Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeugain

ddeugain

Ar wahân i ddeugain munud yn y canol pan yw Pearl Harbour yn cael ei fomio'n ddarnau mân y mae gwylio Pearl Harbour, y ffilm, fel gwylio parodi o'r hyn oedd y ffilm i fod.

Sylweddolais innau, er i bron ddeugain mlynedd fynd heibio, nad oedd digon o ddþr wedi cael ei dywallt ar y tân arbennig hwn, bod perygl o hyd fod rhywun yn credu fod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda chyllid yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhwllheli.

Mae Gwasg Gomer wedi cyhoeddi ymron ddeugain o'i lyfrau i blant, mwy nag un y flwyddyn, ac mae ganddo nofel ar ei hanner ar hyn o bryd!

Mae'n disgrifio'r gwyr a ddylanwadodd arno yn Rhydychen yn ei erthygl "Ddeugain mlynedd yn ôl", sy'n dilyn yn y gyfrol hon.

Hyd yn oed â chadernid statws iaith swyddogol y tu cefn iddi, a dros ddeugain y cant o'r aelodau yn siaradwyr Basgeg, nid yw'r canran hwn yn cael ei hadlewyrchu yn y defnydd o'r iaith Fasgeg yn y siambr a'r pwyllgorau.

Mae'r lens ar flaen y telesgop (y lens sy'n casglu'r goleuni) yn ddeugain modfedd ar draws, y lens mwyaf yn y byd.

Suddodd Miguel Angel Martin ergyd anhygoel o ddeugain troedfedd ar y lawnt ola i fynd a'r gêm i dyllau ychwanegol yn erbyn David Frost.

Bryd hynny lledodd ceudwll y mynydd tanllyd dros ddeugain milltir sgwar ar un ochr i'r ynys.

Rwyf bellach dros ddeugain oed a'r mwyaf y gallaf ei ddisgwyl oddi wrth yr Arglwydd yw bod yn gymar da i William.

Yn fy ngwlad i, Gweriniaeth Slofacia, mae cynnyrch yn dwyn label Sofietaidd wedi cael ei werthu fel y cynnyrch gorau ers dros ddeugain mlynedd: awyrennau Iliushin, fodca Mosgo, theatr Stanislafsci a dull addysgol Makarenko.

Roedd Edna yn nodedig am ei ffydd Gristnogol ddofn a chadarn a amlygwyd ganddi yn ei gweithgarwch yn ei hen gapel Saron am ddeugain mlynedd a mwy.

Gyrru'r car yn wysg ei din am ryw ddeugain llath, a dod o hud i'r ffordd.

Mae gennyf gof byw iawn o hyd o'r pwyllgor hwnnw er fod bron ddeugain mlynedd wedi mynd heibio erbyn hyn.

Yn y lle cyntaf mae gwerth y bunt wedi newid yn syfrdanol, ac yn ail, mae'r Eisteddfod ei hun wedi ehangu ei gorwelion i radau na freuddwydiwyd amdanynt ddeugain mlynedd yn ôl.

Pan oeddwn i'n grwt ar Gefnbrynbrain ddeugain mlynedd yn ôl yr oedd o leiaf dri gŵr yn y pentref a gadwai filgwn, a Dai Milgwn oedd ein henw ar un ohonynt.

Fe allai Caerdydd fod wedi talu'n ddrud, ergyd wych o ddeugain llath gan Sasha Opinel yn rhoi gôl i'r ymwelwyr ac yn brawychu ffyddloniaid Parc Ninian.

Daeth Randall yn bencampwr Prydain yn y gamp ond roedd Syd yn rhy hen i gael cystadlu ac yntau dros ei ddeugain.

Er nad yw canser y pancreas bron byth yn digwydd mewn pobl o dan ddeugain oed, ac er ei fod yn amlygu'i hun trwy achosi clwyf melyn yn hytrach na phoen, gwnaeth y llawfeddyg ddiagnosis o ganser y pancreas.

Wedi iti orffen hyn, gorwedd ar dy ochr dde, a charia bechod tŷ Jwda; yr wyf wedi pennu ar dy gyfer ddeugain o ddyddiau, sef diwrnod am bob blwyddyn.

Wedi rhyw ddeugain niwrnod, mwy neu lai, deorodd yn alefin bach a'i fwyd mewn sach dan ei fol.

Bron ddeugain mlynedd yn ôl, dan gyfaredd Buchedd Garmon, rhuthrais i brynu Siwan a Cherddi Eraill.

Ciledrychodd unwaith eto ar y cloc ar y wal uwchben Williams a nodi bod y Ditectif Prif Arolygydd Clem Owen yn awr dros ddeugain munud yn hwyr.

Agorodd pob un o glwyfau'r hen sgarmes, er eu bod wedi gwella mor llwyr ddeugain mlynedd yn ôl.

Mi fydda i'n ddeugain ymhen rhai misoedd ac yn cael ychydig ar y naw o ymarfer corff, i'r fath raddau fel fy mod i wedi dechrau cerdded milltir neu ddwy bob nos er mwyn ceisio cadw'n fwy heini.

Bu'r ddau ohonom yn ffrindiau calon am ddeugain mlynedd.

Ddeugain mlynedd yn ôl i eleni roedd CPO Wren Evans yng ngorymdaith Dydd y Coroni yn Llundain.

Erbyn hyn roedd yr ymchwil am hunaniaeth wedi cychwyn o ddifri ac am ddeugain mlynedd beichiwyd llenyddiaeth Cymru (yn enwedig y rhan Saesneg) a'r rheidrwydd i archwilio lle'r hunan, a lle'r genedl yn y byd.

Y mae llifeiriannau-iâ hefyd wedi gadael eu hôl yn arbennig yng nghyffuniau Pegwn y Dê sy'n golygu i Fawrth, ar un cyfnod o leiaf, fod yn berchen ar gapanpegynol a ledaenai hyd at ledred o gryn ddeugain gradd.

Y mae Prisiau'r llyfrau hyn i'w pennu a'u gosod gan yr Esgobion a enwyd a'u Holynwyr, neu gan dri ohonynt o leiaf; os bydd i'r Esgobion a enwyd neu eu holynwyr beidio â gwneud y pethau hyn, Yna bydd i bob un ohonynt fforffedu i'w Mawrhydi y Frenhines, ei Hetifeddion a'i Holynwyr, y swm o ddeugain Punt.

CERDDOR IFANC Y FLWYDDYN: Llongyfarchiadau i Delyth Buse ar ennill y drydedd wobr o ddeugain punt yng nghystadleuaeth "Cerddor Ifanc y Flwyddyn, Clwb Rotari, Bangor".

Nid yw'n ymestyn i rannau helaeth o'r sector gyhoeddus e.e. ni ellir cofrestru genedigaethau a marwolaethau yn y Gymraeg er i'r frwydr hon gael ei hymladd gyntaf bron i ddeugain mlynedd yn ôl.

Pe alle cefnwyr y ddau dîm fod wedi aros yn y stafelloedd gwisgo am yr hanner cynta, gan mai brwydr bersonol rhwng y blaenwyr oedd hi am ddeugain munud cyfan, a Selwyn Williams yn ymddangos yn feistr ar y meistr Gareth Edwards.