Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddibenion

ddibenion

Dim ond at ddibenion addysgol y mae hawl gennych eu recordio.

o'u darllen: amrediad, cywirdeb a rhwyddineb eu darllen; eu gallu i ddarllen, deall ac ymateb i amrywiaeth o destunau mewn amrywiol ffyrdd;o'u hysgrifennu: swm ac amrediad eu hysgrifennu; eu gallu i ysgrifennu'n gywir ac yn briodol at wahanol ddibenion.

(b) Derbyn y drefn a nodir yn yr adroddiad i ymdrin â cheisiadau gan lanlordiaid am archwiliad o eiddo i ddibenion eu ceisiadau am grant adnewyddu.

I Elfed, yr oedd rhannu profiad yn un o ddibenion sylfaenol emyn.

I ddibenion gwyddonol, y mae'n gwbl briodol inni ynysu'r wedd gemegol, dyweder, ar beth bynnag yr ydym yn ei astudio.

Dylai'r dysgu lywio gwybodaeth gynyddol am iaith ac ymwybyddiaeth gynyddol bod iaith yn gwasanaethu amrediad o ddibenion ac yn amrywio yn ôl y cyd-destun a'r gynulleidfa neu'r darllenwyr.

Anogwn yr Awdurdodau Addysg Sirol i hyrwyddo arbrofi gyda gwahanol fodelau o glystyru ysgolion - yn amrywio o gydweithio at ddibenion penodol yn unig drwodd at ffederasiynau ffurfiol gydag un strwythur staff.

Yr hyn a olygir yw'r hyn sy'n digwydd pan mae plentyn yn dysgu iaith, sef ei fod yn dyst i filoedd ar filoedd o enghreifftiau o iaith yn cael ei defnyddio i ddibenion ffwythiannol ac ystyrlawn.

Bydd disgyblion yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o ffurfiau ac at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd; byddant yn fwyfwy abl i drefnu eu deunydd, i ysgrifennu'n gywir, i reoli sillafu a llawysgrifen; amlygant afael briodol ar Gymraeg a Saesneg safonol a gallant adnabod a defnyddio amrediad cynyddol o arddulliau a chyweiriau iaith; byddant yn adolygu ac yn ailddrafftio'u hysgrifennu gan ei gyflwyno'n briodol.

Mewn nifer o lyfrau garddio, awgrymir defnyddio mawn i'w balu i mewn i'r pridd gyda phlanhigion newydd, wrth botio ac ar gyfer amrywiaeth o ddibenion garddwriaethol eraill.

Fel y dywedodd Halliday, nid mater o'i dysgu hi yn gyntaf ac yna ei defnyddio i wahanol ddibenion yw caffael iaith.

Roedd ar y dynion yma ei angen at ddibenion arbennig, roedd yn hollbwysig ei fod ar gael ar gyfer eu bwriadau, ac fel uchelswyddogion pob oes yn gweithredu yn enw eu gwlad rhoed rhwydd hynt iddynt fwrw ymlaen â'u cynlluniau.

'Wel, Wel,' meddai Ioan, 'mae'n well i ti fynd yn ôl; wn i ddim be ddaw ohonom.' 'Mae y Meistr wedi gorchymyn i mi fynd i Fethsaida,' meddai Pedr, 'fe gaiff bow y llong fod ar Bethsaida.' Wrth gymhwyso'r neges i ddibenion ymgyrch y Drysorfa Genhadol, meddai'r Parch.

A fu'n rhaid gwario ar ddibenion nad oedd yn bosibl eu rhagweld?

Dyma ddadl gryf dros leihau y gwario ar arfau a defnyddio'r arian i ddibenion gwell megis cynorthwyo gwledydd y Trydydd Byd.

Fe'i defnyddir at ddibenion amrywiol iawn.