Dyma yn ddiau deulu pwysig iawn o noddwyr.
Syniad da, yn ddiau, ydoedd y syniad o gynnal Eisteddfod yn Chicago yn ystod ffair y byd: ac yn ôl yr argoelion, bydd y syniad yn sicr o gael ei weithio allan yn llwyddiannus.
Yn y cyfarfod rhybuddiodd DJ Williams, Abergwaun, dan gyfarwyddyd JE yn ddiau: "Pe byddem ni ym Mhlaid Cymru, neu unrhyw blaid arall, yn gwneud y Ddeiseb yn fater plaid,-byddai'n ddinistr sicr i'r ddeiseb honno%.
Cydnabu Mali iddi'i hun y gallai fod yn orsensitif ar y pwnc; yn ddiau roedd hi'n rhy ymwybodol o welwderei hwynepryd wedi pwl o salwch.
Hyd yn oed os na allwn dderbyn fod y gymdeithas ganoloesol mor ddigyfnewid ag y maentumia rhai, yr oedd iddi'n ddiau y sefydlogrwydd diwylliannol a sicrhâi barhad syniadau a pharhad œurfiau llenyddol.
Dyna, yn ddiau, yw'r rheswm na ddigwyddodd yr un ddamwain wrth baratoi powdwr mawr.
Edward Vaughan yn ddiau yw'r amaethwr gorau yn Nyffryn Aerwen a phob ffermwr yn disgwyl ei arweiniad ef i dorri'r gwair: Yr oedd Edward Vaughan fel barcud i weld gweiryn aeddfed a machlud cadarn.
Yr oedd yr amheuon a oedd Hughes, yn ddiau, yn dechrau teimlo am effeithioldeb y drefn hon i gau allan rhagrith o'r pulpud anghydffurfiol, wedi'u tawelu rhywfaint yn ddiweddar gan achos diarddel Edward Roberts gan y Methodistiaid.
Un o gymeriadau allblyg yr wythnos, yn ddiau.
Mae'n ddiau y gallasai gysoni'i fywyd gwleidyddol â'i grefydd draddodiadol, Hindwaeth, a chydnebydd ef ei hun ddylanwad Cristnogaeth arno, yn enwedig y foeseg a geir yn y Bregeth ar y Mynydd.
Credai'n ddiau nad lle nofelydd oedd cynhyrfu'r dyfroedd politicaidd, ac mai nofel sal fyddai honno a ddarluniai bethau yn ol rhyw ideoleg wleidyddol ddu-a-gwyn.
Gêm y penwythnos yn ddïau fydd honno rhwng Caerfyrddin, y tîm sy'n ail, ac Aberystwyth, sy'n drydydd.
Yn ddiau, nid swyddogaeth fawr barddoniaeth yw perarogli a cheisio tragwyddoli cyfeiliornadau, ond yn hytrach rhoi corfforiad newydd i egwyddorion, a gwisgo gwirionedd mewn diwyg newydd brydferth.
Ond yn ddiau coron y canu i fynachlog Nedd yw'r awdl a gyfansoddodd Lewys Morgannwg iddi yn ei ieuenctid ar y pedwar mesur ar hugain - yr oedd hyn yn nyddiau Lleision Tomas, yr abad olaf.
Yn ddiau nid â'r gawod ddiwethaf y daeth y Blw-byrd hwn i lawr o'r nef.