Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddianc

ddianc

`Mae'n rhaid eu bod nhw'n mynd i ddianc yn y car yna,' meddyliodd.

"Pam y gwnaethoch chi ddianc ar ôl y noson gyntaf a chithau wedi addo cynnal ail noson?" "Gwyddwn yn iawn y buasen ni'n eu trechu nhw'n hawdd, meddai Bholu, "ac felly ni fuasai neb eisiau dod i weld y cwshti ar yr ail noson." Rhoddodd ei law yn ngheg y sach a chydiodd mewn dyrnaid o bapurau gan eu rhoi i mi.

Ar ôl hynny ni feddyliodd unwaith am ddianc.

Roedd y tri swyddog wedi cael eu codi dridiau wedi iddynt ddianc ac wedi eu danfon i wersyll ar yr arfordir.

Prif amddiffyniad cwningod rhag eu gelynion yw eu chwimder a'r ffaith eu bod yn rhybuddio'i gilydd o berygl trwy guro'r ddaear â'u traed a thrwy ddangos y gwyn dan y gynffon wrth ddianc am ddiogelwch.

Ni allent ddianc i unman am eu bod ar grib bryn isel.

Er i'w deulu ddianc o'r pentre, doedd e ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddyn nhw wedyn.

Llwyddodd y tri-ar-ddeg a oedd yn byw yno i ddianc yn ddianaf.

Fe allai'r Doctor Hort ddianc dros y môr unrhyw funud â holl gyfrinachau'r Orsaf Arbrofi gydag e!

Gobeithiai gael cyfle arall i ddianc.

"Rhaid i chi ddianc drwy un o'r ffenestri heno," sibrydodd y nyrs garedig wrth Douglas Bader pan gafodd gyfle.

Roedd llinyn pysgota dau gant saith deg troedfedd o hyd wedi cael ei glymu wrth y saeth - ac roedd ganddyn nhw ffrind ar ochr orllewinol y wal yn aros i'w helpu nhw i ddianc.

Gall goleuni deithio'n rhwydd o un pen i'r llall o'r ffibr, ond ni all ddianc drwy'r ochrau oherwydd fod adlewyrchiad mewnol ar y ffin rhwng y craidd a'r gorchudd.

Gwrthododd hithau ddianc gyda Maelon a thorrodd ei chalon o ofid serch.

'Y gweld cyntaf' a ddaeth iddo, fel yr esboniodd mewn llythyr at Mary Lewis, a oedd yn gyfrifol am y cynhyrchiad, oedd, 'nad oes ddianc rhag enbydrwydd arswydus economeg y gors.' Dyma sail yr athroniaeth feirniadol a fynegwyd yng Nghwm Glo: 'Gweld cefn gwlad yn dihoeni a wneuthum,' meddai ac o ganlyniad meithrin ymwybyddiaeth o'r graddau y dylanwedir ar fywyd yr unigolyn gan amgylchiadau sydd y tu hwnt i'w reolaeth ef.

A phaid ti â hel hen syniadau gwirion am ddianc neu mi fydda i'n dy gladdu di yn y twll yna yn lle'r sach.

Magodd blwc a rhedodd ar ei hôl, a'i chornelu lle na fedrai ddianc, ar dop y grisiau oedd yn arwain i lawr i'r ystafelloedd newid.

Doedd dim llawer o awydd mynd arno, ond roedd yn falch o'r cyfle i ddianc.

Nid oedd gobaith iddo ddianc gan fod milwyr yn gwarchod yr ysbyty fel carchar.

Cawn drafod ymhlygiadau hynafiaethol hwnnw yn nes ymlaen oherwydd ni allai ddianc oddi wrth y dulliau a ddefnyddiai ei gyd-fonedd o edrych ar hanes.

Cyn i un ohonoch gael cyfle i ddianc mae nifer o'r milwry wei tynnu eu cleddyfau tra bo eraill yn rhoi saeth wrth linyn ac yn eu gollwng.

Muriau clai a tho gwellt oedd iddynt hwy a dim ond twll yn y to i'r mwg ddianc trwyddo.

Pan ddaw cwsg i gau'm hamrannau Crwydra'm hysbryd dros y bryn, Hoffa ddianc at y blodau Dyf o bobtu Pont y Glyn.

Yn y fflatiau edrychodd y ddau a oedd yn awyddus i ddianc tuag at y tŵr a'r rhai a oedd yn gwarchod unwaith eto.

Yn awr ac yn y man byddai ambell faedd yn llwyddo i ddianc o'r fferm, ond cyn bo hir fe'i daliwyd eto - neu fe fyd- dent yn cael eu lladd gan helwyr yn ystod y tymor hela yn y wlad.

Mi wna'i ngorau i gysgu heno,' meddyliodd, hwyrach y medraf ddianc oddi yma fory i chwilio am blisman yn rhywle.' O fewn dim 'roedd yn y gwely ac er ei holl bryder 'roedd Glyn Owen yn cysgu'n drwm.

Mae o'r un lliw yn union â'r siocled hwnnw yr anghofiais bopeth amdano fo, Wedi ei gael o gan Anti Jini am ei helpu hi yn tŷ roeddwn i ar ôl imi ddianc yno un bore.

I ble y gallai ddianc?

Ni fu canolbarth Ceredigion yn un o fannau cryfaf y Norman ac felly mae'n bosibl i'r eglwys yn Llanddewi Brefi ddianc rhag ei ymosodiadau gwaethaf.

Gruffudd yn derbyn ffafrau ei dad...cael byd da a diogi a digon o anwes i'w gadw'n ddiddig a sicrhau na fydd arno ormod o frys i ddianc at yr Ymennydd Mawr a'i debyg!" Temtiwyd Elystan i fwrw'r Cripil i'r llawr am yr eildro y diwrnod hwnnw.

At bwy y trodd o am gysur wrth ddianc o'i gartre gwag?

Os am ymlacio'n llwyr, gan ddianc yn gyfangwbl o reolaeth y byd o'i chwmpas, aiff Judith o dan y tonnau gwyllt.

Rwyt yn troi dy geffyl ar ei ôl a chyn iddo ddianc rwyt yn neidio arno a'i dynnu i'r llawr.

"Mae o wedi gwneud sbort am ein pennau trwy ddianc.

Agorodd Douglas do y cocpit yn barod i ddianc a disgyn hefo'i barasiwt.

Cyflymodd ei gerddediad i ddilyn y bêl ac i ddianc o'r pentref lle y cyfarfu'r crwydryn.

Ella bod 'na siawns i ddianc ffordd 'na.'

Byddent yn sicr o gael eu lladd pe ceisient ddianc.

Rhag i ti roi eiliad o feddwl am ddianc, pwylla.

Roedd rhai o'r peilotiaid newydd ddianc o Ffrainc ac yn ddigalon ar ôl colli llawer o'u cyfeillion yn y rhyfel.

Roedd yn rhaid iddo ddianc!

Yn ystod y ddwy flynedd nesaf dwysau a wnaeth gwrthwynebiad y Frenhines tuag at y Diwygwyr a phenderfynodd Davies ddianc am loches fel alltud ar gyfandir Ewrop.

Mae cerddoriaeth yn ffordd o ddianc.

Neu beth am ddianc yn llwyr o'r hwrli-bwrli i draeth gwyn, pellennig?

"Mae'n rhaid i mi feddwl am gynllun i ddianc," meddai wrtho fo'i hun, yn syth wedi iddo'i chael yn ôl.

Os oedd yn well gan Mr Reagan ddianc rhag y wasg, byddai arweinydd y Cremlin yn ysu i'n cyfarfod ni wyneb yn wyneb.