Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddeunawfed

ddeunawfed

Yn y ddeunawfed ganrif yr oedd yn arfer gan foneddigion a ymddiddorai mewn ysgolheictod a dysg estyn croeso i wyr galluog i'w tai.

Nid yw hynny'n dilyn, yn enwedig os yr awn yn ol at yr hyn ddywedodd Kant yn y Ddeunawfed Ganrif.

Yn y ddeunawfed ganrif ehangodd y stâd trwy adeiladu dwy gaer anferth ar ei dir, sef Caer Williamsberg a Chaer Belan ar geg orllewinol Afon Menai ger Dinas Dinlle.

Etifeddion oeddynt i'r deffroad ym myd dysg a diwylliant yn y ddeunawfed ganrif a gysylltwn ag enwau megis Lewis Morris ac Ieuan Fardd.

Cyfrol yw hon sy'n cyflwyno anterliwtiau - sef y dramâu hynny yr arferid eu perfformio ar sgwâr y dref, er enghraifft, yn y ddeunawfed ganrif.

Mae James Thomas ar fin creu record newydd drwy chwarae'i ddeunawfed gêm dros y tîm.

Cafodd ei eni a'i fagu yn Llanrwst, ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, yn un o unarddeg o blant.

Mor ddistaw yw'r ddeunawfed ganrif ynghylch Llwyd.

Ond yr oedd y teitl 'academi' yn cydio'r sefydliadau hyn wrth yr academiau anghydffurfiol a sefydlwyd yn ystod Oes yr Erlid yn yr ail ganrif ar bymtheg ac a welodd eu hoes aur yn y ddeunawfed ganrif.

Unig bwrpas y tai cyrddau a godwyd yn yr ardal ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd bod yn fannau cyfarfod i ddynion gael clywed Gair Duw yn cael ei ddehongli.

Gellir cymharu'r ffyniant yn y diwydiant llongau yng Ngogledd Cymru yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg â'r twf yn y diwydiannau glo, haearn a dur yn Ne Cymru.

Un rheswm dros gefnogaeth Burgess i'r Gymraeg oedd fod yr Anghydffurfwyr, a'r Methodistiaid yn enwedig, wedi ennill tir sylweddol yn ei esgobaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif.

Y gwir amdani, a dyna ran o ergyd ganolog Dr Morgan yn ei lyfr, yw fod math newydd o bregethu wedi dechrau blodeuo at ddiwedd y ddeunawfed ganrif a bod haid o bregethwyr wedi mabwysiadu'r dull hwnnw.

Ar ryw ystyr felly y mae ysgolheictod diweddar yn ailgydio (ond gyda llawer mwy o wybodaeth a manyldra hanesyddol) ym mhrif linellau dehongliad cychwynnydd yr ymchwil fodern am yr Iesu hanesyddol, sef Reimarus, gŵr o ddaliadau deistaidd yn y ddeunawfed ganrif a geisiai wrthwynebu'r Gristnogaeth draddodiadol.

Peth wmbredd yn wir o lyfrau prin o'r ddeunawfed ganrif, rhai cannoedd o farwnadau o'r un cyfnod a hen gyhoeddiadau Cymraeg diddorol y Cymreigyddion a gadwai eisteddfodau mewn tafarndai ym Merthyr, Aberdâr a Dowlais.

Ond ddiwedd yr wythnos hon y llynedd pan oeddwn ar wyliau yn yr Alban yr oedd yno goblyn o le wedi i hogan bedair ar bymtheg oed redeg bron yn boeth at Tiger Woods ar ddeunawfed grîn y Scottish Open a rhoi clamp o sws iddo fo a dawnsio o'i gwmpas.

Tyfodd yn gyflym iawn yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar hyd dyffrynoedd yr afon ac ar y bryniau gerllaw.

Cyfeiria Gwyn A.Williams at anghydffurfwyr radicalaidd gogledd Morgannwg yn niwedd y ddeunawfed ganrif a ddylanwadodd mor drwm ar hanes cynnar Merthyr Tudful.

Awgrymir mai adlais o'r ddeunawfed ganrif oedd rhefru John Morris-Jones yn erbyn 'Y Sant'.

Ynghylch manylion y myth o ran ei gynnwys, a'i ddylanwad ar feddwl y Cymry hyd at y ddeunawfed ganrif, ni raid manylu yma.

Dafydd Jones, Dremddu Fach oedd awdur y traethawd buddugol ar lên gwerin, hen arferion a thraddodiadau pobol y plwy yn wythdegau'r ddeunawfed ganrif.

Ond y mae un nodwedd yn gyffredin i'r tair elfen hyn, sef mai canu cymdeithasol ydyw gan fwyaf, a'r beirdd unwaith yn rhagor, fel eu rhagflaenwyr yn y ddeunawfed ganrif, yn canu i ddigwyddiadau'r fro a'i phobl.

Deallwyd yn y ddeunawfed ganrif fod Cowpog yn diogelu rhag y Frech Wen ac o ganlyniad i hyn rhoddwyd cynnwys pothelli Cowpog i mewn i fraich person a oedd wedi bod gerllaw rhywun â'r Frech Wen.

Mae cannoedd o garolau plygain sy'n dyddio'n ôl i'r ail ganrif ar bymtheg, y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dal yn boblogaidd heddiw.

Yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg cafwyd cyffro mawr ym maes glo de Cymru gyda llawer o wŷr amlwg yn egni%ol mewn gwahanol fannau.

Os oedd cyhoeddi llyfrau duwiol yn y ddeunawfed ganrif yn ernes o'r Diwygiad i ddod, a yw ysgrifennu ar hanes crefydd yng Nghymru heddiw yn ernes fod deffro dramatig wrth y drysau?

Fe'u cynhaliwyd yma tua diwedd y ddeunawfed ganrif neu'n gynnar yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Erbyn y ddeunawfed ganrif ceir digon o dystiolaeth i effeithiau'r Ddeddf Uno ar yr iaith.

Uwchben y farchnad, mae un o orielau pwysicaf y ddinas sy'n cynnwys portreadau liwgar gan rai o brif arlunwyr Pyl, yn arbennig o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Achos syndod i'r mwyafrif o gefnogwyr fyddai cael gwybod bod y bêl socer yn cyd- fynd i'r dim â damcaniaeth fathemategol Leonhard Euler o'r Swistir yn y ddeunawfed ganrif.

Pan ddechreuodd beirdd Cymru geisio efelychu patrymau clasurol yn y ddeunawfed ganrif, o dan ddylanwad Seisnig o bosibl, mae'n werth sylwi iddynt ddewis ffurfiau gn amlaf nad oedd dim yn cyfateb iddynt yn union yn y traddodiad Cymraeg, fel y fugeilgerdd, yr arwrgerdd neu'r epistol barddonol.

Wrth son am 'led-glasuraeth' y ddeunawfed ganrif mae Saunders Lewis yn datgan yn feirniadol: Nid oedd ei threfn hi, ei synnwyr da a'i chytgordiad, yn effaith meistrolaeth eang ar gynnwrf profiadau, ond yn hytrach yn gynnyrch crebachu profiad a rhannau pwysig o gyflawnder bywyd.

Adlais ddiflanol o emynyddiaeth y ddeunawfed ganrif yw y nifer ddibwys o emynau gynyrchwyd yn ddiweddar, yn lle llais byw, penderfynol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ystod ail hanner yr ail ganrif ar bymtheg a rhan gyntaf y ddeunawfed ganrif, fe ddigwyddodd iddynt hwy yr un peth ag a ddigwyddodd i'r Crynwyr, ymwastatu, sobri, ar ôl cyffro'r Rhyfel Cartref a'r Interregnum, ymesmwythau.

Gallwn ninnau ddweud fod Saunders Lewis y clasurydd - trwy'i adnabyddiaeth dosturiol o gymhlethdod natur dyn, a thrwy herio'i gymeriadau i fentro - ei fod yn osgoi ffurfioldeb crebachlyd y ddeunawfed ganrif, ac yn ymgyrraedd at synthesis rhwng clasuraeth a rhamantiaeth: prawf arall o annigonolrwydd y termau hynny.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif penodwyd John Griffith, Llanfair Is Gaer, Sir Gaernarfon, yn Dderbynnydd Cyllid Tiroedd dros y rhanbarth a Brenianllaeth Caer.

Yn ystod y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg cafwyd cyffro mawr ym maes glo de Cymru gyda llawer o wr amlwg yn egni%ol mewn gwahanol fannau.

Ond diorseddwyd syniadau'r ddeunawfed ganrif hefyd, ac fe'u disodlwyd hwy gan syniadau'r rhamantwyr.

Fe'i prentisiwyd yn grydd, ond yn hytrach na dilyn y grefft honno aeth yn fyfyriwr i Goleg Dewi Sant Llanbed ac oddi yno i Goleg Rhydychen, yna tua diwedd y ddeunawfed ganrif daeth yn Archesgob yr Eglwys Sefydledig yng Nghanada.

Nid oedd caniata/ u lle i'r drwg mewn llenyddiaeth yn arwain at afledneisrwydd, oherwydd roedd gwedduster yn un o ganonau beirniadol pwysig yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed.

Yn y ddeunawfed ganrif yn unig y ceir gwir ymdrech i ddynwared y clasuron ar ran y beirdd.

Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg dywedir mai tri yn unig a ddysgodd ddarllen, sef Edward Jones, Llechwedd Llyfn; Owen Roberts, Tŷ'n Pant; a Robert Roberts, Bryn Du.

Er hynny, yr oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr at ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn dod fwyfwy o dan ddylanwad y Diwygiad Efengylaidd ac yn mabwysiadu dulliau efengylu a oedd yn gyffredin iddynt hwy a'r Methodistiaid.

Gall y darllenydd weld fod llawer o'r pethau annymunol a awgrymid gynt am Theophilus yn codi am fod Anghydffurfwyr a Radicaliaid wedi creu myth a phropaganda anffafriol am yr Eglwys yn y ddeunawfed ganrif.

Sonia R. T. Jenkins yn un o'i lyfrau am borthmyn y ddeunawfed ganrif yn gyrru'r gwartheg drosodd o Gymru i ffeiriau Lloegr; nid gwartheg a yrrwyd o Gymru i Loegr yn y tridegau ond hufen pobl ieuanc y genedl.

Ceir sawl fersiwn o'r enw yn y ddeunawfed ganrif.

Atgofion o'r ddeunawfed ganrif wedi mynd ar goll am byth drwy fy esgeulustod.

Gan mai Cymraeg y ddeunawfed ganrif yw Cymraeg yr anterliwtiau cynhwyswyd geirfa yn y cefn sydd yn hwyluso'r darllen gymaint.

Er hynny ni fu ymgais wyddonol i wella anifeiliaid hyd at y ddeunawfed ganrif pan ddechreuodd gwyr fel Robert Bakewell ddethol anifeiliaid ar sail mesuriadau ac amcanion arbennig.

Gan fod yr Eglwys, er y ddeunawfed ganrif, wedi troi ei chefn ar y Gymraeg, yn ôl yr Ymneilltuwyr, nid oedd ganddi hawl i honni ei bod hi'n fameglwys i'r Cymry.

Wrth gwrs, nid yn y ddeunawfed ganrif y dechreuodd y traddodiad morwrol yng Ngwynedd.

Yr oedd yn ei elfen ac ar ei enwocaf tua 60au/70au'r ddeunawfed ganrif.

Er enghraifft, yn wahanol i'r hyn a gredai rhai pobl, cafodd Huw Jones ei eni tua 20au neu 30au'r ddeunawfed ganrif.

Daeth penllanw'r gwrthwynebiad yn sgîl y Diwygiadau Crefyddol o'r ddeunawfed ganrif ymlaen.

Y ffaith fod yn ei lyfr awgrym o'r holl ddamcaniaethau diweddarach am y Derwyddon sy'n peri ei fod yn ddogfen tra phwysig wrth inni olrhain hanes syniadau'r ddeunawfed ganrif am y cynoesoedd, a bod Rowlands yn ffigur arwyddocaol yn yr hanes hwnnw.

Yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r ganrif ddilynol, collodd Ynys Môn ei label fel "y tir tramor peryglus rhwng glannau Mersi ac America% gan ddatblygu'n ganolfan forwrol bwysig.

Radicalaidd-anghydffurfiol) o'r Eglwys yn y ddeunawfed ganrif, gan bortreadu Theophilus fel esiampl o fywiogrwydd eglwyswyr yn y cyinod hwnnw; mae'n mynd hefyd y tu hwnt i lawer o'n syniadaeth confensiynol ni a dangos sut oedd modd yn y cyfnod hwnnw gydblethu Cymreictod a Phrydeindod gydag arddeliad.

Byddai pysgotwyr yr ynys yn peryglu eu bywydau mewn corwyntoedd a stormydd enbyd, ac yn y ddeunawfed ganrif cyrchai smyglwyr i lawer traethell unig ac anghysbell i lanio eu nwyddau anghyfreithlon.

O ddechrau'r ddeunawfed ganrif ymlaen, 'doedd dim gwrthbwysau arall - dim cymdeithasau tai coffi, dim dosbarth masnachol Cymraeg, dim agnosticiaid prifysgol, dim criwiau o arlunwyr, dim diletantiaid llengar (ac eithrio ychydig o bersoniaid), dim isfyd Bohemaidd.

Astudiaeth o fywyd a gwaith un o ffigurau'r ddeunawfed ganrif.

Gyda golwg ar y gymdeithas Fethodistaidd yn y ddeunawfed ganrif, yr oedd, fd y gwdsom ym Mhennod I, yn gymdeithas a oedd yn ymwybodol iawn o newydddeb ei phrofiad, ac at hynny, yn gymdeithas a chwiliai am ffurf iddi'i hun.

Y mae rhan arall y plwyf - y deheubarth - uwchlaw hen Glawdd y Mynydd lle gorwedd clwstwr o dyddynnod bach Trefenter a'u dechreuad o dai unnos a godwyd yn y ddeunawfed ganrif gan y sgwatwyr crwydrol.