Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddadlennol

ddadlennol

Yr oedd yr ohebiaeth yn ddadlennol, a dweud y lleiaf.

Wrth gloi'r ysgrif ddadlennol hon, meddai, fel pe mewn syndod am gân Jane Simpson-"Meddyliau-rnerch bedair ar bymtheg oed".

O hynny fe ddaeth y "llun" yn gyflawn a chrewyd albym unigryw sy'n ddadlennol iawn.

Dilynodd Yn ôl i Berlin Marion Loeftler (yn wreiddiol o Berlin ond bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gweithio yn Aberystwyth) ar daith ddadlennol yn ôl i'w dinas enedigol.

Ymdriniaeth ddadlennol â chyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru: oes y Tuduriaid.

Gwahoddwyd Daniel Huws, ein prif awdurdod ar lawysgrifau'r oesoedd canol, i baratoi disgrifadau o'r llawysgrifau pwysicaf sy'n cynnwys y testun, a Ceridwen Lloyd-Morgan i ysgrifennu rhagymadrodd pwrpasol ar sail ei gwybodaeth arbenigol am berthynas y testunau Cymraeg â'r gwreiddiol Ffrangeg; mae canfyddiadau'r ddau yn ddadlennol a diddorol.

Mae ei blat personol ar flaen ei lyfrau yn ddadlennol iawn.

Gwelir e'n cerdded yn ddadlennol i fyny'r allt o Siop Gwilim.

Mae'r nodyn a ganlyn sydd gan Maredudd ab Iestyn ei hun yn y rhaglen yn bwysig ac yn ddadlennol iawn, 'Fel pensaer mae gennyf ddiddordeb mewn ffurfiau adeiladau traddodiadol neu frodorol a'r modd y maent wedi eu gosod yn y tirwedd.

Mae'r ymdriniaeth o'r cwmwd fel yr uned oedd yn sylfaen gweinyddu yr arglwydd Cymreig yn ddadlennol yn ogystal a'r un o'r treflannau.