Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddichon

ddichon

Yn ein rhan ni o'r cosmos mae un math o ronynnau, ond y mae'n bosib canfod a chynhyrchu gwrth-ronynnau (electron/positron) ac fe ddichon bod nifylau a galaethau i'w cael rywle yn y gofod wedi eu gwneud o chwith-fater neu wrth-fater.

Tystiolaeth rhai merched a'i cofiai yn eu plentyndod oedd ei fod yn '...' ac ychwanegodd un a oedd yn hyn na'r lleill: '....' Fe ddichon nad oedd Daniel Owen y nofelydd mor ddiniwed ag yr ydym wedi arfer meddwl.

Y gosodiad pwysicaf yn y paragraff, fe ddichon, yw'r cymal sy'n dweud fod Arthur wedi ymladd yn erbyn y Saeson gyda brenhinoedd y Brytaniaid, ond mai ef oedd 'arweinydd y brwydrau' y dux bellorum.

Ond yma mae'r meirw yn eu 'parlyrau perl', a'r marwol arbennig hwn, yn holl addewid ei ddisgleirdeb, ynghladd mewn erw anghyffredin iawn na ddichon i'r byw byth ymweld â hi.

Ymhlith y llyfrau a gefais yr oedd dau hen lyfr Cymraeg o'r ail ganrif ar bymtheg nad oedd ddichon acel gafael arnynt.

Fe ddichon ei fod ef, fel William Salesbury o'i flaen, wedi ymddiddori yn y llenyddiaeth grefyddol Gymraeg (cyfieithiadau gan mwyaf o'r Lladin) a gafwyd yn sgîl deffroad y drydedd ganrif ar ddeg (gw.

Nid un o hil ddaearol a ddichon weld cors a dwy frân a'u galw'n moorland with excellent shooting.

(Gellid dadlau fod y cyfeiriad at Fair yn awgrymu'r atgyfodiad ac felly'r bywyd tragwyddol sydd i enaid Siôn, ond ni allai hwnnw fod yn fwy nag awgrym cynnil.) Fe ddichon fod y bardd yn credu y byddai'r plentyn diniwed yn mynd yn syth i'r nefoedd, ac nad oedd angen ei weddi yntau arno, ond yr un mor bwysig â diwinyddiaeth y bardd yw'r olwg ar farwolaeth a gyfleir yma.

Hyn, fe ddichon, a drefnodd y ffordd iddo gael ei ddyrchafu'n esgob ymhen tipyn.

Fe ddichon nad 'ailddwyfoli' yw'r gair mwyaf priodol i ddisgrifio'r dehongliad newydd ac amwys a gynigir yn y ddau bennill a ddyfynnwyd: erys Iesu'n ddyn, eithr dyn â photensial ynddo i 'hawlio rhyddid enaid o'r cnawd a'i ddyrys wead', i godi uwchlaw 'caethiwed drom' ystyriaethau bydol.