Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddethol

ddethol

Gosodwch y cyrchwr o flaen y gair nid a llusgwch ar draws y gair fel ei fod yn cael ei ddethol.

Cliciwch unwaith tu allan i'r Wali Tomos - mae hyn yn dad-ddethol y testun - ac fe ddylai fod gennych:

Mae cyrn yn un o'r nodweddion yr edrychir arnynt wrth ddethol hyrddod Mynydd Cymreig.

O fewn pob thema ceir cyfres o benodau sy'n rhedeg yn gronolegol, ac mae modd i'r athro a fyn ddelio â chyfnod yn ei gyfanrwydd ddethol y penodau perthnasol o fewn pob thema.

Bydd dewiswyr y Llewod yn cyfarfod heddiw i ddethol y 37 fydd yn mynd i Awstralia yn yr haf.

A chan mor ddeallus, gan mor fonheddig, gan mor sophisticated ydynt, mae'u hymddiddan yn ddethol, ac yn cuddio lawn cymaint ag a ddatguddio.

Symudwch y saeth at fotwm Word Processor a chliciwch arno i'w ddethol (fel ym mae i'w weld yn y diagram uchod), yna cliciwch y botwm OK i agor dogdfen newydd yn ClarisWorks.

I ddiffinio bwriadau, targedau ac amcanion I drefnu profiadau dysgu mewn gwyddoniaeth sydd yn ystyrlon a pherthnasol ar gyfer disgyblion a phob math o allu ac o bob oed yn amrediad yr ysgol uwchradd I ddethol, defnyddio a rheoli'n effeithiol y cwmpas llawn o ddefnyddiau ac adnoddau sydd ar gael I drefnu a chadw trefn ar wersi theori a gwersi ymarferol fel ei gilydd I fod yn sensitif i anghenion disgyblion ag anawsterau dysgu, disgyblion a gallu arbennig a grwpiau ethnig lleiafrifol I feithrin y sgiliau rhyngbersonol priodol ar gyfer cyfathrebu â disgyblion, rhieni a phobl broffesiynol Sgiliau Labordy Paratoi defnyddiau labordy ar gyfer dysgu Arddangos arbrofion a thechnegau ymarferol i'r disgyblion Rheoli gwahanol fathau o wersi ymarferol Gwybodaeth Wyddonol Y mae gan y myfyrwyr i gyd radd yn y gwyddorau ond bwriad arbennig y cwrs yw estyn ac ehangu eich profiad yn y canlynol:

Gallwn glywed y doctor yn stwna y tu ôl i'w sgrin a'i arfau'n tincial wrth iddo ddethol o'i ffiolau a'i chwistrelli a sisial yn ddistaw wrtho'i hunan.

Ceir llyfryddiaeth ddethol, a Rhagymadrodd gan y golygydd.

Er hynny ni fu ymgais wyddonol i wella anifeiliaid hyd at y ddeunawfed ganrif pan ddechreuodd gwyr fel Robert Bakewell ddethol anifeiliaid ar sail mesuriadau ac amcanion arbennig.

Cliciwch tu allan i'r gwrthrych i'w ddad-ddethol.

Oherwydd natur ddethol yr aelodaeth bron na ellid dadlau fod dechreuad y Dafydd i'w olrhain yn ôl i gyfarfyddiad cyntaf OM Edwards a Puleston Jones â John Morris Jones.

Pwysleisia Puleston natur ddethol y gymdeithas wrth adrodd am y cyfarfod ar ôl y cyfarfod sefydlu.