Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeuddydd

ddeuddydd

Wedi i'r Morfa Maiden angori yn yr harbwr aed â Catherine Edwards, a'r Capten a'i wraig, i Fwlch-y-fedwen i gael lluniaeth ac aros noson neu ddwy, ond fe gymerodd ddeuddydd arall i'r neges gyrraedd Plas Nanhoron a'r wys i Pyrs y Coetsmon fynd cyn belled â Phenmorfa i gyrchu 'i feistres.

Yn ystod y blynyddoedd cyn hynny, hyd yn oed, roedd The Times yn cael gwybodaeth well na'r llywodraeth ei hun ac fe gyhoeddodd y papur newyddion am frwydr Trafalgar ddeuddydd cyfan cyn i'r Swyddfa Dramor gael gwybod dim.

Ar ddydd Mercher y cyhoeddir y Gwyliwr, ac am ddeuddydd cynta'r wythnos fy mhrif broblem i fel golygydd yw dod o hyd i stori ddiddorol ar gyfer tudalen blaen y papur.

mae'r ymchwiliad i honiadau o drefnu canlyniadau gemau criced wedii ohirio am ddeuddydd gan y Barnwr Edwin King.

Ymhen rhyw ddeuddydd daeth y goruchwyliwr drwy lefel yn y chwarel a gweld nifer o sledi gwag yn sefyll yn ei cheg.

Yn y gêm honno yn erbyn y Gwyddelod gyda llaw y gwnaeth Ian Rush ei ymddangosiad llawn cynta i Gymru, ar ôl ennill ei gap cynta fel eilydd ddeuddydd ynghynt yn yr Alban.

Wedi teithio am bythefnos, roedd y teulu wedi cyrraedd y ffin ddeuddydd yn gynharach.

Dau ddigwyddiad mawr yn Stadiwm y Mileniwm, ddeuddydd o'r bron.

Darlledwyd fersiwn Cymraeg o'r hanes hwn o ddewrder, cariad ac anrhydedd ar S4C ddeuddydd yn ddiweddarach.

Wedi mynd trwy danchwa'r dosbarth Ysgol Sul hwnnw yn Seilo (ac wedi darganfod The Future of an Illusion, o waith Freud yn llyfrgell y Coleg Ger y lli ryw ddeuddydd cyn Sul y danchwa!), 'doedd dim rhaid i mi wrth na Rudolf Bultmann na Phaul Tillich na'r un enaid arall i'm hannog i ddadfythu'r Testament Newydd.

Bydd timau Cymru yn chwarae yng Nghwpan Lloegr dros y ddeuddydd nesa.

Gwahoddwyd yr awdur i roi sgwrs ar Genedlaetholdeb Cymru ar y radio, ond ddeuddydd cyn y darllediad fe dynnodd penaethiaid y BBC y gwahoddiad yn ôl.

Roedd fy nhad wedi cael gwybod ddeuddydd o fy 'mlaen i 'mod i wedi ennill.

'Roedd Ffrainc a Phrydain wedi ymrwymo i amddiffyn Gwlad Pwyl rhag oresgynwyr, ac aeth Prydain i ryfel yn erbyn Yr Almaen ddeuddydd ar ôl goresgyniad Gwlad Pwyl.