Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddifyrru

ddifyrru

Parhaodd BBC Cymru i ddarparu llu o raglenni i'w dangos ar S4C wediu hanelu at ddifyrru ac ysgogir gynulleidfa ehangaf posibl.

Dibynna bardd gwlad yn gyntaf oll ar ddifyrru cylch bychan diolud.

Lleolir pob stori yng Nghymru a hefyd ceir amrywiaeth o themâu diddorol i ddifyrru ac ymestyn y plentyn - e.e. bwlio, anabledd a diogelu'r amgylchfyd.

I ddifyrru'r amser, fel petai, cydiodd mewn dyrnaid o dai a ffermdai a'u gollwng yn freuddwydiol drwy ei ddwylo fel y bydd plentyn yn chwarae gyda thywod.

Yr oedd hefyd braidd yn amheus ei moesau, gan ddifyrru mwy nag un cariad ar y tro - nid, meddai hi, am ei bod yn mwynhau'r gyfathrach ond am ei bod yn rhoi'r fath fwynhad i'w chariadon!

Cyfoeth o storiau, am ei ddyddiau cynnar fel siopwr gwlad, oedd forte Evan Jones, y perchennog, a gallai ddifyrru'r oriau gydag atgofion am y llon a'r lleddf.

Dyma'r tro cyntaf i'r ysgol lwyfannu'r cygnerdd blynyddol yn y neuadd, a mentr uchelgeisiol oedd gofyn i griw o blant rhwng pedair a saith oed ddifyrru cynulleidfa mor fawr am awr a hanner.

Mae o'i weld yn bloeddio'n iach iawn, diolch yn fawr, ac yn fodd i ddifyrru Cymraes fach gegrwth sy'n bell o'i chartre', beth bynnag!

Erbyn hyn wrth gwrs, a Morfudd wedi bod yn ei bwthyn ers sawl blwyddyn, ac atyniadau llawer mwy pêr wedi cyrraedd y pentref i ddifyrru'r tafodau yn y cyfamser, anaml iawn y byddai unrhyw drafod ar yr hen wraig, yn gyhoeddus o leiaf.

A beth well na mynd i ddifyrru y ddau wyliwr yna ar y tryciau?" "Bydd Henri yn dibynnu arnat ti," meddai Marie.

Parhaodd BBC Cymru i ddarparu llu o raglenni i'w dangos ar S4C wedi'u hanelu at ddifyrru ac ysgogi'r gynulleidfa ehangaf posibl.

Byddai'r anhrefn amaturaidd yn fêl ar ei fysedd, ac yn gyfle iddo sôn yn sbeitlyd am ymdrechion bach Gwyn i ddifyrru cynulleidfa.