Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeuai

ddeuai

Eisoes, cynhwysai'r grŵp bychan o swyddogion ac aelodau'r pwyllgor rai a ddeuai, ymhen amser, yn llenorion Cymraeg praffaf eu cenhedlaeth ac yr oedd natur y Blaid fel mudiad iaith a diwylliannol yn amlwg.

Pan ddeuai'r glaw trwm yn yr haf, byddai'r afon yn gorlifo, gan orfodi cannoedd o deuluoedd i ffoi o'u cartrefi rhag y dwr a'r carthion.

I'r teithiwr dieithr a ddeuai am dro o Lundain, dyweder, i berfeddion gwlad Cymru, rhan o Loegr oedd y wlad o'i gwmpas.

Yn aml iawn fe ddeuai llais Rwsiaidd ar y lein yn rhybuddio'r un oedd yn galw fod honno wedi mynd am ei swper ac felly roedd rhaid aros tan iddi ddychwelyd cyn ein cysylltu ni â Phnom Penh.

Yr oedd hyn yn brofiad digon diflas yn aml; llosgi ystafell mewn neuadd neu ysgol mewn pentref, penodi dyddiad a threfnu siaradwr; hwnnw weithiau'n tom'i gyhoeddiad ar y funud olaf ac nid oedd dim amdani ond mynd yno fy hun a chyhoeddi neges y Blaid cystal ag y gallwn Ni chaem fawr ddim cefnogaeth mewn aml ardal, ychydig a ddeuai i'r cyfarfodydd a drefnid - rhyw hanner dwsin a llai na hynny yn aml ac weithiau neb yn troi i fyny.

Gwrthod caniatâd i'r cynghorwr gobeithiol a wnaeth y Pwyllgor Gwaith; yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau'n pallu credu na ddeuai'r cynghorau i wybod mai oddi wrth y Blaid y daethai'r cynllun, ac felly tybient fod cystal i'r Blaid fynnu clod cyhoeddus am gyflwyno cynllun pwrpasol, er na ddeuai dim budd o'r cyflwyno.

Diolch byth, yr oedd y llanw wedi troi a blas yr heli yn ei ffroenau, fe ddeuai ffrwd o fywyd newydd i'r harbwr gyda'r llanw i ysgubo'r surni oedd ar y tywod ac o'i hysgyfaint hithau.

Y peth cyntaf y sylwodd Gatti arno oedd y drewdod dychrynllyd a ddeuai o'r ogof.

Rhaid iddi beidio â chymryd ei siomi os na ddeuai i'r fei.

Cofiai Joe gryn drigain o chwareuwyr gwyddbwyll a ddeuai i wylio neu i chwarae wrth naw neu ddeg bwrdd, fore, pnawn a nos yn ystod misoedd y gaeaf.

Cof plentyn yn unig oedd ganddi amdano a'r cof hwnnw'n ddelwedd o ryw Siôn Corn, un a ddeuai ag anrhegion iddi, ac a arhosai am gyn lleied o amser nes gwneud pob ymweliad yn ŵyl.

Roedd ofn yr onnen ar nadroedd ac ni ddeuai un ar gyfer neb oedd yn cario ffon onnen.

Roedd Miss Megan Jones, Trefnydd y Clybiau ar y dechrau, yn ffrind personol iddi, ac i'r Plas y byddai Miss Jones yn dod i aros pan ddeuai i'r cyffiniau ynglŷn â'i gwaith, megis i sefydlu clybiau newydd.

Ond roedd y ddadl honno ar ei mwyaf emosiynol pan ddeuai materion crefydd a Chymreictod i gyffyrddiad â'i gilydd ym mhwnc mawr yr oes - Addysg.

Yr un modd dangosodd ef a Mrs Davies letygarwch hael yn y mans, Tre Hywel, Ffordd y Garth Uchaf, tuag at y llu myfyrwyr a ddeuai i Fangor.

Ond meddiannwyd eraill hefyd, gan ofn a phryder ynglŷn â'r posibilrwydd nad oedd dim yn y pen draw a oedd yn werth marw er ei fwyn, a phan ddeuai'r Rhyfel i ben, oni ddeuent o hyd i ystyr bywyd o'r newydd, syrthient yn ôl i gyflwr o ddifaterwch neu anobaith, wedi eu gorthrymu gan ddiflastod ac oferedd bywyd.

Roedd yn storm filain a ddeuai'n nes o hyd ac eisteddodd ar reiddiadur tra'n egluro i'r plant nad oedd rhaid iddyn nhw bryderu ac y gellid cyfrif mewn eiliadau i fesur y pellter rhwng y storm a'r ysgol.

Beth ddeuai ohoni petai Rick yn priodi'r hogan 'na?

Nid eu bod yn diystyru'r gwelliannau a ddeuai i fywyd bob dydd eu praidd cofiwch.

Pan ddeuai'r rheolwr wyneb yn wyneb â Phil gellid meddwl fod dau gydradd wedi cyfarfod â'i gilydd, a pheth cwbl haeddiannol oedd barn y rheolwr mai Phil oedd y gweithiwr gorau yn y gwaith.

Gwybod fod tynged pob pregethwr yn 'i feddiant o, ac y gallai estyn cymorth a chalondid neu siomiant a phryder i bob un a ddeuai yno i bregethu?

Ond nid oedd Herriot yn meddwl llawer o'r syniad, oherwydd ni allai dderbyn y gallai rhoi rhywbeth yng ngheg un bibell byth ddylanwadu ar beth a ddeuai o din un arall!

Gollyngodd y gyrrwr lw arall, un cryfach y tro hwn, ac edrychodd o'i gwmpas i weld a ddeuai gwaredigaeth o rywle.

Cyfeiriodd hefyd at y drychiolaethau o brifeirdd (primitive poets) neu'r 'cyntefigion Beirdd Ynys Prydain', nid amgen, Plennydd, Alawn a Gwron, sylfaenwyr dysg y Beirdd (yn ôl Iolo Morganwg), y drindod a fyddai'n symbylu'r Awen yn ymwybod y Beirdd a ddeuai i'r cylch.

Hyd at yr adeg yma arferai gredu mai hi oedd piau'r pethau ychwanegol a ddeuai gyda'r defnyddiau ond yn awr sylweddolodd y byddai'n lladrata wrth fynd â'r bluen, ac er i'r bluen fod yn demtasiwn fawr iddi'r bore hwn, rhoes heibio'r arferiad.

Ni ddeuai Prydain i fodolaeth am ganrifoedd, na'r syniad o Brydeindod.

Pan ddeuai'r ferch draw i ymweld ag ef, gwelai Sian ei fod yn awr byth a hefyd a'i fryd wedi'i ennill gan y diddordeb annifyr hwn.

Pan ddeuai'r rhagymadrodd i ben, yr un oedd y fformiwla bob tro.

Fe ddeuai pob dim i'w le yn y man.

Bangor R. Tudur Jones Pobl a ddeuai o ben pellaf Môr y Canoldir yw'r trigolion nesaf y mae eu holion i'w cad yng Nghymru.

Doedd gweddill y cymorth a ddeuai o'r Undeb Sofietaidd - prisiau ffafriol am siwgr yn arbennig - ddim yn ddigon i greu economi ffyniannus.

Ar ôl ymweld â mynwentydd yr ardal, chwilio cofrestri'r plwyfi cyfagos a holi rhai o ddisgynyddion y teulu yn nyffryn Aman a'r cylch, cesglais dipyn o wybodaeth am y Wythi%en Fawr, gan feddwl croniclo'r hanes mewn rhyw fodd neu'i gilydd pan ddeuai gwell hamdden yn y dyfodol.

Oherwydd llwyddiant yr Ysgol Sul yn y Capel Mawr, a'r nifer a ddeuai ynghyd, teimlwyd angen am sefydlu amryw o ganghennau iddi, ac fe wnaed hynny.

Gyrrent eu plant i ysgolion Saesneg, a phan ddeuai'r cyfle mudent i Loegr eu hunain.

Safem ninnau'n un rhes wedi dysgu ein carolau ac yn barod i'w canu pan ddeuai.

Wedyn, pan ddeuai pregethwr i'r eglwys honno, a phlesio'r dyn llyfr bach, byddai hwnnw'n galw arno o'r neilltu ar ddiwedd yr oedfa ac yn gofyn iddo ddod yno i bregethu'r flwyddyn ddilynol.

Arnbell dro fe ddywedai hanes yr heicwyr a'r dringwyr a ddeuai'n barhaus at ddrws ei fwthyn i ofyn am gysgod neu ddwr poeth--"Tydw' i'n trystio'r un diawl ohonyn' nhw, wyst ti.

Iddi hi yr oedd Y Groglith yn fwy defosiynol o lawer a byddai rhaid i ni aros bob amser pan ddeuai'n dri o'r gloch brynhawn Gwener y Groglith i geisio meddwl am Iesu Grist ar y groes rhwng y ddau leidr.

Oni bai am y gangiau o labrwrs a ddeuai yno i weithio o'r India, Pakistan ac Iran, wn i ddim beth fuasai hanes y lle.

Bu hwn yn cyd-weithio â Bowser i sefydlu harbwr i allforio'r glo a ddeuai o Gwm Capel a'r mannau eraill.

'Blydi iypis Cymraeg,' gwaeddodd y llabwst i gyfeiriad sŵn corn siarad a ddeuai o ganol y dref.

Y rhedyn melys a ddeuai ag atgofiom fil am ddyddiau diofal ieuenctid.

Un arall oedd y Teifi, llong Capten Robert Roberts Mynytho (Robin Carmel) a ddeuai fel amryw o rai eraill i lwytho ithfaen o chwareli Llanbedrog.

Yna fe ddeuai Bigw atom yn flin, a gofyn, 'I be oeddech chi eisiau dweud wrth Mami?' a golwg gyhuddgar yn ei llygaid.

Ond ta-ta i'r hen grechwen foddhaus honno a ddeuai gyda'i luniau o fethiannau jocis.

Addawodd y byddai ef gartref bob bore dydd Llun pan ddeuai i lanhau ac y byddai'r cŵn wedi eu cau allan yn y cefn cyn iddi gyrraedd.

A'r unig ateb a ddeuai imi oedd mai tybiae~h yw'r stori ei hun.

Cysgu roedd ef mewn ogof rywle yn Nyfed, ac fe ddeuai'n ôl ryw ddiwrnod i achub ei bobl pan fyddai ei angen, ac i hawlio ei etifeddiaeth fel gwir Dywysog Cymru.

Arferent addoli nwyddau oherwydd credent mai duwiau oedd y bodau estron a ddisgynnai o'r awyr yn eu peiriannau rhyfel ac a ddeuai ag anrhegion gyda hwy.

Y mae yma rai yma a thraw a ddigwyddai fod yn fugeiliaid ar breiddiau eraill yn yr un dref, a diau fod fy mam, fel sawl gwraig dda arall, wedi rhoi llety i rai o'r brodyr a ddeuai i Sasiwn a Chymanfa ac Undeb.

A ddeuai neb byth oddi yno chwaith.

Ac eto, y tu allan i'r stribedi culion o olau trydan a ddihangai rhwng y llenni duon dros y ffenestri, roedd y byd mawr yn dywyll a dieithr, yn llawn ofnau am yr hyn a ddeuai yfory drwy law'r postman am hynt a helynt plant y plant a aeth i ffwrdd i Affrica, i'r Dwyrain Pell ac i bob man lle ceisiai Prydain Fawr ddal rhyw afael ar ei thiroedd ar hyd a lled wyneb y ddaear.

Pan ddeuai diwedd pnawn nid oedd llawer o sefyllian yng nghyffiniau'r ysgol, dim ond ras am adref, waeth pa mor bell oedd hwnnw.

Soniwyd eisoes am y tyrfaoedd a ddeuai i wrando ar Wroth.

Bryd hynny 'roeddem yn adnabod pob cwch yn y bae ynhgyd a'r llongau a fyddai'n galw'n achlysurol, megis y Charles McIver, llong berthynol i Trinity House a ddeuai i archwilio goleudy St.

Tua phedwar o'r gloch, a hithau wedi gorfod cydnabod yn anfoddog na ddeuai o hyd i ddarlun arall yn y llyfrgell, magodd blwc i fynd i'r seler.

Ac eto 'roedd e'n ŵr cadarn ei farn ac yn gwbwl ddi-ddroi'n-ôl pan ddeuai hi i'r pen.

Roedd ganddo bâr ifanc newydd briodi yn gymdogion, ac yr oedd gan y gūr hen fodryb gefnog a ddeuai i aros hefo nhw ar brydiau, ac yr oedd yn amlwg fod yna ddisgwyliadau mawr ar ei hôl.

Ni allai yn ei byw fod yn clywed ei sŵn, i'w tharfu; ni ddeuai chwythiad o wynt o gyfeiriad y bar i ddeffro'r cychod o'u trwmgwsg.

Gadawodd nodyn ar y bwrdd i atgoffa'r bechgyn i alw gyda'r pobydd, ac i gofio cynnig paned i Mr Davies pan ddeuai â'r twrci.

Beirniadol oedd Howel Harris o'r canu ond llwyr orchfygwyd ei ragfarn wrth weld yr effeithiau daionus a ddeuai yn ei sgîl.