Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddall

ddall

Cwmpasai chwilfrydedd hynod yr Oleuedigaeth y diwylliannau gwerinol hefyd, ac nid oedd gwladweinwyr yn ddall i anghenion ymarferol addysg dorfol.

Er ei gallu, mae Gwenan yn ddall i broblemau amlwg Dyfan.

Dôi ambell i filwr adre o'r rhyfel yn gloff, yn brin o fraich ac weithiau'n ddall ond arwydd o statws oedd hynny.

Buan iawn y daw arwyddion perygl i'r amlwg, ond ymddengys Gwenan druan yn ddall i'r cyfan.

Rwan mae 'na rai pobl ddall sy'n dal i gredu nad oes gan tai ddim i wneud â'r iaith Gymraeg.

Ymhen pedair blynedd ailafaelodd yr aflwydd yn waeth na chynt a bu gyda ni am ddwy flynedd arall yn wael ac yn ddall.

oedd Waldo'n ddall i rinweddau mawr Dr Williams er ei fod yn dal yn dra anfodlon ar ei agwedd.

Os niweidir y retina mewn damwain, gellwch fynd yn ddall neu'n wan eich golwg.

Mae'r fam yn amddiffynnol o'i merch, ac ofn gadael iddi fynd, tra mae'r ferch yn ddall i anghenion y fam.

Yn naturiol, yr oedd yntau'n ddall i lawer o bethau a ddenai'i gymdogion.

Er caleted ei beirniadaeth ohono ni bu erioed yn ddall i'w alluoedd a'i egni a'i gampau eithriadol.

Ac yr oedd y chwarelwyr yn ddall (yn ôl ei feddwl ef) i beidio ag ymuno â'r Undeb, ac ymladd am isrif cyflog a safon gosod.

Mewn gair, roedd y rhieni'n amharod i ddarparu addysg i'w plant, ac yn ddall i'r manteision i blant ac i gymdeithas.

Ond os yw rhai yn brin o ffydd economaidd, nid ydynt yn ddall i rai o agweddau sylfaenol yr economi Prydeinig yn ystod y blynyddoedd er y rhyfel, ac yn enwedig yn y saithdegau.

Roeddwn i'n fyddar ar y pryd, yn fyddar ac yn ddall.

* "Mae gen i dyst nad oedd mymryn o fai arna i ond yn anffodus fedr o ddim darllen na sgrifennu ac mae'n ddall a byddar..." LLOCHES

A'r pryd hwnnw y codai ar ei union ac y chwiliai am ei wn, ac er ei bod hi mor dywyll, fe ai ef at ddrws y tŷ, ei luchio'n agored, a saethu'n gib-ddall i'r gwyll hir.