Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiffuant

ddiffuant

Nid yw'r Methodistiaid i "gablu urddas" ond i ymddwyn, mewn gair a gweithred, yn ffyddlon ddiffuant i'r llywodraeth gan anrhydeddu'r Brenin a'r sawl sydd mewn awdurdod oddi tano.

m : dwi'n teimlo'n anghysurus iawn iawn i'n wrthgrefyddol yng nghymru oherwydd mi wn wn i'n brifo ac yn tramgwyddo pobl ddiffuant iawn.

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

Cafwyd pryd da o fwyd yn y Springfield Hotel, Pentre Halkyn ar y ffordd adref ac y mae Pwyllgor yr Henoed yn dymuno diolch yn ddiffuant iawn i Gyngor Cymuned Y Felinheli am gyfarfod y cyfan o gostau'r wibdaith.

Canys, fel y gŵyr pawb, yr unig ffordd ddiffuant o ddangos parch tuag at rywbeth yw bod yn barod i dalu pris uchel amdano.

Ymddangosai Alun Michael yn ddiffuant o ddiolchgar iddi am gyfraniad amserol a rhoddodd sicrwydd fod pob hawl i aelodau'r Cynulliad berthyn i'r Seiri Rhyddion ond na allent ddisgwyl bod uwchlaw arolwg.

Paratôi'r ysgolfeistr ni'n drylwyr iawn at y Nadolig a rhoddai i ni hanes y Nadolig cyntaf mor ddiffuant fel nad oedd modd i'r un plentyn ei anghofio.

DIOLCH Dymuna John, Gwyneth a'r plant Hengefn Llanfair Caereinion, ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth o golli tad a thaid annwyl.