Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeniadol

ddeniadol

Fel gyda gweddill y llyfrau, mae'r lluniau sy'n cyd-fynd a'r stori yn ddeniadol o syml a'r llyfr ei hun yn fach ac yn dwt ac o faint cyfleus i'w ddarllen yn y gwely.

Meddai Gill Brown, cyn athrawes gelf a chrefft sydd bellach yn Reolwr Datblygu Sgiliau Personol a Chymdeithasol yr Antur, 'mae hyn wedi rhoi hyder anhygoel iddyn nhw.' Mae'r siop yn ddeniadol, a'r silffoedd yn llawn o nwyddau amrywiol.

Nid oedd ei lygad tro ef na'r ffaith fod ganddo y naill fraich beth yn fyrrach na'r llall yn ei wneud ef yn ŵr arbennig o ddeniadol i neb.

Gyda'i llygaid mawr llwydlas a'i chroen golau clir, mynnai ei chymdoges Mestres Sienet Watcyn, Ysgubor Fawr, a'i hadnabu ers ei genedigaeth, bod merch yr hen Sgweiar yn ferch ddeniadol tu hwnt, yn hynod o debyg i'w thad o ran cymeriad yn ogystal a phryd a gwedd.

Canmolodd y beirniaid drylwyredd y ddau safle, a oedd yn swmpus, yn drefnus, yn sylweddol ac yn ddeniadol.

Gan fod y tafarndai a chlybiau yn fannau cyfarfod mor boblogaidd i ieuenctid y fro mae'n hanfodol bwysig i ni geisio cyflwyno'r Gymraeg mewn modd mor ddeniadol â phosibl i'r cylchoedd hyn.

Hwyrach fod yna well ffyrdd o fynegi'r uchod ond, yn anffodus, er mor ddeniadol y mae'r 'Drydedd Theori' yn swnio mewn crynodeb, yr un yw arddull gweddill 'Y Llyfr Gwyrdd'.

'Ar ben hynny mae'n ddeniadol iddyn nhw gael chwarae gartre.

'Rydw i eto i allu gweld rhywun sydd â'r gallu i chwerthin yn ddeniadol.

Dyna beth sy'n gwneud Saunders Lewis yn ddeniadol.

'Y siom mwyaf oedd gweld y ffenest, a arferai fod yn lliwgar ddeniadol ac yn llawn bywyd, mor wag.

Roedd hi'n ferch hynod o ddeniadol a gosgeiddig ac ar adegau gallai ymarweddu'n ddigon swynol.

Rwyt ti'n ferch mor ddeniadol, felly mae'n rhaid iddyn nhw gael cydio'n dynnach fyth.'

Gwyddai ei fod e yn ei chael hi'n ddeniadol a gobeithiai, ymhen amser, y tyfai'n hoff ohoni, ond credai na fyddai byth yn ei charu gan y cant : ddim ymhen deng niwrnod na deng mis na deng mlynedd.

Dan fwngial awgrymodd rhai gwyr oedd a gwragedd ifanc y dylid ei ysbaddu, ond roedd hynny'n rhy beryglus i un yn ei oedran ef ac ni allent fforddio ei golli Chwerthin am ben yr awgrym a wnaeth hynafgwyr y llwyth Y gwir oedd nad oedd yr un o'r gwragedd ifanc y daeth Hadad yn agos atynt yn ddeniadol iawn yn ei farn ef, a byddai'n rhaid iddynt hwy dalu â'u bywyd pe baent yn dangos ffafriaeth tuag ato.

Pan fu esgob Llandaf yn ei holi, flynyddoedd cyn hyn, am fod ei waith yn tramgwyddo rheolau'r eglwys, dywedodd Wroth wrtho, "Mae eneidiau'n mynd i uffern, f'Arglwydd, yn eu pechodau; oni ddylem ymdrechu ym mhob modd posibl i achub eneidiau?" Ac yn ei lyfr, Glad Tydings, rhoes Cradoc fynegiant eithriadol ddeniadol i'r genadwri Gristionogol, mynegiant sy'n rhoi awgrym inni o'r ysbryd a oedd yn ysgogi'r gweithgarwch o dan Ddeddf y Taenu.