵr o fynd ag e oddi arnat ti, dyna'i addewid i'r hen wrach.

Yr oedd ci llwynog bach o gwmpas ac meddai John yn llawn athrylith am anifeiliaid: "Mi 'rwyt ti'n berffaith iach, y baw, mae dy hen nosi di'n reit oer." A byddai'r plant yn teimlo trwyn pob ci ar ôl hyn os byddai rhyw arwydd o salwch arno i weld a fyddai ei "nosi yn oer." A minnau wedi dechrau sôn am John Preis daw llawer hanesyn i'r cof am ei ymweliadau mynych â ni.

Daw adar a gwiwerod i nythu yn ei changhennau; trychfilod fel cacwn, gwyfynnod, chwilod a gwiddonau i fwyta'r dail; eiddew, uchelwydd, cen, mwsogl, algae a ffyngau i ymosod ar y canghennau a'r rhisgl; adar, pryfed a mamolion i fwyta'r mes, a daw rhagor o bryfed i ymosod ar gwreiddiau sy'n ymestyn ymhell dan y ddaear.

Fe welwyd siaradwyr gwir ddawnus yn datblygu i ddod yn siaradwyr o fri ar lwyfan: Daw enwau fel Geraint Lloyd Owen a Derfel Roberts i'r meddwl o blith y bechgyn, a Meinir Hughes Roberts (Jones gynt) ac Eirlys Jones Davies (Lewis gynt) o blith y merched.

Daw'r gair Cymraeg glo o wreiddyn Celtaidd sydd yn golygu "disgleirio% ac efallai mai "Marworyn byw% oedd ystyr gwreiddiol y gair.

Dim ond un peth sydd o'i blaid o : mae hwyliau da iawn ar Dad bob tro y daw adref ar ôl bod yn y rasys milgwn.

Daw'r Athro Glanmor Williams yn agos iawn at ddweud hyn yn y gosodiad fod y Diwygiad Efengylaidd wedi dod "in the same way as the Reformation, not because of an absence of religious emotion but as the result of an abundance of it" [td.

Rhowch daw arnaf.

Unwaith inni weld sut un ydyw a'r math o anawsterau y mae'n eu hwynebu yn feunyddiol wrth geisio crafu bywoliaeth yna daw yn gyfaill inni, neu o leiaf yn rhywun sydd oherwydd ei ymdrech i gael dau ben llinyn ynghyd yn haeddu ein cydymdeimlad a'n cymorth.

Daw'r Parch.

Mae Awdurdodau Lleol yn disgwyl arweiniad gan y Cynulliad ac, yn dilyn Brad Bwlchygroes, mae gobaith y daw cynnig newydd yn awr gan y Glymblaid sydd mewn grym.