Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddig

ddig

Ond ni ddangosodd ddig ac esmwythodd y llwybr i mi bob ffordd.

Fe fyddai ef wedi cael mwstwr ofnadwy, wrth gwrs, ond roedd yn gyfarwydd a hynny ac ni fyddai'i fam byth yn ddig wrtho yn hir.

Pan dynnwyd sylw'r gwleidydd dylanwadol, Iarll Leicester, un o noddwyr y Piwritaniaid, at yr hyn a ddigwyddodd yr oedd yn bur ddig a mynnodd gan yr esgob atal ei law.

Gan mai ymwelydd dros dro yn unig oeddwn i, fentrwn i ddim beirniadu cyflwyr yr economi yn yr Undeb Sofietaidd, oni bai fod y bobl hwythau'n teimlo mor ddig yn ei gylch erbyn hyn.

Nid oedd Symons yn teimlo mor ddig ynghylch tlodi cefn gwlad, er ei fod yn tynnu sylw ato.

Y bore yma, yn y - y siwt garchar yna, mae'n anodd dweud mai merch ydach chi.' Cuchiodd Lisa yn ddig am iddo siarad mor blaen.

Daliai ddig yn erbyn y ceidwaid creulon am ei daro i lawr â'u clybiau.

Ond chwarddodd y twr bechgyn yn galonnog, a heb ddangos unrhyw ddig tuag ataf.

Ni welais erioed dorf mor ddig.

Awgrymodd sawl sgrifennwr mai torri i ffwrdd yn ddig oddi wrth Blaid Cymru a wnaeth y Gymdeithas.

Clywsom ef yn gollwng ebwch ddig, yn troi ar ei sawdl, a mynd allan i'r buarth.

Wil oedd y gwas bach, tua phedair ar ddeg oed, a'i ben sgwâr, a'i wyneb fflat, gwelw; byddai'n gwlychu'r gwely, er i f'ewythr Vavasor roi cynnig ar lawer meddyginiaeth, ond doedd dim yn tycio, a Gwladys yn ddig bob bore y byddai'n gorfod llusgo'r matras gwlyb i lawr y grisiau cerrig o'r llofft stabal.

Yn Yn ei elfen magodd berthynas glo/ s gyda'i wrandawyr, er bod rhai yn ddig wrtho am roi'r farwol i'w damcaniaethau cartref hwy eu hunain am enwau llefydd ac enwau eraill.

Teg casglu, felly, ei fod ar brydiau yn teimlo'n ddig tuag at waith dyn yn anharddu wyneb y ddaear, a hynny yn enw Cynnyd: ac y mae ei ddefnydd o'r gair gydag 'C' fawr yn ymddangos, yn y cyd-destun hwn, yn llwythog o goegni ac eironi chwerw.

'Be 'dach chi wedi'i wneud iddyn nhw?' gofynnodd yn ddig.