Daeth cawod o law taranau yn y prynhawn i ddiferu'n oer i lawr gwar a thagu gwteri'r buarth â swnd a phridd.
A hithau'n dal i ddiferu ar ôl cymryd cawod o dan fwced dyllog, fe ddywedodd un wraig, Im Sarin, wrtha' i fod y prinder o ddynion yn gosod straen gynyddol ar wragedd sy' wedi diodde' cymaint yn barod.