Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddidrugaredd

ddidrugaredd

Gweithred ddidrugaredd a oedd yn ganlyniad system economaidd a chymdeithasol ofnadwy o anghyfiawn.

Maent yn dy fwrw i'r llawr ac yn dy ffustio yn ddidrugaredd.

Yn raddol, drannoeth, gwawriodd arnom ein bod wedi ein dal yn llwyr gan y Bos, a'i fod ef wedi bod yn tynnu coes yn ddidrugaredd, ond gan fod y manylion tybiedig wedi'u plethu i mewn i r cefndir a'r lleoliad dilys yn gelfydd iawn, hyd yn oed tadogi'r stori ar Mr Merfyn Morgan, y Prif Uwch-Arolygydd â gofal am Adran "D" o Heddlu Dyfed-Powys, roeddem wedi credu'r stori'n llwyr.

Cnays y mae eu priodas hwy wedi ei phrofi mewn tân poeth ac wedi ei churo yn ddidrugaredd ar eingion cyd-ddealltwriaeth.

Wrth i Carol ysbarduno'r car bach yn ddidrugaredd tua'r gogledd, gallai glywed eu lleisiau'n parablu'n gynhyrfus am yr holl bethau a welent drwy'r ffenestri, a gwyddai mai felly'r oedd hi wedi disgwyl i bethau fod.Gallai ei chysuro'i hun nad ymddwyn yn fyrbwyll a wnaethai, ond paratoi cynllun brysiog yn ei phen a gweithredu arno'n syth.

Byddant yn heidio amdano fo ac yn neidio ar ei gefn, yn gwasgu'u sbardunau pigfain i'w ystlysau ac yn ei fflangellu'n ddidrugaredd â'u gwiail tân.

Ganol bore oedd hi o hyd, ond roedd y tyrfaoedd eisoes wedi meddiannu'r sgwâr a'r feidir lle cynhelid yr arwerthiant Chwysai'n ddidrugaredd.

Er i John Morris-Jones ymosod yn ddidrugaredd ar yr Orsedd gan ddweud fod 'Cymdeithas yr Orsedd yn ddi-fudd, a'i graddau'n ddiwerth, oherwydd y rhwyddineb y gollyngir pob annheilyngdod iddi.

Dros y canrifoedd mae dynoliaeth wedi bod yn ddidrugaredd o annheg ato.

Rhythais ar grib ogledd-ddwyreiniol ddu, hirfain, ddidrugaredd Piz averstancla a chofio llinellau olaf y gerdd a ganodd Armon Planta o Sent, uwchlaw Scuol, ar ol ei dringo gydai fab: I lawr yn y cwm a chytgord yn anodd oni fyddwn ni'n troi at hyn mewn atgof (in algordanzas) Bardd, dringwr, hanesydd, radical, athro ac ymladdwr dros ei iaith oedd Armon Planta.

Ond prin yr oedd wedi camu deirgwaith pan ysgwydodd y tū hyd at ei seiliau, wrth i'r drws gael ei ddymu'n ddidrugaredd ac wrth i lais bariton anferth daranu dros y lle.

Sbardunodd Andrews y BMW i lawr y ffordd a'i daflu'n ddidrugaredd heibio i'r gornel cyn plannu'i droed yn filain ar y brec .