Mae nifer o'r rhaglenni hyn yn adlewyrchu cryfder BBC Cymru o ran newyddiaduraeth materion cyfoes, ac roedd hyn yn amlwg trwy gydol y flwyddyn gyda chyfraniadau i ddarllediadau ar radio a theledu o ddigwyddiadau megis yr Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd, a phrif raglenni dogfen ar y teledu megis Place of Safety, am yr ymchwiliad i gam-drin plant yng Ngogledd Cymru, ac In The Red Corner, a ddilynodd gystadleuaeth arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru.
O ganlyniad i'r cytundeb darparodd BBC Cymru ymron i 25 awr o ddarllediadau ar S4C.
Cafwyd mwy o waith da gan Gôl hefyd yn ei ddarllediadau pêl-droed.
Ategwyd yr ystyriaeth gynhwysfawr hon i'r newidiadau pwysig oedd yn digwydd yng Nghymru gan ddarllediadau newyddion helaeth.
Roedd - - yn awyddus i drafod ail ddarllediadau yng nghyswllt ymelwa a hawliau.