Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddibynnol

ddibynnol

Ac yna 'y ci' yn uniongyrchol ddibynnol ar 'lladdodd'.

Trafodwch y syniad o "Long Ofod Ddaearol": mae Dyn yn ddibynnol ar yr adnoddau a'r harddwch sydd i'w cael ar y blaned hon; does gennyn ni ddim stôr ddiderfyn o'r pethau hyn.

Yr oedd berfa mor wahanol i weddill hil olwynog ei chyfnod am ei bod mor ddibynnol ar ddyn.

Y mae'n cyfeirio at Brif Weinidog a geisiodd ei ladd ei hun cyn mynd i'w swydd ac am un arall a oedd yn ddibynnol ar gyffuriau ac ar alcohol.

Heb os roedd yna agweddau moesol i'r bwriadau hirben, ond fe bwysleisiwyd bod dyletswyddau gan berchnogion eiddo yn ogystal â hawliau, a pheth cywilyddus oedd esgeuluso lles y rheini oedd yn ddibynnol arnynt.

Gan mwyaf, gellir priodoli'r gostyngiad i nifer o ffactorau sosio-economaidd cymhleth: arwydd fod cryfder yr iaith mewn rhai ardaloedd ynghlwm wrth ddatblygu cynaladwy o fewn y gymuned ac yn ddibynnol arno.

Sylweddolwn wrth gwrs ein bod yn hollol ddibynnol ar y tywydd yn sylfaenol am ein llwyddiant neu ein haflwyddiant yn ein hymdrechion garddio.

Dyma stori gyfoes, sydd yn ddibynnol ar nodweddion cyfoes i w chynnal - hynny yw, modur a ffawdheglu er bod fersiynau cynnar o'r stori hon ar fathau eraill o drafnidiaeth megis ceffyl a throl, neu geffyl yn unig.

Gwelodd y grwpiau athrawon a oedd yn gwbl ddibynnol ar eu hadnoddau eu hunain (i drefnu dyddiadau a mannau cyfarfod, dyblygu a dosbarthu cofnodion cyfarfodydd, meysydd llafur a phrofion drafft, etc.) yn eithaf buan ei bod yn amhosibl iddynt barhau.

Y Prif Gyfreithiwr Erlyn oedd Daniel Alun Roberts Thomas (DART i'w ffrindiau a'i gydnabod), cymeriad os bu un erioed, tipyn yn un-llygeidiog yn achos y Gymraeg, a daeth rhai o'i sgarmesoedd gyda Chymdeithas yr Iaith yn enwog iawn ar y pryd, ond roedd yn gyfreithiwr da, a thu allan i faterion yr Iaith, yn un o farn gyfreithiol ddibynnol a sad, a'i wybodaeth o'r gyfraith droseddol yn eang a manwl.

Gan fod y greadigaeth oll, yng ngolwg Irenaeus, yn hanfodol un, y mae dyn yn hanu o'r ddaear, a'r ddaear yn ddibynnol ar ddyn.

Mae'r polisi hwn hefyd ar hyn o bryd mewn cul-de-sac, ond mae hygrededd ariannol y polisi hwn yn ddibynnol ar benderfyniad gan y Swyddfa Gymreig ar y fformiwla gyllido h.y. a ddylid dehongli 'ffederasiwn' fel un ysgol, neu fel nifer o ysgolion at bwrpas cyllido.

Gan fod amaeth Gymreig mor ddibynnol ar y gyfundrefn gynhaliol (y grantiau) - ofnir i'r newidiadau yn y PAC achosi yn y man gwymp pellach yn incwm y ffermwyr ac yn eu nifer.

Ond wrth geisio sgrifennu yn Gymraeg, y mae'n ansicr ohono ei hun ac o'r herwydd yn ddibynnol ar eraill am feirniadaeth a chywiriad.

Ond, mae sefydliad dwyieithog lle mae'r aelodau i gyd yn rhugl mewn un iaith a lleiafrif yn unig yn rhugl yn yr iaith arall yn dra gwahanol i sefydliad lle mae'r rhan fwyaf o'r aelodau yn hollol ddibynnol ar gyfieithu llafar ac ysgrifenedig.

Mae pwyslais ar y ferf gyflawn - 'Aeth' - ac y mae'r wybodaeth am ei deimladau wedi'i chyflwyno fel petai'n ddibynnol ar y weithred: 'Aeth .

Nid er mwyn newid pethau er mwyn newid; nid er mwyn cael ymwneud â chyfalafiaeth; nid er mwyn cael rhwygiadau - ond er mwyn sicrhau bod gennym ni iaith fyw, nid yn ddibynnol ar ffafrau a chonsesiynau, ond yn fyw o fewn cymunedau a bod y grym i gadw'r sefyllfa yna yn nwylo'r cymunedau eu hunain.

Y mae newid yn golygu parhad ac mae unrhyw barhad yn ddibynnol ar ddidoriant symbolau.

Cyd-ddibynnol yw cenhedloedd y ddynoliaeth, a syniad diffrwyth yw annibyniaeth, a elwir weithiau yn sofraniaeth absoliwt neu ddiamod.

Mae'r mwyafrif o dasgau'r ffermwr yng Nghymru'n ddibynnol ar y tywydd, ac ar y modd mae'r tywydd yn adweithio gyda thirwedd a phridd.

Mae'n rhyfedd meddwl pan wneir awgrymiadau fel hyn o ganolfannau ddylai fod yn ddibynnol, iddynt hwy ac eraill fychanu gwerth deilbridd pan ddaeth y syniad o ddefnyddio mawn i fod, gan ddweud fod deilbridd yn ffynhonnell pob math o afiechydon planhigion a phryfetach tra bod mawn yn glir ohonynt!

Roedd Gofal yn y Gymuned yn amlwg ymhlith pryderon y sector hon a hyn eto'n ddibynnol ar oblygiadau'r ad-drefnu fel uchod.

Bu Môn yn ddibynnol ar amaethyddiaeth erioed ac, yn yr hen amser, roedd yn darparu grawn ac anifeiliaid ar gyfer rhannau mynyddig y tir mawr.

Mae'r cyfleoedd i drin tir, er engraifft, yn ddibynnol ar wlybaniaeth y tir ac mae hyn yn ei dro yn ddibynnol ar lawiad, natur y pridd a'r tirwedd.

Ers talwn roedd y ffermwr yn ddibynnol ar ei feibion a'i ferched i raddau, ond heddiw mae'n gallu cario ymlaen gyda'i dractor ac efallai un mab wedi aros gartref.

Hanner can mil yn gwylio tîm oedd yn gwbl ddibynnol ar ei gôlgeidwad yn ystod yr hanner cyntaf ar torfeydd mor drwchus ar strydoedd Caerdydd yr oedd yn rhaid gwthio drwyr bobl.

Mae'r nofel yn ei hanfod yn ffurf sy'n gwbl ddibynnol ar gymdeithas.