Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dderbyniwyd

dderbyniwyd

'Roedd swyddogaethau cynllunio a thai awdurdodau lleol yn amlwg ymhlith y cwynion a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn.

Affos ei hun a feirniadodd hefyd, ond rywfodd neu'i gilydd ni dderbyniwyd ei feirniadaeth mewn pryd i'w chyhoeddi.

Ffeil wag a dderbyniwyd gan un ysgol ail iaith uwchradd!

Ni dderbyniwyd unrhyw g^wyn swyddogol.

ETHOLIAD SWYDDOGION Cyhoeddwyd na chafwyd ond un enwebiad yr un am y swyddi dwy flynedd canlynol:-Cadeirydd Jo Weston Trysorydd Mandy Wix Un enwebiad yn unig a dderbyniwyd ar gyfer un lle gwag ar y Pwyllgor Gweithredol ac felly etholwyd Sybil Crouch.

Wrth baratoi'r cynllun fe cymerwyd i ystyriaeth sylwadau cynghorau cymuned a thref a dderbyniwyd ar ffurf holiadur.

Tynnwyd sylw y llynedd at y cwynion a dderbyniwyd parthed methiant rhai awdurdodau cynllunio i ufuddhau i bolisi%au cynllunio a chwynion bod rhai penderfyniadau cynllunio yn wrthnysig.

Diolch hefyd ma yr holl gardiau, llythyrau, a'r rhoddion a dderbyniwyd er cof tuag at Ymchwil y Galon.

(c) Mesuriadau Rheoli Trafnidiaeth, Beddgelert CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan Gyfarwyddwr Priffyrdd y Cyngor Sir yn rhoddi manylion am fwriad y Cyngor Sir i gyflwyno gorchymyn traffig er gwella'r tagfeydd a rhwystrau a oedd yn bodoli ar rai strydoedd yn y pentref ac yn gofyn am sylwadau'r Cyngor hwn.

Nododd sawl athro bwyntiau canmoliaethus a manwl: ...wedi llwyddo dehongli `jargon' y CC mewn termau dealladwy a chlir.....`themau trawsgwricwlaidd', `deimensiynau traws- gwricwlaidd' a `cymwyseddau trawsgwricwlaidd' yn enwedig...; dyma un o'r pecynnau mwya ymarferol a defnyddiol a dderbyniwyd gan yr adran erioed...

Canmolwyd safon y gystadleuaeth gan y beirniaid er mai dim ond chwe awdl a dderbyniwyd.

Ni dderbyniwyd ymateb sylweddol ers hynny.

Yr oedd staff yr Adran Iechyd Amgylchedd wrthi'n cywiro'r adroddiad drafft a dderbyniwyd gan NURAS a phan dderbynnid yr adroddiad terfynol fe anfonnid copi ohono i'r Swyddfa Gymreig ac i'r Aelod Seneddol.

CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio ar lythyr a dderbyniwyd gan y Cyngor Sir yn tynnu sylw at swydd newydd a fwriedid ei chreu yn y dyfodol agos gyda chymorth Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop sef Swyddog Rheilffordd Cymuned.

Mae pob swyddog Undeb yn rhwyn i weithredu polisiau a dderbyniwyd yn eu Cynhadleddau blynyddol, rheini wedi eu mabwysiadu gan bleidlais deg.

'Roedd yr achosion o gamweinyddu a dderbyniwyd yn bennaf yn y meysydd cynllunio, tai, addysg a phriffyrdd.

Canys mwy trist na thristwch oedd deall mai Miriam oedd yr unig blentyn punp oed a siaradai gymraeg o blith naw o blant a dderbyniwyd i ysgol Llangybi y flwyddyn honno wedi gwyliau'r haf, a hynny yn un o gadarnleoedd 'tybiedig' yr iaith.

Ni dderbyniwyd ateb hyd yn hyn a chynigiwyd y dylid anfon atynt umwaith eto.

Papur Ymgynghorol ar Ardaloedd Cadwraeth oedd yr ail ddogfen a dderbyniwyd a oedd wedi ei pharatoi yn arbennig er ennyn trafodaeth ar yr angen am reolaeth cynllunio tros ddatblygiadau bychain oddi mewn i ardaloedd cadwraeth.

'Yn y cyfwng hwn y daeth swyddogion y BBC ymlaen gyda chynnig rhagorol, a awgrymwyd i gychwyn gan Mr T. Rowland Hughes, ac a dderbyniwyd yn llawen ac yn ddiolchgar gan ein Pwyllgor fel gwasanaeth cenedlaethol gwirioneddol.