Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddarlith

ddarlith

Haf 1972, Hydref 1985, Gwanwyn 1997. Y ddarlith a newidiodd hanes Cymru.

Yn y sefyllfa honno yr oedd Rondol yn yr hanes gan Pitar Wilias, ar wahan mai enwau dychmygol a ddefnyddiodd o yn ei ddarlith oherwydd i 'nhaid wrthod rhoi caniatad iddo ddefnyddio ei enw fo a Nain, ac am y tro cynta dyma gyfle i chi gael y stori fel yr oedd.

Wrth i mi baratoi'r ddarlith hon yr ymateb a gawn, gan y canol oed yn ogystal a'r hen pan soniwn am y testun, oedd 'Fe gefais siglo llaw ag Elfed' neu 'Fe glywais Elfed yn pregethu sawl tro', a'r son wedyn, bron yn ddi-ffael, am y llais swynol i'w ryfeddu a oedd ganddo.

Felly, ar ôl y ddarlith a'r Disco a'r helcyd i gyd, dydw i ddim uwch bawd sawdl.

Ac yn ail, yn y seiat neu'r rhyddymddiddan a ddilynai'r ddarlith, gallech fentro y byddai'r hybarch Fyfanwy, o fewn pum munud eto, wedi mynd a ni oddi ar lwybr cul ein pwnc i ryw borfeydd gwyllt, os nad gwelltog.

Ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi i Saunders Lewis draddodi'r ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Agor gwaith dur Llanwern.17 yn marw o'r frech wen yn Ne Cymru.

Gan amlaf fe gymer genhedlaeth i'r bregeth rymusaf ddylanwadu ar feddwl gwlad, ond gellir dweud i'r ddarlith hon ddylanwadu ar unwaith ar feddwl Cymru.

Yn gyntaf, y byddai Mr Rogers, bum mumud ar ol i mi ddechrau traethu, mewn trwmgwsg mawr mesuredig (mesuredig oherwydd byddai'n dihuno'n ddi-ffael ryw hanner munud cyn diwedd y ddarlith).

Yma yng Nghymru bu protestio yn erbyn y bwriad i foddi Capel Celyn ac 'roedd Saunders Lewis wedi cynhyrfu'r dyfroedd yn ei ddarlith 'Tynged yr Iaith'. Ond 'roedd oes y brotest yn lledaenu drwy'r byd, y duon yn yr Unol Daleithiau a'r mudiad heddwch newydd a godasai o ganol tanchwa Hiroshima a Nagasaki.

Arweiniodd ei ddarlith ar unwaith at sefydlu'r Gynghrair Gaeleg i adfer y Wyddeleg, a bu hynny'n drobwynt.

Rwyf am gychwyn efo'r ddarlith radio enwog.

Ffurfio Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi i Saunders Lewis draddodi'r ddarlith 'Tynged yr Iaith'.

Byddai'r merched a'r gwragedd wedi paratoi gwledd i'w mwynhau yn yr awyr agored, a byddai'r darlithydd fynychaf yn torri ei ddarlith yn ddwy ran - un cyn y picnic mawr a'r llall ar ôl hynny.

Ond cyn gynted ag y cafwyd ef i mewn i'r car, dyma fe'n agor y ffenest ac yn mynd ymlaen â'i ddarlith o'r fan honno!

Rhyw fras nodiadau a fyddai ganddo, ac wrth ei thraddodi y rhoed i'r ddarlith ei ffurf derfynol.

Testun y ddarlith a draddodwyd mewn cynhadledd ym Mhen-y-bont ar Ogwr eleni.

Edrych ar y darlun hwnnw o safbwynt agwedd y dyneiddwyr at Gymru a'r Gymraeg fydd diben y ddarlith hon.

Yn ei angladd clywais rywun yn dweud am grŵp o ffermwyr ifainc a gafodd eu cyfareddu gan ddarlith ar enwau caeau a roesai iddynt yn ddiweddar ac a safodd ar eu traed fel un gŵr i guro dwylo iddo.

Ond chawson ni'r un ddarlith o fath yn y byd ar sut i drin ysbrydion.

Cefndir hanesyddol y ddarlith sy'n ddiddorol i mi.

Rhaid imi gychwyn a gorffen sgrifennu'r ddarlith hon cyn cyhoeddi ystadegau'r cyfrifiad a fu y llynedd ar y Cymry Cymraeg yng Nghymru.

Yr oedd gennyf gymaint o feddwl o Ioan Brothen fel gūr diwylliedig nes imi ddweud ar ddarlith i fyfyrwyr Bangor un tro : "O ran ei ddiwylliant mi dynnwn fy het i Ioan Brothen na chafodd ond chwech wythnos o ysgol o flaen eich hanner chi% Ym myd hynafiaethau bu Ioan Brothen yn fwy o help imi na neb.

Traddodwyd y ddarlith radio hon ddeng mlynedd yn ôl.

A ninnau'n agosau at bedwarcanmlwyddiant Beibl Mawr William Morgan, mae'n gwbl briodol ein bod yn edrych arno yn y Ddarlith Goffa hon eleni.

Roedd darlledu'r ddarlith hon yn Chwefror 1962 yn her newydd i'r Cymry ond o ochr y darlithydd ei hun doedd dim ynddi a oedd yn newydd.

Fe fyddaf yn manylu ar ei flynyddoedd yn Llanrhaeadr mewn darlith yno ymhen rhyw ddeng niwrnod - os gallaf sgrifennu'r ddarlith mewn pryd - ac felly fe fodlonaf ar amlinellu'r hanes yn unig yma.

Datguddiodd y Major ei farn yn wyneb haul yn ystod ei ddarlith heddiw pan haerodd nad oedd dim diddordeb gan yr Eidalwyr ynom ac eithrio yn ein harian.

Credem yng Nghymdeithas yr Iaith mai'r deyrnged orau a allem dalu er cof am Saunders Lewis oedd cyhoeddi argraffiad newydd o'i ddarlith Tynged yr Iaith, a ysbrydolodd sefydlu'r Gymdeithas, ac sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i'w haelodau byth er hynny.

Y ddarlith fwyaf arwyddocaol gafwyd yn hanes yr iaith Gymraeg.

Yr oedd diwrnod y ddarlith honno'n ddiwrnod mawr, a byddai tyrru o bob man i wrando arno.

Y mae testun y ddarlith hon, o leiaf, yn awgrymu nad felly bu.

Dyna fater llyfr J R Jones, Prydeindod; a'r llyfr hwnnw a'i ddarlith ef, A Raid i'r Iaith ein Gwahanu yw Dail Sibul ein tynged ni a thynged ein hiaith.

Mewn llythyr at D J Williams (15/1/62) dyma'i ddisgrifiad o'r ddarlith hon: '... araith boliticaidd i Blaid Genedlaethol Cymru fydd hi dan y teitl Tynged yr Iaith'. A'r ffaith fod rhai o aelodau'r blaid honno ar y pryd yn agored i'w hargyhoeddi gan yr 'araith' a arweiniodd at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae'r ddarlith yn fy atgoffa o ddarlith enwog arall yn y byd Celtaidd, sef y ddarlith a draddodwyd gan mlynedd i eleni gan Douglas Hyde i'r National Literary Society yn Nulyn dan y teitl, The Necessity for De-Anglicising Ireland.

Y peth mwyaf twp heddiw oedd dwy ddarlith gan swyddog o Sgotyn, pryd y llongyfarchodd un o'r serjentiaid ar ei waith yn chwarae ffug-ddrama (rhedeg ar ôl ysbi%wr Almaenaidd ar gefn beic o Castellamare i Naples) a gofyn cwestiynau hurt iddo y byddai plentyn ysgol yn amharod i'w gofyn.

Yn yr Eisteddfod buom yn gwrando ar y ddarlith wyddonol, 'Newid Natur', ac Ymryson y Beirdd gyda De Ceredigion, Caerfyrddin a Chaernarfon yn cystadlu.

Pan ddaeth y ddarlith i ben hanner awr yn ddiweddarach, yr oeddem ni i gyd yn wlyb at ein crwyn!