Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dawnswyr

dawnswyr

Teimlech rhyw ysbryd yn eich codi a'ch llonni wrth ddawnsio iddyn nhw, ac yn sicr y tair noson ola' pan oedd y dawnswyr oll gyda'i gilydd oedd uchafbwyntiau'r þyl inni.

Mae gen i go' am deimlo llawenydd, nid yn unig ein llawenydd ni fel grþp ond llawenydd i dawnswyr eraill yn ein llwyddiant ni.

Mewm un cornel o'r stafell y tu ôl i un o'r pileri, roedd mintai fechan o ddynion wedi troi'u cefnau ar y dawnswyr ac yn crynhoi eu sylw ar y dis bach du a gwyn a daflwyd gan y naill ar ôl y llall ar y bwrdd.

Ymysg ei gweithgareddau mae'r Gymdeithas yn trefnu cyrsiau dawns a hyfforddi dawns, cynhyrchu a chyhoeddi dawnsiau a cherddoriaeth ar gyfer dawnswyr a cherddorion, cyhoeddi cylchgrawn blynyddol a rhoi ffocws i ddawnsio gwerin Cymru.

Yn yr oriel uwchben y grisiau roedd y gerddorfa fach o bum chwaraewr wedi dechrau cyfeilio i'r dawnswyr, a daeth yr hen wefr gyfarwydd dros Meg nes iddi deinlo bod ei thraed eisoes wedi magu adenydd.

Aeth y rhaglen gerbron y dawnswyr a phenderfynwyd mynd mewn egwyddor er i Eirlys Britton ein harweinydd bwysleisio fod yn gyntaf angen mwy o fanylion ynglŷn â'r gystadleuaeth a'i chefndir.

Hebddynt, ni fyddai Dawnswyr Nantgarw.

Nid edrychai'n fygythiad i ddim ar y pryd wrth i'r perchnogion newydd balch eistedd o'i flaen am y tro cyntaf i wylio'r ceffylau yn neidio'r clwydi neu'r dawnswyr syber yn chwyrlio'u partneriaid fflownsiog ar loriau llithrig y neuaddau crand berfeddion nos.

Ac wrth ei dawnsio, llaesodd pob un o'r dawnswyr hynny o foesau confensiynol oedd ar ôl ganddynt.

Chwiliodd â'i lygaid am ei wraig ymhlith y dawnswyr, ond doedd dim golwg am Meg yn un man.

Roedd dawnswyr Ystalyfera a Nantgarw yn sboncio'n osgeiddig, a Gynau Mawr Glyndwr, Meibion Llywarch, Cymerau ac eraill yn tanio o bob cyfeiriad.

Wedi'r cyfan, roedd yn rhaid i'r dawnswyr sicrhau fod ganddynt ddau o bob un o'r nwyddau gwerthfawr a brynent - un ar eu cyfer hwy'u hunain ac un arall i'w estyn yn llechwraidd i swyddogion y tollau ym Moscow.

Trwy'n llwyddiant yn Mallorca a Llangollen mae wedi dod â chlod byd-eang inni ac i Eirlys Britton fel hyfforddwraig gyda'r weledigaeth a'r gallu i dynnu allan ohonon ni rhyw ysbryd cyntefig o'r gorffennol fel dawnswyr, a chyflwyno traddodiadau dawns Cymru mewn ffordd chwaethus a medrus i safon aruchel.

Mewn dychryn mawr, gwrandawodd pob un o'r dawnswyr ar ddysgeidiaeth y sant, ac er mwyn eu cadw'n Gristnogion, torrodd Samson lun croes ar y garreg.

Mae'r dawnswyr yn dod o Syrcas Cottle & Austen.

Tybiaf mai'r peth mwya pleserus oedd yr adeg hynny pan fyddem yn dawnsio - ddim i'r cyhoedd - ond i'r dawnswyr eraill oedd yno.

Roedd Dawnswyr Nantgarw newydd ennill y wobr gynta' ac yng nghanol miri'r dathlu fe ddaeth un o ferched tîm Illa de Vermadon o Bimisalen, Mallorca ataf i'n llongyfarch.

Mae'n debyg fod y dawnswyr yn cynilo'u ceiniogau prin er mwyn prynu nwyddau y gallent eu cludo adref gyda hwy.