Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddieithriad

ddieithriad

Meic, Christy... ond Steve sydd ar y blaen eto bron yn ddieithriad Mae ehangder y sbectrwm o Viva Reveloution Galesa i Croen Denau yn rhyfeddol.

Yr oedd hi wedi sylweddoli erstalwm iawn nad oedd dim pwrpas dweud mai barn y rheithgor oedd yn bwysig ac nid ei barn hi, Yn ddieithriad, wedi iddi osgoi rhoi ateb pendant, y sylw wedyn fyddai, 'Ond rydw i am i chi gredu 'mod i'n ddieuog.'

Weithiau gwnâi rhywun rhyw sylw ffraeth, megis, "Mae'n siŵr dy fod wedi nyddu digon o edafedd i wau siaced am y byd erbyn hyn, Morfudd!" A'i hateb yn ddieithriad fyddai, "Rhyw ddydd, Mr Jones, pan ga'i weill!" A chwyrli%ai'r olwyn bren yn fwy penderfynol fyth.

Ar y llaw arall fe fyddai llawer o'r Cynghorau, a'r Quangos a'r Llywodraeth yn ddieithriad, yn dymuno i ni ildio.

Derbyniai nawdd gan amryw o wŷr mawr y cyfnod, a'r rheini'n weinidogion dylanwadol yn ddieithriad, megis Thomas Rees, Abertawe, W.

Bod yr amseriad yn sefydlog yn ddieithriad, a chytunir mai'r priod amseriad ydyw "Amseriad cymhedrol adrodd a siarad", am mai hynny'n unig a sicrha briod aceniad.

Treuliais sawl min nos yn 'Y Wern', ei gartref, ac yn ddieithriad trafod rhyw wedd neu'i gilydd ar wyddoniaeth, yn arbennig ffiseg ac astroffiseg, a wnaem.

A deud y gwir Glyn fy mrawd canol, oedd y drwg, fo yn ddieithriad oedd cychwyn pob drygioni yn tŷ ni, wn i ddim am neb sy'n gallu tynnu coes ru'n fath â fo 'Odd Wili mrawd hyna', yn hogyn call distaw, ond efo cyhyrau mewn llefydd nad oedd gen i ddim llefydd.

Mae pob darparwr gwasanaeth, cyfleusterau a nwyddau yng Nghymru yn defnyddio iaith, ond Saesneg yw'r iaith honno bron yn ddieithriad o edrych ar ein bywydau yn eu cyfanrwydd.

Mae pawb, yn ddieithriad, yn ffilm byffs y dyddiau yma ac wrth gwrs does neb yn cytuno ar beth oedd/yw/ fydd y ffilmiau gorau/ gwaethaf.

Fo oedd y drwg yn y caws yn ddieithriad a'r cysgod cyson ar fy mywyd yn y cyfnod ifanc hwnnw yn nechrau ein hail flwyddyn yn yr ysgol uwchradd.

Trodd fwyfwy at werthu llyfrau ac almanaciau, ac wrth gwrs byddai'n galw heibio llawer o dafarnau a châi ei gymell i yfed yn ddieithriad ar y dechrau:

Yn yr Adroddiad ar siroedd Caerfyrddin, Morgannwg a Phenfro mynnodd Lingen fod y merched bron yn ddieithriad yn anniwair -

Treuliai ef ei bnawniau Sadwrn yng nghwmni ei fyddin breifat o gyfeillion, un ai ar deras y stadiwm bêl-droed yn cega ei dîm a gollai yn ddieithriad, neu ar y prom yn pwmpio pres i beiriannau soffistigedig y parlyrau adloniant.

Mae'r elfen hon yn digwydd bron yn ddieithriad o fewn cwmni%au masnachol.

Nid sioe i ddieithriad ond ystum naturiol, ddwys.

Sail eu gwrthsafiad yn ddieithriad oedd naill ai basiffistiaeth Gristnogol neu egwyddorion sosialaeth gydwladol.

Bu'r rhain yn ddieithriad yn nosweithiau llwyddiannus iawn.

Cymraeg oedd iaith swyddogol yr Ysgol Sul a Chymraeg oedd iaith y gwersi yn ddieithriad ond eto Saesneg siaradem â'n gilydd fel plant.

Os mai llwyd ddu oedd lliw'r Ynys ac yn ymddangos yn fawr ei maint a hynny ar adeg machlud haul, bron yn ddieithriad byddai glaw trwm trannoeth.

Dosberthid adroddiadau'r arolygwyr ffatri%oedd a mwyngloddiau yn helaeth, gan anfon copi%au at bob perchen gwaith glo, a phobun arall a allai fod â diddordeb, ac yn ddieithriad dyfynnid ohonynt a thrafod eu cynnwys yn y papurau a'r cylchgronau taleithiol.

Gwir fod yma ddigwyddiadau cyffrous, ond yn yr enaid y maent, bron yn ddieithriad.

Yn ddieithriad, mae'r canu mawl yn parchu'r confensiwn o gyfeirio at ardderchogrwydd llys a'i gydnabod yn fan cynnal 'cyd- wyliau', ac yn eisteddfa uchelwr 'a urddai wlad â'i hardd lys'.

Ond yn ddieithriad hefyd, trwy gymorth Duw, y mae'r sant yn ei drechu, ac yn ei ddwyn i edifeirwch am ei gamwedd, ac wedyn fe ddyry Arthur dir i'r eglwys neu fe gadarnha ei hawliau, megis i roi seintwar i droseddwyr.

Ond ni fedrai egluro pam nad aethai i dy ei mam fel y gwnâi yn ddieithriad, na pham yr oedd wedi dewis gadael y plant ar ôl, na pham nad oedd ei mam nac un aelod arall o'r teulu wedi clywed gair oddi wrthi.

Ar ben hyn ni ellir peidio â sylwi fod y Ferf bron yn ddieithriad yn weithredol.

Wrth gymharu rhestrau o eiriau yn yr ieithoedd hyn sylwyd ar y cyfatebiaethau seinegol rhyngddynt a lluniwyd 'deddfau seinegol', sef fformiwlâu i ddynodi'r cyfatebiaethau hyn, ac aeth corff o ysgolheigion ym Mhrifysgol Leipzig yr Junggrammatiker, 'y gramadegwyr newydd', i gredu bod y 'deddfau' hyn yn ddieithriad, bod eglurhad i bob cyfuniad ac nad damweiniol oeddynt.

Mae'r safon, fel yr ydym wedi hen arfer ag e yng Nghanwr y Byd Caerdydd, yn ddieithriad uchel.