Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddaliai

ddaliai

Y cwdyn a ddaliai lwch dannedd Berwyn y Ddraig!

Mae wedi newid byd yno erbyn hyn, ond bryd hynny, cae pêl droed a ddaliai bymtheng mil oedd y peth gorau y medrem gael gafael arno.

Fe ddaliai un ben y tâp ar fan arbennig ar yr olwyn rhag symud tra yr âi'r gof oddi amgylch a thrwy wneud hynny 'roedd yn fwy ffyddiog fod y mesur yn iawn, er ei fod wedi cael y mesurau gan y saer coed.

Ar brydiau, pan oedd y stêm yn isel, fe stolid (atal), y peirianwaith, gan ddal platen yn dynn yn y rowls, ac ni ellid ailddechrau'r peirianwaith heb ryddhau'r pinnau a ddaliai'r blaten yn y rowls.

Ta-ta i'r camera a ddaliai, ar dair ffrâm a hanner yr eiliad, yr eiliad yr oedd cydbwysedd rhywun yn y lle anghywir, neu ei ddwylo yn yr awyr, neu ei wyneb yn y mwd.

Byddai'n ein difyrru'n aml trwy chwarae 'Duw Gadwo'r Brenin' ar welltyn a ddaliai rhwng bôn ei ddau fawd.

Ni fu'n disgwyl yn hir cyn teimlo'r cnoc cnoc drwy'r lein a ddaliai yn ei law.

Ceisiodd ei orau i gael gafael yn y darn o haearn a ddaliai'r cloc yn sownd wrth ochr y llong, ond doedd ei feddwl ddim yn glir gan ei fod mor gysglyd, a chyn iddo sylweddoli beth oedd yn digwydd, roedd wedi disgyn i'r dŵr y tu ôl i'r llong!