Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddelwedd

ddelwedd

Mae gwir angen esbonio paham y mae parch i'r llyfr hanes, sydd yn un o glasuron rhyddiaith y Gymraeg, ac ar yr un pryd paham y mae rhyw ddelwedd anhyfryd wedi dod lawr i ni o Theophilus Evans y dyn.

Hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg telesgopau plygu oedd y mwyaf poblogaidd, sef telesgopau sy'n defnyddio lensau i gasglu a phlygu'r golau a chwyddo'r ddelwedd.

"Buasai cau'r swyddfa ym Mangor yn ergyd fawr i ragolygion economi'r ardal, a hefyd yn gwneud drwg i ddelwedd yr Awdurdod wrth gysidro bod sicrwydd clir i'r gwrthwyneb wedi'i wneud yn barod."

Roeddent am dorri i ffwrdd oddi wrth y rhwystredigaethau a gysylltent â'r ddelwedd wleidyddol statig honno.

Felly mae angen ymchwil i ganfod: - Manteision cognitif a chymdeithasol dwyieithrwydd; - Y ddelwedd sydd gan y Gymraeg.

Dyma ddelwedd o amhosibilrwydd dysgu, anobaith athro, argyfwng addysg.

Yn yr un modd, yn Gaeaf yn Nrws y Coed, a'r eira yn blanced wen yn gorchuddio'r byd, gwelir ambell i ddafad yn crafu am welltyn glas ac yn llwyddo i gyfleu y ddelwedd gydnabyddedig o'r ddelfryd o'r gaeaf.

Cof plentyn yn unig oedd ganddi amdano a'r cof hwnnw'n ddelwedd o ryw Siôn Corn, un a ddeuai ag anrhegion iddi, ac a arhosai am gyn lleied o amser nes gwneud pob ymweliad yn ŵyl.

Mae'r awdur yn llwyddo i fynd y tu cefn i'r ddelwedd gonfensiynol (h.y.

Mae'r das yn y canol yn cael ei diffinio'n llwyr gan strociau o baent, amrywiol eu lliw, wedi eu sodro'n dew â chyllell balet, ac yn gwthio'r ddelwedd tuag at yr edrychwr.

Ond ein hunig obaith yw dod o hyd i ambell ddelwedd i'w troi yn rhan o'n bywydau, rhan o fytholeg ein bywydau, i aros yn y cof, ynrhan o frethyn ein cyfansoddiad.

Disgrifir siom Elin yn gelfydd, wrth i'r awdures gymharu'r profiad â chanfod siop ddillad ar gau a dadlennir llawer am greulondeb henaint trwy gyfrwng y ddelwedd.

O fedru cymuno ag Ynys Afallon, yr ysgogiad ysbrydol goruwchnaturiol hwn sydd tu hwnt i ddelwedd, y geill pob Bedwyr trist a distaw yn hyn o fyd wynebu'r drin.

Ym mis Awst, creodd y math o ddelwedd gosod ffiniau/ trwyddedau teithio/ gwrth-Seisnig o'r blaid a fu'n bastwn hwylus yn nwylo beirniaid di-ddeall byth ers hynny.

Bu'r cyfuniad o onestrwydd ac unplygrwydd a'r penderfyniad diysgog i gadw'n driw i'r ddelwedd ohoni ei hun heb geisio cyfaddawd â neb yn wrthwenwyn effeithiol i'r wên ffals'.

Yn y pumdegau cynnar 'roedd diddordeb mawr mewn gwyliau chwilio am drysor ac o ganlyniad cafodd archaeoleg môr y ddelwedd o fod yn bwnc llawn melodramatics tanfor lle cesglid pethau od.

Y bwriad oedd dryllio'r ddelwedd o newyn fel proses ddemocrataidd sy'n taro pawb fel ei gilydd.

Oherwydd mae'r ddelwedd hon yn siard cyfrolau am gyflwr presennol un o hen gymunedau'r glo drannoeth dyddiau llewyrch un o'r diwydiannau trymion cynhaliol.

Ceisia aelodau'r teulu sydd yn dilyn merched Glangors fach i'r tyddyn greu realiti o ddelwedd y winllan.

Brithir y dogfennau â chyfeiriadau o bob math at ymateb y Wyniaid i'w hamgylchfyd a chyfnewidiadau arbennig y cyfnod, a'r gorchwyl pennaf iddynt oedd ceisio dyfnhau'r ddelwedd arbennig honno a'u clymai wrth yr haen fonheddig yn Lloegr.

Steve Buscemi (Adolpho Rollo yn y ffilm hon; Mr Pink yn Reservoir Dogs) yn ddelwedd ynddo'i hun - ei wyneb; llygaid pysgodyn, dannedd ymwthiol a gormod ohonynt, gwallt tenau yn cilio o'i dalcen - wyneb hyll yn y bôn ond un nad oes modd tynnu'ch llygaid oddi arno.

'Roedd y pyllau wedi cau a chymdeithas wedi ei chwalu, a'r ddelwedd o Gymru fel gwlad y glöwr wedi colli ei hystyr.

Ar un olwg roedd yn enghraifft berffaith o'r darlun ystrydebol o'r artist yn ei nenfwd - yn ei achos ef, llofft ŷd ym Mynydd Mwyn - er na fuasai ef ei hun, mae'n wir, yn derbyn y ddelwedd honno.

I Brandon yntau, Selotiaeth yw'r allwedd i weithgarwch Iesu ac ymwrthyd â'r ddelwedd o dangnefeddwr di-drais.

Cyn datblygu ffotograffiaeth edrychai seryddion ar y ddelwedd a gwneud llun llaw ohono â phapur a phensel.

Dyma gyfrol sydd newydd gyrraedd silfoedd siopau llyfrau led-led Prydain, a mar ddelwedd liwgar o Cerys ar y clawr yn siwr o sicrhau fod y llyfr yn cael digonedd o sylw.

Rhaid ystyried ystyr y gair 'cŵn', ac o gael gafaelyd ynddo gan yr ystyr honno y cododd y ddelwedd o 'ysgyrnygus gŵn' yn nychymyg R.

'Roedd holl ddelwedd Kennedy'n seiliedig ar nerth ac atyniad ieuenctid ond y gwir yw ei fod yn dioddef o afiechyd gwirioneddol ddifrifol, sef clefyd Addison.

Hwn oedd y tro cyntaf iddo ddangos ei liw comiwnyddol, a dyna yw'r ddelwedd ohono ers hynny; cadarnhawyd amheuon yr Unol Daleithiau ei fod yn gomiwnydd rhonc.

Ydyw, mae'n edrych yn syml, ond tu ôl i symlrwydd ymddangosiadol y ddelwedd mae medrusrwydd technegol mawr.

Dwi am drio 'ngora' i grafu dan groen y ddelwedd yn ystod y misoedd nesa'.

Edrychodd Gal ar sut yr oedd y ddelwedd o'r hunan (self- concept) oedd gan y siaradwyr/-wragedd Hwngarian yn effeithio ar yr iaith yr oeddynt yn siarad.

Ni allai Hannah rannu'i frwdfrydedd ynglŷn â'r ddelwedd newydd.

Un elfen bwysig yw'r arweinydd carismatig Lucien Bouchard, roedd ei ddelwedd ef yn gadarnhaol dros ben tra bu delwedd Chretien yn un affwysol yn Que/ bec ers cryn amser.

Cymhellion gwahanol garfannau o rieni o blaid addysg Gymraeg; pa ddelwedd o'r Gymraeg neu ddisgwyliadau sydd gan rieni dros eu plant wrth eu hanfon i ysgol Gymraeg; pa ddelwedd sydd gan "Yr Ysgol Gymraeg" fel sefydliad, heb sôn am ysgol unigol?

Bydd y diwydiant twristiaidd ac economi'r ardal yn elwa'n fawr yn ogystal â Chymru, a fydd yn cael hwb i'w ddelwedd drwy'r byd, meddai Bwrdd Croeso Cymru'r wythnos hon.

Daeth y drych-ddelwedd i fod yn bwysicach na'r realaeth; y teyrn ar ddelw Duw a helaethodd fframwaith cymhleth y llys.

Cyn i mi wneud hynny arferwn dybio fod y bardd, wrth syllu ar donnau'r môr yn torri ar graig, a hynny o bellter teg, yn sydyn wedi eu 'gweld' fel cŵn ymosodol; hynny yw, fod y ddelwedd o gŵn ysgyrnygus wedi ffrwydro i'w feddwl yn y fan a'r lle, yn syfrdanol o uniongyrchol felly.