Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddehongli

ddehongli

Bydd y moddion a ddefnyddir i ddehongli'r cyfrifon a dod o hyd i esboniad ar sefyllfa busnes yn amrywio yn ôl ei natur arbennig.

Unig bwrpas y tai cyrddau a godwyd yn yr ardal ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd bod yn fannau cyfarfod i ddynion gael clywed Gair Duw yn cael ei ddehongli.

(b) Ceisio ail-ddehongli yr hyn a ddigwyddodd mewn modd sy'n lliwio a newid yr hyn a ddigwyddodd.

Wrth gyflwyno'r gwaith gyda cherddoriaeth ledrithiol a'r masgiau, wrth olygu o Ifans i'r doliau'n syllu neu'n crechwenu arno, roedd hi'n bosibl ymateb yn llawn i'r ffaith mai llun i'w ddehongli oedd yma ac nid trafodaeth ymenyddol.

Dylid cofio, wrth gwrs, inni ddefnyddio Golwg, Llafar Gwlad, Y Wawr, Fferm a Thyddyn, Cristion a Tafod y Ddraig er mwyn dosbarthu'r holiadur, a dylid cadw hyn mewn cof wrth ddehongli'r ffigurau.

Daethant maes o law yn allwedd i ddehongli cyfeiriadau Iesu at Fab y Dyn yn rhoi ei einioes yn bridwerth tros lawer ac at y cyfamod newydd yn ei waed.

Ni ellid ymddiried mewn lleygwr, hyd yn oed pe medrai'r iaith Ladin - a pheth prin i'w ryfeddu oedd hynny, i fyfyrio arno a'i ddehongli drosto'i hun.

Canlyniad hyn yw y medr yr awdurdodau gyflwyno pob math o reolau newydd, megis gofyn i athrawon dagw ffeil bersonol ar bob un o'u disgyblion, gan wybod na fydd unrhyw wrthwynebiad o du'r athrawon rhag ofn i hynny gael ei ddehongli fel amharodrwydd i fod yn driw i'r cyfansoddiad.

Yr un syniad a arweiniodd y meddwl Cristionogol ymhen amser i ddehongli iawn yng Nghrist mewn termau aberthol, ond gan ei drawsnewid yn syniad am iawn lle y talai Duw ei hun bris yr aberth.

Ond, yn rhyfedd ddigon, ni wnaed ymdrech i ddadansoddi neu ddehongli'n chwedloniaeth ni, yn Gymry ac yn Geltiaid, naill ai ar ffurf llên gwerin cyffredin neu yn y gweithiau a goethwyd ar gyfer eu rhoi ar glawr.

Mater o 'ddehongli', onidê?

Bu ymddygiad y cwmnlau mor warthus o lechwraidd nes i'r Bwrdd Masnach gyhoeddi canllawiau ar sut i ddehongli penderfyniadau cymrodeddu - canllawiau nad oedd angen amdanynt ar unrhyw ddiwydiant arali!

Mae hefyd yn dangos yn eglur greddfau naturiol yr artist yn Judith - yr angen i ddehongli pethau yn eu ffurfiau mwyaf elfennol, i ymdoddi i mewn i fyd natur yn hytrach na'i orchfygu, ac i gario synnwyr o sensitifrwydd ar bob achlysur.

Mae'n wir fod y nofel hanes yn dal ei bri, ac mai tuedd honno ar y cyfan yw bod yn rhamant hanesyddol sy'n darlunio corneli o'r gorffennaf heb ddehongli'u harwyddocad.