Proses a dderbyniem fel cwrs bywyd ymhen y blynyddoedd, ond nid nawr, ddim ym misoedd cyntaf ein cariad pan ddylem ddal i fod yn llawn o'r rhyfeddod hwnnw a lanwodd y dyddiau oddi ar i ni gwrdd.
Ambell dro caem ychydig o gawl tatws melys, gyda dail y tatws yn gymysg ynddo, a byddai'n ddiwrnod mawr pan dderbyniem ddyrnaid o datws neu ddiferyn o laeth neu jam neu siwgr.