Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiarwybod

ddiarwybod

Ar y gorau, mae newyddiaduraeth fel cerdded trwy gae yn llawn landmines, rhai ohonyn nhw'n weddol amlwg, eraill wedi'u gosod yn ddiarwybod gan eich rhagfarnau eich hun.

Doed ganddi ddim syniad faint o amser y gorweddodd hi yno'n gwylio'r sêr, ond roedd yn rhaid ei bod hi wedi syrthio i gysgun hollol ddiarwybod idd ei hun.

Bron yn ddiarwybod iddo'i hun yr oedd yn hebrwng y ferch adref, a phan sylweddolodd beth yr oedd yn ei wneud profodd don o letchwithdod yn dod drosto, yn cael ei dilyn gan don gryfach o hunanbwysigrwydd.

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli, mae'n amlwg, fy mod innau hefyd yn gynnyrch y gymdeithas honno, a bod y 'consumer society' bondigrybwyll wedi esgor ar ddiwylliant cyfan yr oeddwn innau'n rhan ohono yn ddiarwybod i mi fy hun.

Roedd y Tymor hefyd i nodi croesffordd ym mywyd Gwenlyn yn ddiarwybod i gynllunwyr y 'schedules'.

O dan ddylanwad dynion fel ef a J. P. Davies deuthum yn genedlaetholwr yn ddiarwybod.i mi fy hun.

Yr oedd ein dillad mor amryliw a siaced fraith Joseph' gan amled y clytiau oedd arnynt....Ond yr oeddym yn 'wyn ein byd,' ac yn ddiarwybod i ni ein hunain, yn ystorio argraffiadau oeddynt i fid yn weledigaethau hynaws, prydferth, ymhen llawer o ddyddiau ac wedi i ni ymwasgaru ar hyd a lled y byd.

A wna un o'n hathronwyr ymchwiliad iddi, a chymhwysiad ohoni at ein problemau ni yng Nghymru?' Yn ddiarwybod i Jenkins, efallai, yr oedd y gwaith hwnnw eisoes ar droed.

Pan fyddai hogyn wedi cael ei drwytho yn "Rhodd Mam" ac wedyn, wedi bod yn hogyn drwg byddai gwersi Mrs Wilias yn siwr o ddod yn ôl i'w feddwl yn ddiarwybod iddo, bron ac yn dweud wrtho: "Tro yn dy ôl".

Digwyddodd yn ddiarwybod inni bron wrth i Rhodi Morgan newid aelodau ei gabinet yr wythnos diwethaf.

Rydym wedi etifeddu credoau'r tadau yn gwbwl ddiarwybod i ni - a'r un mor ddiarwybod yn eu trosglwyddo i'n plant.

Gofalodd rhywun, serch hynny, argraffu ar feddwl y bechgyn iddynt gael eu geni'n freiniol ac yn ddiarwybod iddynt bron, yr oedd y berthynas waed yn eu cydio nhw â'r castell yn Nolwyddelan.

Awgrymodd mai gwell fyddai i rai o'r offeiriadon mwyaf mentrus 'fynnu brech Undodaidd rhag ofn iddynt ddod i gyffyrddiad â ni yn ddiarwybod iddynt'.