Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddemocrateiddio

ddemocrateiddio

Hyderwn y bydd cyhoeddi'r ddogfen hon -- law yn llaw â dulliau eraill o weithredu -- yn sbarduno trafodaeth ac yn ennyn cefnogaeth i ddeddfu er mwyn gosod seiliau cadarn i ddatblygu'r iaith Gymraeg yn iaith genedlaethol, fyw i Gymru gyfan fel rhan o'r broses ehangach o ddemocrateiddio ein gwlad.

Cred Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod creu dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg yn un o brif gyfrifoldebau pobl Cymru a bod hynny yn rhan allweddol o ddemocrateiddio ein gwlad a chreu gwell dyfodol i'n pobl a'n cymunedau. Nid ydym yn derbyn fod y Gymraeg yn perthyn yn unig i'r ychydig rai a gafodd fynediad iddi drwy hap a damwain eu magwraeth a'u haddysg, ond yn hytrach y mae'n perthyn i bawb o bobl Cymru fel etifeddiaeth gyffredin, ac yn un o brif nodweddion Cymru fel gwlad.