Ie, pysgota penhwyaid a physgota'r lasgangen sydd yn y parsel yma, nid eu bachu'n ddamweiniol achlysurol ym misoedd yr haf pan ar ôl prae arall - ond yn fwriadol systematig pan y maent yn anterth eu nerth.
Byddent yn cael eu cynllunio nid i ddangos lefel o allu (er y gallent wneud hynny'n ddamweiniol) ond i ddisgrifio cyfres o dasgau a gyflawnwyd yn foddhaol.
Nid yw'n ddamweiniol mai yng ngwledydd mwyaf amlieithog Ewrop y datblygodd yr unbeniaid goleuedig eu cynlluniau uchelgeisiol am addysg gyffredinol i'r werin.
Proses ddamweiniol bron oedd hi, ac yn wir, parhaodd Lladin yn ei bri fel cyfrwng mynegiant ochr-yn-ochr a'r cynnydd yn yr ieithoedd brodorol, o leiaf mewn rhai meysydd.
Yn ogystal ag atgenhedlu rhywiol, fe geir mwtaniad mewn natur, lle caiff gwybodaeth enetig yn y DNA ei newid yn ddamweiniol - er enghraifft, wrth i ymbelydredd naturiol effeithio ar sail rhai o'r adweithiau cemegol yn niwclews y gell.
Wrth weld yr hen ŵr yn ei ddagrau, gofynnodd iddo beth oedd yn bod a dywedodd yntau fod John wedi'i saethu'i hun yn ddamweiniol.
Os bydd i ferch sathru sigâr yn ddamweiniol wrth gerdded ar y stryd bydd yn siŵr o briodi'r dyn cyntaf a ddaw i'w chyfarfod!