Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dderbyniai

dderbyniai

Byddai arweinwyr y mudiad i godi eglwysi newydd - a dderbyniai gryn gymorth gan y Llywodraeth yn cyson alw sylw at esgeulustod digywilydd y diwydianwyr a wrthodai ddarparu rhagor o addoldai yn ardaloedd eu gweithfeydd.

Dyna'r enw ar y rhenti blynyddol a dderbyniai Llywelyn Ap Gruffydd.

Ni dderbyniai Esgob Bec gydnabyddiaeth am ei swydd fel deon, hyd oni ddyrchafwyd prebendari Llanarth yn ddeon.

Cafodd rhai o'r Tseineaid y tu allan i'r gwersyll ganiatâd i anfon ychydig o fwyd a ffrwythau i ffrindiau y tu mewn, ac ymhlith y rhai a dderbyniai ambell ffafr o'r fath roedd swyddog o'r enw Capten Lewis, a oedd yn enedigol o Gwrt-y-Betws, Sgiwen, ac nid anghofiaf byth ei garedigrwydd tuag ataf yn rhannu â mi o'i ychydig prin.

Y Saesneg oedd piau pob polisi ac nid oedd neb o bwys yng Nghymru na dderbyniai'r drefn anorfod.