Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddarfod

ddarfod

Ac un o'r pethau sydd yn fforddio mwyaf o gysur i mi y funud hon ydyw, ddarfod i mi fy hun gario allan drefniadau claddedigaeth fy hen feistr er boddhad pawb, heb ymgynghori â neb ond Dafydd Dafis.

Ond gwelai'n gliriach nac erioed mai'r iaith Gymraeg yw'r trysor hynaf a gwerthfawrocaf sy gennym ar wahan i'r Ffydd Gristnogol, a gwelai ei bod mwyach yn gyflym ddarfod o'r tir.

'Mor frwd meddai Puleston Jones yn Y Seren wrth adrodd gweithgareddau'r cyfarfod cyntaf, 'mor frwd ydyw yr yspryd Cymreig yma ar hyn o bryd, fel y dywedir i un brawd o ganol brysurdeb paratoi at ei arholiad ddiweddaf, roi un bore ar ei hyd i astudio prydyddiaeth Gymreig Gwn ddarfod i un arall ddarllen gweithiau barddonol Goronwy i gyd bron mewn un diwrnod" "Chwi synnech', meddai eto wrth adrodd am gyfarfod diweddarach, 'mor gyflawn o addysg ydyw papurau fel hwn (sc.

Winston Churchill oedd cocyn hitio pawb wedi i streic y Cambrian ddarfod: 'Oedodd yn rhy hir cyn danfon y milwyr i fewn', meddai perchnogion y pyllau glo; 'buasai'n well iddo ddefnyddio'r fyddin ar bob adeg, yn hytrach na'r heddlu', honnodd ASau Torlaidd a Rhyddfrydwyr asgell-dde.

Wrth weld nifer yr ymwelyddesau caredig a da eu hamcan yn ddiamau yr wyf yn meddwl ddarfod imi wneuthur yn gall drwy ofyn i wraig synhwyrol gymryd gofal o Miss Hughes a'i chadw rhag cael ei boddi gan gydymdeimlad.

Ar ôl iddo ddarfod pregethu âi o amgylch y dyrfa fyddai wedi ymgynnull yn dosbarthu tractiau.