Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddarllenydd

ddarllenydd

Dyna fe, ddarllenydd - yn llafn main, tal, teneu, gwledig, - mewn gwisg ddiaddurn a digon cyffredin yn dyfod trwy ddrws y capel - am dano y mae coat winlliw o frethyn gwlad wedi ei wau yn lled fras, a hono wedi gweled ei dyddiau goreu; ac oblegid ei fod wedi tyfu ar ol ei chael, edrychai yn fer a chwta - gwasgod o stwff ac un rhes o fotymau yn cau i fynu yn y glos am ddolen ei gadach India oedd yn dorch am ei wddf - llodrau o ffustian rhesog; a phar o esgidiau mawrion cryfion, gyda dwbl wadnau am ei draed, wedi eu pedoli yn ol ac yn mlaen; a'u llenwi â hoelion, ac ymylau hoelion y rhesau allanol yn amgylchu ymyl y gwadnau, fel y gallesid tybio y buasai eu cario yn ddigon o faich i unrhyw ddyn, heb sôn am gerdded ynddynt.

Fel llawer un ar ei ôl, er hynny, fentrodd Robinson ddim yn agos iawn at feysydd y frwydr ond roedd y datblygiad yn arwyddocaol ynddo'i hun - rhan o grefft newyddion tramor yw llwyddo i gael yr adroddiadau yn ôl at ddarllenydd neu wyliwr.

Mae'r hanes a geir yma yn ddiddorol ac, ar y cyfan, yn codi awch ar ddarllenydd i ddysgu mwy am y gwr arbennig hwn.

Nid yw'n rhoi llawer o foddhad i ddarllenydd, a gwaith llafurus yw ei darllen.

Yn ystod yr haf, cyhoeddir Ystadegaeth Elfennol (Gwasg Prifysgol Cymru) gan y Dr Gwyn Chambers sydd yn ddarllenydd yn Adran Fathemateg Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Canodd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i wirioneddau, ac efallai fod mesur ymateb ambell ddarllenydd i'w farddoniaeth yn dibynnu ar ei allu i ymateb i wirionedd fel y cyfryw.

I ddechrau, felly, rhaid i gynnwys y bwletin wneud synnwyr i'w ddarllenydd.

Nid yw'n swil o gynnwys cyfeiriadau ysgafn a fyddai o gryn ddiddordeb i ambell ddarllenydd.