Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddigwyddai

ddigwyddai

Wn i ddim beth ddigwyddai pe câi myfyrwyr yr oes yma'u trin felly.

Beth oedd yr ots iddi hi beth a ddigwyddai yn y Sir nac yn y dref o ran hynny.

Bun gyfrifol am sawl tacl allweddol yn ystod y cyfnod wedi i Charvis gael ei hel oddi ar y cae gan ganolwr nad oedd yn gweld pob peth a ddigwyddai o'i gwmpas.

Roedd llechen ar wal yr ysbyty yn cofnodi'r hyn a ddigwyddai ar y safle yn nyddiau'r tlodi mawr.

Cyn gynted ag y dechreuais siarad llanwyd neuadd y Cyngor â storom o stŵr o dan arweiniad ffyrnig yr enwog Mrs Bessie Braddock, AS a ddigwyddai eistedd yn union o'm blaen.

Ar ôl iddo adrodd yr hanesyn wrthyf ryw noson, fe syrthiodd ysbaid hir o ddistawrwydd rhyngom (fel a ddigwyddai'n aml), ac yn ystod y distawrwydd hwnnw dyma fi (a oedd yn Meuryna llawer yn y dyddiau hynny) - yn ceisio gorffen y cwpled.

Cetyn oedd gan un o hogiau'r eroplêns ac o dro i dro, cawn olwg ar ddwy ferch y tonnau pan ddigwyddai toriad yn y cwmwl nicotinaidd.

Mis pwysig i ieuenctid oedd Chwefror oherwydd tua'i ganol disgwylid ffolant; os na ddigwyddai hynny, diflas fyddai ar y person hwnnw o safbwynt carwriaeth tan Galangaeaf.

El Hadad oedd ef mwyach roedd ganddo ei babell ei hun a hawl i'w siâr o unrhyw ffawd dda a ddigwyddai i'r llwyth, boed yn ganlyniad ffeirio neu ergyd lwcus at gase/ l.

Yno yr aent i siopa ac i drafod busnes ac yr oedd yr hyn a ddigwyddai ym Mhwllheli o ddiddordeb ysol iddynt.

Nid oedd waeth ganddi hi beth a ddigwyddai yn yr harbwr.

Yr adwaith, fel arfer, oedd colbio'r trueiniaid yn y ddwy res flaen gyda darn o bren a ddigwyddai fod yn gyfleus.

Ond fel llawer ohonom, pethau a ddigwyddai i bobl eraill oeddynt fel arfer.

Ac ni buom yno'n hir cyn i mi ganfod mai felly y dychwelem adref oni ddigwyddai gwyrth.

Wrth aros am ei gnoc y noson honno, ystyriodd hi beth a ddigwyddai ar ôl i'r gwyliau ddod i ben.

Dyna a ddigwyddai pan âi y saer coed ati i wneud cert newydd - gallai y cert fod ar waith am tua dwy flynedd.

Y mae yma rai yma a thraw a ddigwyddai fod yn fugeiliaid ar breiddiau eraill yn yr un dref, a diau fod fy mam, fel sawl gwraig dda arall, wedi rhoi llety i rai o'r brodyr a ddeuai i Sasiwn a Chymanfa ac Undeb.

Pan tua thair neu bedair milldir o Memphis, a'r ffordd yn rhedeg drwy ganol meysydd llydain a gwastad o bob tu i ni, gofynnai Mr Eleazar Jones i deithiwr a ddigwyddai eistedd ar ei gyfer, gan gyfeirio at faes ar lechwedd bychan gyferbyn â'r ffenestr, â rhyw fath o growcwellt hir yn tyfu arno, nad oedd Mr Jones yn hollol sicr beth ydoedd, - `Cnwd,' ebe fe, `o ba beth yw hwn ar y maes yna?' Ebe'r dyn, gan godi ei ysgywddau ac ysgwyd ei ben gydag ochenaid, `that is a war crop!' - Cnwd rhyfel ydyw hwnyna!

Yn syml, fe amcangyfrifir yr hyn a ddigwyddai mewn natur, drwy dorri 'DNA' teithio y ddau riant yn ddwy ran, a hynny yn yr un lle ym mhob 'rhiant'.