Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddangosodd

ddangosodd

Aeth hi ag ef i'r gegin a gellir dychmygu syndod y gŵr parchus, ac yn wir ei sioc, pan ddangosodd y wraig iddo y gwydr deuben a ddefnyddir i amseru berwi wy - ond un mwy lawer na hynny - yn llawn o lwch llwyd.

Aeth canrifoedd heibio er pan ddangosodd Mair ei Mab bychan i deithwyr dieithr o wlad bell.

Ond ni ddangosodd ddig ac esmwythodd y llwybr i mi bob ffordd.

Ond yn yr ail hanner fe ddangosodd De Affrica gymaint oedden nhw am ennill.

Fe ddangosodd y rhain i mi bob twll a chornel o Istanbwl cyn i ni wasgaru ymhen pum diwrnod.

ar gynghorau lleol yn y cyfnod hwn, fe ddangosodd ei gwendid eto mewn methiant i fanteisio ar ei chyfle, a hynny, i'm tyb i, oherwydd rhyw ddiniweidrwydd egwyddorol megis.

Fe ddangosodd y capten Graham Thorpe y ffordd gyda 62 heb fod mâs.

Ac i'r gwragedd (oedd hefyd yn y Cymun) ddod ataf i gydymdeimlo'n dyner "hefo'r hogyn bach." "Mi ddangosodd yr hen lanc i ddannedd cil heddiw'n o glir on'do?" meddai un wraig wrth y llall.

Fe ddangosodd y rhain barch i'r gorchwyl a osodwyd iddynt gan fy mam, a thrwy hynny parchasant fy mam hefyd.

Yn ogystal â'r caledi, fe ddangosodd ddirywiad y Gymraeg a'r troi at Saesneg - darlun-mewn-drych o waith John Owen heddiw.

Blêr a gobeithiol oedd hi wedyn ond mi ddangosodd Earnshaw frwdfrydedd, dyfalbarhad a dewrder i erlid pas obeithiol.

Tros yr iaith ac addysg, er enghraifft, mi ddangosodd Wyn Roberts yn glir sut y mae hynny'n gweithio - cân di bennill fwyn i'th nain ac, os enw'r nain honno yw Dafydd Elis Thomas, mi ganith hithau'n berlesmeiriol i tithau.

Ni ddangosodd unrhyw syndod o gael ei ddal yn syllu arni, ac ni cheisiodd ei chydnabod trwy wên na gweithred.

Y diweddar Athro Charles Coulson, yn fwy na neb arall, a ddangosodd mor gyfeiliornus yw'r ateb yma.

Ond wedyn fe ddangosodd Awstralia pam mai nhw yw pencampwyr y byd.

Ond fe ddangosodd Castres mewn fflachie bod nhw'n dîm sy'n gallu chwarae rygbi a byddan nhw'n fwy na llond côl yn Ffrainc yn y Stade Pierre Antoine yfory.

Yr oedd y ddau ddirprwy swyddog arall, JE Daniel ac Ambrose Bebb, yn fwy profiadol ac yn gallach, a gwnaethant un peth a ddangosodd fwy o syniad am wleidyddiaeth ymarferol nag a oedd yn gyffredin yn y Blaid yn y cyfnod hwnnw.

"Ac mi ddangosodd y siwpar ei gyrn i mi," oedd ei hymateb pan oedd pawb yn dweud y drefn wrthi.

Miss Aster a ddangosodd iddo sut i edrych arnaf i: ond gwyddwn yn eithaf da mai i blesio Mam y chwipiodd honno ei difaterwch cynhenid yn gasineb.