Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiflas

ddiflas

Rhwng popeth cyfnod go ddiflas fu'r pumdegau i Harri Gwynn y bardd.

Doedd ei dad byth wedi dod adref a gwaith go ddiflas fyddai ceisio cysuro ei fam wrth iddi bryderu ynglŷn a chyflwr ei gŵr meddw.

Oedd 'na rywun heblaw y fo yn teimlo mor ddiflas?

Roedd hynny'n ei difyrru hi, ond gêm ddiflas iawn oedd hi iddo fo.

Byddai Siarl yn gwneud unrhyw beth i wneud bywyd Brenin Lloegr yn ddiflas.

Yr oedd y bara a'r dþr mor oer ac mor ddiflas.

Deuai dyddiau crablyd setlo i lawr a byw yn ddiflas lwydaidd i'w ran yn ddigon buan.

Mae geiriau Gruffydd Robert, wrth gwrs, yn enwog iawn: 'E fydd weithiau'n dostur fynghalon wrth weled llawer a anwyd ag a fagwyd im doedyd, yn ddiystr genthynt amdanaf, tan geissio ymwrthod a mi, ag ymgystlwng ag estroniaith cyn adnabod ddim honi.' A dyma Sion Dafydd Rhys yntau yn mynegi'r un pryder: 'Eithr ninheu y Cymry (mal gweision gwychion) rhai o honon' ym myned morr ddiflas, ac mor fursennaidd, ac (yn amgenach nog vn bobl arall o'r byd) mor benhoeden; ac y daw brith gywilydd arnam gynnyg adrodd a dywedud eyn hiaith eynhunain' - ac ymlaen ag ef i ddiarhebu'r cyfryw bobl mewn iaith braidd yn rhy liwgar i'w dyfynnu yn gysurus yn Hebron Clydach!

Mae'n werth gofyn i'r trydanwr sicrhau fod lampau niwl y car yn datgysylltu wrth i'r plwg fynd i mewn, neu fel arall fe all yr adlewyrchiad ar du blaen y garafan fod yn ddiflas pe baech angen defnyddio lamp niwl y garafan.

I goroni noson ddiflas Abertawe mae sibrydion bod eu golwr rhyngwladol, Roger Freestone, ar ei ffordd i Gaerdydd.

Enillodd Pedrog y Gadair am awdl ddiflas hir yn nhraddodiad y ganrif flaenorol.

Yn rhyfedd iawn roedd bron pob gêm rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon yn gêm ddiflas cyn amled â pheidio yn cael ei chwarae ar nos Wener o flaen torf bitw.

Nid oedd dim byd yn arbennig o atyniadol yn y set ac edrychai braidd yn ddiflas yn erbyn cefndir wal werdd y theatr.

TELEDU: (O dan hyn i gyd) Felly mae'r tywydd yfory am barhau yn ddiflas a digalon iawn dros y rhan helaethaf o'r wlad.

Euthum i'w weld fore drannoeth, fodd bynnag, a dyna lle'r oedd yn eistedd ar erchwyn ei wely newydd a golwg ddiflas iawn arno.

Awdl ddiflas, garbwl yn nhraddodiad yr awdlau a'r pryddestau cofiannol oedd hon.

Ni cheir yr un fflach yn awdl fuddugol ddiflas Dyfed.

Ac yn ddiflas.