Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddibwys

ddibwys

Roedd, fel y stribedi o olau hynny, yn edrych yn ddibwys i'r byd mawr swyddogol y tu allan gyda'r sylw i gyd wedi'i hoelio ar oleuadau mwy fel y golau a fyddai'n hofran, yn y man dros Abertawe.

Bu mater cyfreithiol, ymddangosiadol ddibwys, yn foddion i gychwyn y cynhennu a chododd cyn bod yr esgob newydd wedi prin gael amser i ddadbacio.

Digwyddiad, nid anniddorol ac nid llenyddol ddibwys o bell ffordd, oedd ei ddarganfyddiad o darddiad un o ganeuon adnabyddus Islwyn--"Seren Heddwch".

Bron iawn, roedd yn gwbl ddibwys beth a ysgrifennwyd.

Y mae Cymru Gymraeg eto'n rhan go helaeth o ddaear Cymru ac nid yw'r lleiafrif eto'n gwbl ddibwys.

Adlais ddiflanol o emynyddiaeth y ddeunawfed ganrif yw y nifer ddibwys o emynau gynyrchwyd yn ddiweddar, yn lle llais byw, penderfynol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Cyn yr ymweliad, yr oedd y ddwy haint yn gymharol ddibwys ymysg y poblogaethau a oedd wedi arfer â hwy, sef y morwyr â'r frech goch a'r ynyswyr â siffilis, ond bod yr effaith ar y boblogaeth newydd yn farwol.)

Dyna ddangos yn deg mor ddieffaith, mor ddirym, mor ddibwys ym mywyd politicaidd Cymru ac yn natblygiad ei meddwl hi ar faterion cymdeithasol fu traddodiad amddiffyn yr iaith Gymraeg.

Ni fu SL erioed yn fardd poblogaidd a da fuasai clywed rhagor o feirniadaeth o'r math a geir weithiau yn ysgrif Gwenallt, sy'n dweud, er enghraifft, 'Nid yw Mr Lewis yn cerdded mor sicr yn y mesurau traddodiadol at yn y vers libre.' Teimlais innau droeon mai gwely Procrwstes y mesurau caeth a orfodai SL i gynnwys geiriau hen, prin ac anghyfiaith a chystrawennau hynafol a chymhleth, fel petai tywyllu ystyr yn ddibwys neu hyd yn oed yn rhinwedd.OES AUR Y WASG GYMREIG