Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddangosai

ddangosai

Roedd tri yn yr iwnifform a ddangosai i'r byd eu bod yn berchnogion cwch, cap pigloyw, crafat, blaser las a throwsus fflanel gwyn.

Ond pan ddâi'r deintydd a'r nyrs neu'r nyrs gwalltie neu'r arolygwyr, roedden nhw i gyd yn gwneud neu'n dweud rhywbeth a ddangosai fod pobl ddu'n wahanol.

Y broses allblygol; rhannu doniau â chefn gwlad; adlewyrchu'r goludoedd a fuasai'n hanfod ei gyff ei hun ac a ddangosai y 'mawredd a chymeriad' a feithrinai ' o gadw tŷ gwedi y tad': y nodweddion allblygol hynny a roddai ystyr i fywyd yr uchelwr; hebddynt ni allai ei gyfiawnhau ei hun yng ngolwg ei geraint, ei gymdogaeth, na'r wladwriaeth a roesai iddo wisg gydnabyddedig ei statws gweinyddol.

Ond yn lle eu hateb yn onest, yr hyn a wnaeth yr arbenigwr ar y Testament Newydd oedd glaswenu a chracio jôc fach lywaeth a ddangosai mewn ffordd Gristionogol glws y fath glown oeddwn i fod wedi paldaruo codi'r fath gwestiynau.

A dweud y gwir, ychydig iawn o ddiddordeb a ddangosai'r Arab mewn un dim.

'Roedd hi'n siwr fod yr ymwelydd yn sylwi ar y mân wallau, er na ddangosai hynny o gwbl.

Ond amser a ddangosai pa un a enid mab ai peidio o'r briodas honno.

Ac fe ddiflannodd pryder gwyr y llwyth ynghylch unrhyw gysylltiad a allai fod rhwng Hadad a'r gwragedd bron yn gyfan gwbl, gan na ddangosai unrhyw ddiddordeb ynddynt.