Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddieithr

ddieithr

Mae yna enghreifftiau o lenorion a sgrifennodd ryddiaith o safon mewn iaith ddieithr, fel y gwnaeth Conrad.

Mewn cyfrol fer o 116 tudalen y mae'n agor cil y drws ar fyd sydd, diolch i'r drefn, yn ddieithr i'r rhan fwyaf ohonom.

Fe berthyn i'r gwladwr pur y ddawn annaearol i fod yn yr union le pan fydd pobl ddieithr yn cyrraedd, ac 'roedd Elis Robaitsh, Tŷ Cam, wedi ei fendithio'n helaeth â'r ddawn hon.

Gall ffermwr o'r trydydd byd fod yn ffigur niwlog gyda'i broblemau a'i obeithion yn ddieithr iawn inni - ond wedi inni weld ei wyneb yn eglur a chael cip ar ei deulu a'i gartref a'i gefndir yna daw yn berson y gallwn ddod i'w adnabod.

Y drwg yw fod y grefft hon - a fun un reddfol bron inni dros y canrifoedd - yn un mor ddieithr erbyn heddiw na wyddom sut i'w harfer.

Yn fuan sylweddolodd eu bod yn siarad iaith ddieithr!

Does na ddim llawer o eiriau sy'n ddieithr i'r plant ac erbyn hyn rwy'n dueddol o ddefnyddio mwy o'r ffurfiau gogleddol.

Nid at bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd y'th anfonir, ond at dŷ Israel.

Daethant â'u cyfeillgarwch i helpu mam i ymsefydlu mewn pentref glofaol a oedd yn gwbl ddieithr iddi.

afon ddieithr oedd hon, a 'r hen glogwyni cynefin, cerrig llam cynefin, yr ynysoedd bach cynefin i gyd dan orchudd dyfnder anghynefin anghynefin beth am rasus cychod?

Pentref bychan yr anghofiodd twristiaeth amdano yw Susauna ei hun: dau deulu o bobl ddieithr a welais hyd yn oed yn rhan isaf y cwm.

Maen arwydd eithaf trist on hamserau i gymaint o bobol ruthro i agor neges yn dweud hynny oddi wrth rywun cwbwl ddieithr.

Wrth weithio mewn gwlad dros y dŵr, mae'r cae ei hunan yn ddieithr a dim ond wrth ichi gerdded y daw eich llwybr trwyddo'n glir..

Er iddo orchuddio tua dwy ran, dair o arwynebedd y byd, mae'r môr yn ddieithr i ni.

Ond cynnwys y mudiad newydd elfennau go ddieithr i feddwl Cymru heddiw, - cred mewn pendefigaeth gymdeithasol, ac ewyllys da (a dywedyd y lleiaf) tuag at Eglwys Rufain.

Hyd yn oed o bell awgrymai coethder a lliw harnais y camelod fod y bobl ddieithr hyn yn abl i dalu, argraff a gadarnheid gan feinder y defnydd gwlân a wisgai eu cennad.

Pan ddychwelodd, roedd wedi cael profiad o fywyd gorllewinol ac roedd ei syniadau'n llawer rhy ddieithr i hen ddull ei dad o lywodraethu.

Hawdd y gallai arddel datganiad hysbys y dramodydd Lladin, Terentius, "Homo sum: humani nil a me alienum puto% - "Dyn wyf: nid ystyriaf ddim dynol yn ddieithr imi%.

Nid oedd y delfrydau na'r gwerthoedd uchaf yn ddieithr iddi.

I'r mwyafrif llethol ohonynt, dyma'u profiad cyntaf o fod ar y mor mawr ar long hwyliau, eto roeddynt yn wynebu mordaith i fyd newydd trwy foroedd stormus a pheryglus iawn, moroedd a oedd yn hollol ddieithr i bron bawb o Ewrop lai na chan mlynedd ynghynt.

Y broblem fawr yn y Dwyrain Canol oedd cael caeau digon mawr - ac roedd hon yn broblem ddieithr iawn i mi.

Pan gafwyd hyd i lot o lo a haearn ac ati mewn rhannau o Urmyc fe ddaeth yna filoedd o bobl ddieithr i mewn ac fe stopiwyd siarad Urmyceg cyn hir yn y lleoedd hynny achos iaith pobol dlawd oedd hi.

Hyn yn golygu fod raid codi am chwech ar ol noson chwyslyd a heb gael unrhyw gyfle i addasu i wlad ddieithr.

A hyd yn oed wrth ddawnsio, fe fyddai'n ei dal fel petai'n ddieithr iddo.

Gwingodd, heb fedru deall sut y gallai rhywun hollol ddieithr achosi cymaint o boen iddi.

Mae'r rhan hon o'r goedwig yn ddieithr i ti gan mai coedwigwr arall, ac nid dy ewythr, oedd yn gyfrifol am gadw'r llwybrau hyn ar agor.

Iddo ef, roedd angen bod yn ymwybodol drwy'r amser o safbwyntiau ei ddarllenwyr Saesneg, gan gadw rhan ohono'i hun yn ddieithr i Gymru: `I think it is probably a mistake for any reporter to try to go completely native in any situation.' Os yw hynna'n wir, fe fydd newyddiadurwyr o Gymru'n gorfod cadw gwybodaeth a rhagdybiaethau eu gwylwyr, gwrandawyr neu ddarllenwyr yng nghefn eu meddwl.

Yr oedd yn bobl cyn hyn, a pharhâi i fod yn bobl, hyd yn oed mewn gwlad ddieithr, tra'r oedd ei nai Lot gydag ef.

'Dw i'n gweld dy fod ti a Cli%o'n ffrindie,' meddai Mrs Huws, 'a fydd hi ddim yn cymryd at bobl ddieithr yn rhwydd fel arfer; ond mae'n rhaid i ni fynd.

Na, nid at lawer o bobl ddieithr eu hiaith ac anodd eu lleferydd, a thithau heb ddeall eu geiriau; yn wir, pe bawn wedi dy anfon atynt hwy, byddent yn gwrando arnat.

Fel pe bai ei pherchennog am ei chadw'n glir o sawr a chyffyrddiad y ddaear ddieithr ar bob cyfri.

Daeth ei chlust yn gyfarwydd a sŵn trafnidiaeth ddieithr yr adeiladwyr yn rhygnu i fyny'r feidir.

Maent yn gwybod llawer mwy heddiw am y sefyllfa ddieithr.

Rhyfeddu fod y person hwnnw'n cribo'i wallt mewn ffordd arbennig, yn siarad ag acen ddieithr, yn darllen llyfrau anghyfarwydd, yn gwneud coffi mewn ffordd wahanol...

Mae'n debyg ei fod yn ddieithr i'r ardal ac heb nabod y planhigion.

ysgrifennu mewn idiom ddieithr ar gyfer cynulleidfa ddrwgdybus.

Unwaith eto gellir breuddwydio am ddarpar gymar drwy fynd i fynwent hollol ddieithr, torri ychydig o ywen a'i osod o dan y gobennydd.

O, 'roedd o'n hen gynefin a chroeawu y rhyw deg i'w gartref yn Lerpwl ac yno gallai drafod merched, boed briod neu weddw, cystal â'r dyn drws nesa' - ond welw enaid cwbl ddieithr iddo yn ei groesawu i'w gartref newydd yn Nefoedd y Niwl.

I'r mwyafrif, yr oedd y Beibl yn llyfr cwbl ddieithr, a chyfaddefodd llawer o'r milwyr na wyddent fod dau Destament yn y Beibl cyn iddynt fynychu 'Awr y Caplan', sef yr awr neilltuedig a roddwyd i'r caplan i gwrdd â'r bechgyn a'r merched mewn awyrgylch anffurfiol.

Yn Nhrigle'r Cymylau, y carwn innau ryw ddiwrnod ddychwelyd i'w llwybrau cynefin ddieithr, mae'r duwiau oll yn ymgordeddu fel nadredd ansylweddol ac annelwig yn y glaw a'r niwl.

Ni ddaw llawer o'r bobl sy'n byw yma o hyd i'r ymwybod Celtaidd hwn ac nid ydynt yn chwilio amdano; yn hytrach y maent yn byw yma fel pobl ddieithr, yn arwynebol'.

Fydd arthreitus ddim yn medru cadw pobl ddieithr allan wedyn ac mae yna dwnel newydd ac ati er mwyn i'r Romans fedru dwad yn eu holau reit handi.

Fy safonau i oedd haelioni a rhadlonrwydd a storigarwch, mae'n siwr, ac er fy mod yn mwynhau gweld pobl ddieithr ac yn weddol gartrefol yn eu plith nid oeddwn ddim gwahanol i blant eraill fel na allai ambell 'chwechyn' ac wyneb siriol a stori fy ennill.

Pan oedd yn ddigon agos cyfarchodd y brodorion gyda'r brawddegau Arabeg arferol, ond ag acen ddieithr.

Fel pob pentref glan mor roedd yna ryw ddylanwad mawr oddi ar y Saeson, yr ymwelwyr, y bobl ddieithr - y "visitors".

Nid yw'r ymchwil am hunaniaeth yn thema gwbl ddieithr ymhlith yr arddangosfeydd sy'n crwydro Llundain a gweddill Prydain.

Williams Parry berthynas elfennau mor ddieithr a dwr a chledd.

Efallai bod Tafod y Ddraig a Chymdeithas yr Iaith yn bur ddieithr i chwi os digwyddoch ddod ar ein traws ni ar hap; os felly, a'ch bod am gael mwy o fanylion gyrrwch at un o'r cyfeiriadau E-Bost, neu'n well fyth llenwch y ffurflen aelodaeth a gyrru honno yn ôl.

Digon anaml y byddai'r arglwyddes Senena ogylch y lle ac yr oedd hi braidd yn ddieithr i'w meibion.