Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddaru

ddaru

Mi ddaru hynny, chwarae teg iddo fo.

Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai hithau'n dal dano'n dweud, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi i'r adwy eto: 'Toedd dda gen i mo'r hen gingroen afiach beth bynnag.

Daeth â llawer o atgofion ac o straeon yn ôl i'r cof, a nifer o ddywediadau rhyfedd, a'r ffordd wahanol o edrych ar bethau ddaru mi ddod ar eu traws pan oeddwn yno.

Fedrwn i wneud dim i fod o gymorth i Rex." "Ddaru Rageur a Royal mo'i helpu felly?" gofynnodd ei fab wrtho.

Ynteu ai 'mhen ddaru ymddiheuro i Vatilan...

Ddaru Menna sylwi?

Hyd y gwyddwn ddaru 'run ohonyn nhw anfon Cerdyn Post i egluro.

Mae'n rhaid 'mod i wedi gneud, achos pan glywodd y ddynas mai wedi dŵad yma ar 'y ngwylia' ro'n i, mi ddaru hi roi pisyn tair yn bresant i mi, i mi gael ei wario fo yn ystod yr wsnos.

Dŵad ymlaen ata' i wnaeth hi ar ddiwedd sesiwn o Taro i Mewn yn Festri Salem, un bore Mawrth, i ddiolch am y cwmni a'r gymdeithas gan ychwanegu, ar yr un gwynt, na ddaru hi ddim deall gair o'r Myfyrdod Cymraeg.

Mi ddaru Defi John ddringo i nôl rhai, i gael gweld, ac wedi i ni'u cracio nhw'n 'gorad hefo'm dannadd, doedd yna ddim byd ond rhyw ddotyn bach gwyn, meddal, yn y rhan fwya ohonyn nhw.

"Ddaru o dy frifo di?" gofynnodd un o'i gyfeillion.

Ddaru nhw ddim twyllo neb wrth gwrs.

Y clown 'nes i fwynhau fwya - mi oedd o'n baglu dros ei draed a phetha felly, ac mi ddaru o bwyntio ataf fi, a gofyn i mi be' o'dd fy enw fi.

"Chymrodd o fawr o sylw ohonoch chi'ch dau.' 'Naddo, 'ddaru o ddim.' 'Oes 'na reswm?' 'Mae'n siwr bod.' Cododd Rhodri.

Ddaru Ifan eriod gytuno a neb yn ddistaw, nac anghytuno a neb heb dwrw.

Deud wrthi mai trwsgwl oeddan ni tro dwytha, trwsgwl a blêr, glaw ifanc oeddwn i, yn goesau i gyd fel ebol newydd, doeddwn i heb arfer wrth bwrdd - cofia ddeud wrthi bod yn ddrwg gen i am y llestri - a beth bynnag, chdi oedd y drwg yn y caws go iawn, chdi ddaru droi'r byrddau a chwalu'r lluniau a chwythu'r tân i fyny'r simdde.

Dyna sut ddaru o ddal Vatilan.

"Mi ddaru ni gychwyn yn ôl yn araf hefo'n gilydd," ebe Alphonse, "ond yr oeddwn mewn poen ofnadwy.

Mi ddaru Defi John a Jim ddechra' chwara'n wirion ymhen dipyn, ar ôl blino bod yn llonydd - a thaflu cregyn bach aton ni a ninna wedi cau'n llygaid, smalio cysgu.

Gwarchod pawb, nacia, nid y fo ddaru gorddi'r môr a'i chwipio fo dros ben y cloddiau i ganol y tai.

Ddaru mi ddim ond ysgwyd llaw efo fo pan ddaru o gyrraedd.

Colli ddaru o, ond mae'n siŵr gen i ei fod o'n chwaraewr dan gamp.

Ond ar ôl dweud hynny, ddaru Towyn erioed fygwth peidio noddi'r ysgoloriaeth, na rhoi unrhyw bwysau ar yr Eisteddfod i lacio'r Rheol Gymraeg.

Ddaru hi fygwth y basa'n rhaid i ni gychwyn cerddad.

Ddaru o ddim hyd yn oed estyn ei lyfr i gymryd fy mharticlars i.

Wel, mi ddaru ni fenthyg toman ohonyn nhw oddi wrth ein ffrindia acw, a'u cario at nythod y doctoriaid coch.

Codi'n esmwyth ddaru o, yntê?

Ddaru'r stori%wr ddim cynnig math o esboniad pam yr oedd ysbryd hollol Brydeinig, yn ôl pob golwg, yn cydgartrefu â theulu bach o Iraniaid, na chwaith pam roedd gwyrda o gred Foslemaidd, oedd yn credu mewn adenedigaeth, yn cymryd y fath ddiddordeb mewn ysbrydegaeth.

Dwi'n lecio Anti Nel yn iawn hefyd, chwara' teg, achos ar ôl cinio mi ddaru hi fynd â fi i weld y Pafiliwn.

`Ddaru mi ddim edrach wir, syr,' ebe Harri.

"Ddaru 'Nhad ddim sôn wrthat ti am y cynlluniau ar gyfer y blanhigfa?' Naddo.

"Fe ddaru o chwarae rhan bwysig iawn yn fy natblygiad i fel canwr proffesiynol," meddai'r bariton sydd bellach yn fyd- enwog.

Ddydd Iau dwytha roeddan ni i fod i fynd, ond mi basiwyd gan Mrs Robaits ei bod hi'n rhy oer i fynd i'r dŵr, ac mi ddaru ni ddechra' meddwl na cheusan ni byth fynd - ond heddiw oedd y diwrnod mawr.

"Dew," meddai Twm, "mi ddaru chi iwsio petrol."

Chwerthin a chwerthin ddaru ni, a finnau'n mwynhau edrych ar Bigw yn hapus, ei gwallt newydd yn siglo yn ôl a blaen fel pendil, a'i dannedd gwyn yn y golwg.

Rhodri ddaru drugarhau wrthi meddai ef, a'i thynnu o gehena arfordir Clwyd i weddustra a gwareidd-dra Gartharmon.

Mi ddaru 'na ffrindia' i Anti Nel ddod yn ôl i ga'l cinio efo ni - mae hi'n governess ar blant yn un o dai mawr y dre' 'ma, ac mi ddaru Anti Nel fy warnio fi i fyhafio 'ngora'.

Naddo ddaru o ddim mo fy llofruddio, na fy mwrdro na fy lladd nag uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf, fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod yn y cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob Dydd Sul, wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i.

Ddaru chi briodi?" Yr oeddwn i wedi sylwi arni hi'n llygadu fy llaw chwith i - a honno mewn maneg!

Shao acw, y blismones ddaru ein gwahodd i'w chartref o'r blaen, hefo aelod o'r swyddfa sy'n medru siarad rhywfaint o Saesneg.

Nhw ddaru ofyn imi roi hysbysiad yn Y Gwyliwr.' A chwarddodd, gan gerdded o amgylch yr ystafell fel hogyn wrth ei fodd.

Un gôl ddaru o sgorio ond fe fethodd tua deunaw.

'Ddaru o ddim trio'i orau, wyddoch chi.

Pwy ddaru ateb y drws iti i lawr y grisia 'na?' 'Dyn bach â chrwb ar 'i gefn o.' 'Wmffra Jones.

Ddaru Anti Nel nabod cwch Uncle Danial ar unwaith - "Pluan Wen" ydi 'i enw o - a dyna lle roedd o wrthi'n dadlwytho pysgod, a'r cap doniol 'na sgynno fo yn gam ar ei ben.

'Y dyn bach ddaru ateb y drws imi gynna'.

"Mi ddaru chi nghlywed i." "Ddeudoch chi ddim byd.

'Tynnwch nhw!' 'Nanaf y sglyfath,' poerodd Nel, 'o leiaf ddim tan wyt ti'n cyfadda na ddaru Vatilan ddim lladd neb...

Sut gwyddech chi mai fi ddaru?'

"Ond chwarae teg iddyn nhw, cadwent yn glos wrthym ni'n dau rhag ofn i rywun neu rywbeth ddod i'n rhwystro rhag mynd yn ein blaenau." "Ddaru chi lwyddo i gadw'n effro wedyn?" gofynnodd Louis.

"Ddaru chi ddim brifo?" holodd JR gan gychwyn i ffwrdd yr un pryd.

Tynnu'n coes ni oedd hi mewn gwirionedd, achos cerddad cyn bellad â'r Hen Eglwys ddaru hi - er mwyn i ni gael hel cocos cyn dŵad adra.

Be' ddaru o ond tynnu blodyn bach o lawas ei gôt - dim un go iawn, un wedi ca'l 'i 'neud efo papur - ac mi ddaru'i daflyd o i mi.

Unwaith neu ddwy fe ddaru ni ei dilyn at orsaf y poli%s yn Park Square lle'r oedd yr Arolygydd yn byw.

Mae nhw'n ymarfer efo ni nos fory, wedyn mi ddônt am wythnos gyfa, ac mi fydd fel Cad Gamlan acw wedyn." "Mae'n debyg y dylswn i ddangos fy wynab, gan mai Gwyn ddaru'u gwadd 'nhw yn y lle cynta'." "Debyg iawn; ond nid ddylswn i ddylech chi ddeud ond mi liciwn i.

'Ddaru Arsenal fethu sawl cyfle.

Ond dyn a ŵyr sut ddaru nhw ei gladdu o.

Roeddan ni'n medru codi'i sgert a'i phais i fyny mor handi, a'u rhoi nhw'n sownd wrth 'i gwasg, ac mi oedd hi'n medru dod o hyd i'r cocos mor gyflym â gwylan fôr, hefo'r hen lwy bach bren 'na Mi gawson ni andros o hwyl yn hel, er na ddaru ni ddim cael gymaint â hi.

"W^n i ddim am faint o amser ddaru mi orwedd," meddai, "ond wedi i mi ddod ataf fy hun, teimlais geg Rex yn gafael yn fy ysgwydd." "Ceisio eich llusgo adref yr oedd o," atebodd Louis.

Tada ddaru ddŵad â fi lawr pnawn 'ma ac mae o am ddod i fy nôl i ddydd Sadwrn nesa.

O flaen y lle tan yr oedd carped ddaru Anti wneud ei hunan a phwyth croes.

Eistedd ar gadair ddaru 'Joe Louis'.

Teyrnged Bryn Ymysg yr enillwyr - er mai rhannu'r wobr ariannol ddaru o - mae BRYN TERFEL.