Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeng

ddeng

Fe â'r firws i mewn trwy'r geg a'r gwddf, ac wedyn mae'n cynyddu yn y corff mewn celloedd arbennig am ddeng niwrnod cyn ail-gyrraedd y gwaed ac achosi pothelli ar y croen a thu fewn y gwddf.

Y sgôr oedd 1 - 0 i Roma - gôl i'r eilydd Gianni Guigou ddeng munud o'r diwedd.

Wythnos o leiaf, a chyda thipyn o stilio hyd yn oed ddeng niwrnod.

Wedi bod mewn bws am bron i ddeng awr yn teithio ar draws y paith sych roedd gweld y cwm gwyrddlas yn fendigedig.

Arhosais i bethau ddod atynt eu hunain ryw ychydig: y fegin yn dal i weithio er bod yr esgyrn yn ratlo ar ôl y glec, ac roedd y byd yn dechrau sadio wedi fy nhaith din-dros-ben drwy'r awyr ar ddeng milltir ar hugain yr awr.

Ymhen ychydig ddyddiau cefais alwad ffôn ganddo yn dweud bod y telerau'n dderbyniol ac yn gofyn inni fynd yno ymhen pythefnos, aros am ddeng niwrnod, ac y byddai ef yn danfon ticedi inni trannoeth.

Mae sylwadau Alun Richards yn ei gyfrol hunan- gofiannol ddiweddar, Days of Absense, yn llai llym na'r hyn a geid ganddo ddeng mlynedd yn ol.

Ar ôl rhyw ddeng munud o'r distawrwydd yma, daeth llais dros yr uchelseinydd i gyhoeddi y byddai 'cwshti' yno'r noson ganlynol yn ogystal, ac y byddai'r "hogiau lleol yn siwr o orchfygu% eu gelynion y tro nesaf.

Dyma fe 'nawr yn gorfod sefyll wrth groesfan ddwyreiniol Llanelli cyn mynd i mewn i'r orsaf am arhosiad arall o ddeng munud.

Rydw i wedi'i gadw fo a'i fam am ddeng mlynedd, ac mae'n hen bryd iddo fo ddechrau talu peth o'u ddyled yn ol imi." Gwylltiodd Rees yn gaclwm.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach carcharwyd Kevin O'Kelly, gohebydd Radio Telefis Eireann, am wrthod cadarnhau, mewn llys yn Nulyn, mai Sean MacStiofain -- y gwr ar brawf - oedd yr un y bu'n ei gyfweld ar gyfer ei raglen radio.

Cefais ddeng mlynedd hapus ar y staff, blwyddyn i ddechrau gydag Aneirin Talfan Davies yn Abertawe a'r naw mlynedd arall gyda Sam Jones ym Mangor.

Fe gollodd'i dad ddeng mlynedd yn ol, pan oedd o'n saith oed.

Cafodd Chris Summers gôl i Ferthyr ddeng munud cyn y diwedd, ac er i'r ddau dîm gael cyfleoedd yn y diwedd ni chafwyd gôl arall.

Eisiau siarad â dyn yr oedd hi, dyn cymharol ifanc ddeng mlynedd yn ôl, a dywedai wrthyf, 'Mae hi'n unig yma, ac yr ydw i'n fed-up - yn union fel petai hi'n ferch ifanc heb oed, heb boints ar nos Sadwrn, yn defnyddio iaith a oedd yn gymhwysach i'r Chweched Dosbarth nag i Frenhines Llên y Cymry.

Lladdodd yr un fwled honno dros ddeng miliwn o bobl.

Mae'n ymddangos fod Syr Simon a Ledi Gysta yn arfar cnoi pob tamaid ddeng waith a thrigain cyn ei lyncu.

Daliasant y bws yn ôl i'r pentref gan gyrraedd yno o fewn rhyw ddeng munud wedi i'r gloch ganu.

Yna gadael y trwyth i sefyll am ddeng munud.

Roedd hyn ddeng mlynedd a mwy, mae'n debyg, cyn Y Cyhoeddiad, ond dyw hi ddim yn hawdd mesur amser yn N'Og, fel y gwyddoch.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru a'r dathlu a'r protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfa'r frenhiniaeth heddiw.

Ac un o'r rhai lleiaf sicr o gadw ei le sgoriodd gais gyntaf Cymru - Dafydd James yn gwthio'i wrthwynebydd o'r naill du cyn rhedeg yn glir ar ôl ychydig dros ddeng munud.

Tylino yw'r gair am hyn, a rhaid ei wneud am o leiaf ddeng munud.

Dyna paham y mae'n arferiad i ddangos yn y cyfrifon y ffigurau cyfatebol am y flwyddyn flaenorol, ac yn wir bydd llawer o gwmni%au cyhoeddus yn ychwanegu tablau o ffigurau allweddol dros gyfnod o, efallai, ddeng mlynedd.

Cawsom sgwrs dda - a thra yr aeth Randall i nôl peint i Syd Aaron cefais ddeng munud i sgwrsio gyda'r hen wariwr hwnnw.

Y flwyddyn ganlynol yn Ysgol Haf y Weinidogaeth Iacha/ u yn Aberystwyth, cymerais fendith dros ferch bedair ar ddeg oed a fu'n dioddef ers rhyw ddeng mlynedd gan ffurf ar y cryd cymalau a enwir ar ôl Syr George Frederic Still - y gŵr a wnaeth ymchwil yn y maes hwn - yn Salwch Still.

Ddydd Iau, unwaith eto ail hwylio am y Falkands a phan oedd yn gwawrio ddydd Sadwrn gwelwyd ynys Beachene, ddeng milltir ar hugain i'r de o'r Falklands.

Yn rhugl mewn sawl iaith, daeth draw i Gymru ryw ddeng mlynedd yn ôl a dysgu'r Gymraeg yn Llanbedr pont Steffan.

Cyrhaeddodd trên llythyron gyffiniau Llanelli am ddeng munud wedi naw y nos ond rhwystrwyd y groesfan yno gan fil a hanner o bobl, gan gynnwys llanciau a oedd wedi dryllio ffenestri'r blwch arwyddo gerllaw.

Os symudwn ymlaen ddeng mlynedd i ail hanner y pumdegau gwelwn, er nifer o welliannau bach ond nid dibwys, mai'r un oedd y safle cyfansoddiadol.

Mae nifer yr adnoddau addysgol Cymraeg sy'n cael eu cynhyrchu'n flynyddol wedi cynnyddu ddeng gwaith dros y ddegawd diwethaf.

Fe gyhoeddid rhyw fath o ddyddiadur - dyddiadur a dim ond Suliau ynddo fo - Suliau am ddeng mlynedd ymlaen.

Bydd busnesau, hefyd, yn gwneud cyllidebau am gyfnod hwy na blwyddyn - efallai'n edrych ymlaen am dair, pedair neu ddeng mlynedd.

Mae rhywun yn cymryd yn ganiataol ei bod hi'n rhy ifanc i gofio y wefr gerddorol a sgubodd fyd cerddoriaeth ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Traddodwyd y ddarlith radio hon ddeng mlynedd yn ôl.

'Maen nhw'n dwlu ar blant - gan gynnwys plant o wledydd eraill.' Yn Havana y mae'r Ciudad de los Pioneros, gwersyll haf sydd â llety i ddeng mil o blant.

Mewn stadiwm fechan wedi'i hadeiladu'n bwrpasol yr oeddem yn reslo - roedd yno dair mil yn gwylio bob nos am ddeng noson.

Dwy law ar y llyw ar hyd yr amser piau hi, a hynny am ddeng munud i ddau.

Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr yng Nghasnewydd ddeng mlynedd cyn troad y ganrif.

Diau i'w ddull o ysgrifennu effeithio ar lawer un arall, oherwydd darllenid ei weithiau, yn erthyglau a llyfrau, gan bob llenor o Gymro yn gyson am dros ddeng mlynedd ar hugain.

O'r diwedd dedfrydwyd Sidley i ddeng mlynedd o garchar, gan roi terfyn ar y bartneriaeth rhyngddo a Harrison.

Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Pêl-droed Lloegr mae na gytundeb na fydd y cae yn cael ei ddefnyddio am ddeng niwrnod cyn y ffeinal.

bu'n llwyddiant mawr a derbyniwyd dros ddeng mil o faneri unigol wedi'u gwneud â llaw i'w huno yn y rhuban hir.

Fodd bynnag, dathlu gwyl ein nawddsant oedd yn flaenaf ym meddyliau criw a ddaeth ynghyd y tu allan i senedd-dy'r wlad am wyth o'r gloch ar fore Mawrth 1 - gryn ddeng awr o'n blaenau ni yng Nghymru.

Rhan o'i ddyletswydd beunyddiol cyn iddo ymddeol oedd cerdded ar hyd trac y rheilffordd ar hyd y gangen a arweiniai o lein Aberystwyth i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn pellter o ddeng milltir, i wneud yn siwr fod pob allwedd, os hynny yw'r term sy'n cyfieithu 'key', yn ei lle rhwng y cledrau ac ochr allanol y cwpanau dur a i daliai.

Fel y dywedodd Saunders Lewis ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, y mae Saeson yn bencampwyr ar ddefnyddio eu hiaith fel offeryn gwleidyddol.

Fe fyddaf yn manylu ar ei flynyddoedd yn Llanrhaeadr mewn darlith yno ymhen rhyw ddeng niwrnod - os gallaf sgrifennu'r ddarlith mewn pryd - ac felly fe fodlonaf ar amlinellu'r hanes yn unig yma.

Ddeng mlynedd yn ôl, dim ond un awyren achlysurol a fyddai'n teithio yno yn ôl y galw o Lundain; erbyn heddiw, gellir hedfan i Krako/ w bob dydd o Heathrow, ac er nad yw'r maes awyr yn fawr iawn, mae'r adeiladau yn welliant sylweddol ar y sied a gofiaf.

Ond cyn belled â'm bod i a'm teulu yn y cwestiwn, mewn cyfnod o ddeng mlynedd ar hugain does neb wedi archwilio'r tū hyd yn oed.

Y mae yna rai sydd wedi derbyn graddau prifysgol am lawer iawn llai nag a gyflawnwyd gan Huw Jones - bachgen o Fôn yn wreiddiol a fu am ddeng mlynedd yn was ffarm cyn troi at y weinidogaeth.

Roedd yr awyren ddeng mil o droedfeddi lan a chyn hir roedd y ddau ddyn yn plymio tua'r ddaear ar gyflymdra o gan milltir yr awr.

Rhaid fod ei frawd Dafydd o oedd yn hŷn nag ef o ryw ddeng mlynedd, yntau, wedi chwarae rhan bwysig yn ei addysg, yn enwedig gan fod pob tystiolaeth yn cytuno fod Dafydd yn naturiol dalentog, fod ganddo gof gafaelgar a dawn ymadrodd, a'i fod wedi darllen 'llawer yn Gymraeg a Saesneg ar hanesyddiaeth, barddoniaeth a ffug-chwedlau'.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ysgogodd mynyddoedd Gilfach Goch ddarn arall o sgrifennu a barodd dipyn mwy o gyffro trwy'r byd nag a wnaeth Huw Menai: Yma, yn How Green was My Valley Richard Llewellyn, wele gynnig myth a allai gymryd lle admabyddiaeth uniongyrchol o draddodiad.

Dros ddeng mlynedd ar hugain o olrhain hanes lleol fe ddarllenais filoedd o gyhoeddiadau o'r un natur.

Rhag ofn i rai ohonoch feddwl am ddefnyddio llwch llif, ni fuasai'n syniad newydd, cofiaf y syniad o'i ddefnyddio yn orchudd rhwng planhigion yn tyfu gael ei weithredu ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Mae mam Aled wedi cadw tŷ ichi am ddeng mlynedd yn ddi-dal - wedi cwcio, golchi, glanhau..." "Mae hi'n gripl." "Hi sydd wedi gneud holl waith y tŷ er 'i bod hi'n gripl.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg am weld Cyngor Ynys Môn yn mynd i'r afael â'r broblem hon ar unwaith drwy wneud ymchwil manwl a pharhaol ym mhob cymuned i'r angen lleol am dai ac eiddo gan lunio strategaeth fanwl i ddiwallu'r anghenion hynny oddi mewn i'r stoc tai ag eiddo presennol ac wrth ddiddymu pob caniatâd cynllunio sydd dros ddeng mlwydd oed ac nas gweithredwyd arno.

Daeth laserau cyflwr solid bell ffordd ers eu darganfod ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.

Sgorion ni bump cais reit ar ddiwedd y gêm - ddeng munud o'r diwedd.

Rhyw ddeng mlynedd sydd ers i'r halting sites gael eu codi.

Ond ni wyddai Seren y bore hwnnw fod ei rhyddid i'w ymestyn am ddeng milltir hir hyd Gastell Newydd Emlyn.

Cyn ei swydd bresennol gyda Panasonic, ef oedd y Rheolwr Prosiectau Peirianneg yn Channel 4, lle y bu'n gweithio am ddeng mlynedd.

Ac ar y pererindodau blynyddol hyn y gwerthai'r bardd gynnyrch ei awen, a bu'n cadw argraffwyr y de yn brysur am gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain.

Ymhen rhyw ddeng munud mae'r gêm yn gorffen, a'r twyllwr, yn naturiol, sydd wedi ennill.

ac un fach wanllyd, ond jiw, rwyt ti wedi byw ddeng mlynedd ar hugen er hyn ny, los!" Ac ymlân, ymlân.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru ar dathlu ar protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfar frenhiniaeth heddiw.

Mae'r rhan fwyaf o'r coed llwyfen oedd yn Llŷn ddeng mlynedd ar hugain yn ol wedi marw o ganlyniad i glefyd a ddaeth i'r wlad o ffwrdd.

Dwi'n meddwl bu raid iddo eistedd lawr am ryw ddeng munud.