Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddileu

ddileu

Mae meddygaeth lysieuol yn ei ddefnyddio i drin anhwylderau'r iau, y clefyd melyn, y gymalwst, cryd cymalau, rhai anhwylderau'r arennau ac i rwystro neu ddileu cerrig y bustl.

Hyn, wedyn, a'i harweiniodd yn ddiweddarach, fel y cyfeddyf, i ddileu'r llinell wreiddiol wan, 'Wyneb yn wyneb gyda'r graig' oherwydd, chwedl yntau, 'y mae i'r graig hithau ei dannedd'.

I ddileu achos yr anfodlonrwydd hwn fe benderfynwyd paratoi fersiwn newydd a fyddai'n osgoi tramgwydd fersiynau Tyndale a Coverdale ac y gellid ei osod ymhob eglwys fel fersiwn awdurdodedig Eglwys Loegr.

Ac y mae angen mynd trwy'r teipysgrif gyda chrib mân i ddileu llithriadau teipio a chystrawen ac amrywiol anghysonderau mewn sillafu.

Fel gydag unrhyw fath o gymorth, fe all defnydd o dechnoleg hefyd ddileu cyfleoedd a chyfyngu ar ddewisiadau.

Darparodd Duw, yn ei oruchwyliaeth drugarog, ffyrdd i ddileu'r halogiad hwn drwy aberthau penodedig, fel y'u nodwyd o fewn i'r ddeddf Iddewig.

Ni fyddai'n dderbyniol i'r Pwyllgor fod cyfrifoldeb strategol yr awdurdod addysg lleol am ddarparu a gweinyddu ystod o sefydliadau, gan gynnwys ysgolion penodedig Cymraeg, yn cael ei ddileu a'r cyfrifoldeb yn cael ei roi i gynghor cyllido enwebedig newydd.

Dylai'r Cynulliad ddileu Tai Cymru fel Quango a chryfhau darpariaethau Cymdeithasau Tai Lleol yn y sector rhentu gan eu galluogi i brynu mwy o dai o'r stoc dai presennol yn hytrach na'u gorfodi i godi tai newydd.

Mae nifer o enillwyr prif dlysau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn galw am ddileu'r gair "Brenhinol" o'r teitl swyddogol.

Os pwyswch DELETE (neu BACKSPACE ar rai allweddellau) bydd y yn cael ei ddileu ac fe ellwch deipio rhywbeth arall yn ei le.

Roedd yn fuddugoliaeth mewn llawer ystyr, roedd fel pe bai mwy na bygythiad Ffasgaeth wedi'i ddileu, oherwydd fe gyneuwyd gobaith newydd drwy'r byd yn gyfan gwbl, gobaith y gellid dechrau adeiladu'r byd newydd hwnnw y bu cymaint o aros amdano.

Amlinellodd hefyd y rhesymeg tros ddileu'r gwasanaeth.

Rhoddodd amlinelliad gwerthfawr iawn i ni o sut yr aeth y mudiad hwnnw - y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn un o'i gefnogwyr - ati i bwyso ar i'r llywodraeth ddileu dyled y trydydd byd.

Dylid cywiro'r gosodiad "Bydd y taliadau unwaith ac am byth yma yn cael eu hymgorffori i mewn i swm yr ariannu sylfaenol am gyfnod o dair blynedd" trwy ddileu'r cyfeiriad at amser oherwydd na phenwyd unrhyw amser o'r fath.

Rhaid i'r Cynulliad ddileu'r cysyniad o ddarparu gwasanaeth 'Cymraeg wrth ofyn' a dim ond 'pan fo'n rhesymol ymarferol.'. Y seiliau egwyddorol cywir i unrhyw Fesur laith effeithiol ydyw dwyieithrwydd naturiol cymunedol a hyrwyddo'r Gymraeg fel norm ac fel priod iaith Cymru.

Mynnodd Sam imi ei ddileu, a bu'n rhaid dileu brawddeg gyfan oherwydd hynny.

Pwyswch DELETE a bydd y gwrthrych sydd wedi ei ddewis (y llinell) yn cael ei ddileu.

Golyga hyn y dylai'r Cynulliad ddileu y Quangos Addysg a sefydlu Cyngor Addysg Democrataidd i Gymru.

Maes gwaith amlwg i Bwyllgor Pwnc y Gymraeg fydd i ddileu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn ei ffurf bresennol a sefydlu corff democrataidd yn ei le.

Dygwyd i gof yn bennaf ymdrechion efengylwyr mawr fel William Wilberforce i ddileu caswasiaeth.

Galwn ar y Cynulliad i ddileu y Quangos sy'n gweithredu yn y maes yma a chryfhau gallu ymarferol ein cymunedau i reoli eu dyfodol eu hunain drwy gefnogi mentrau cymunedol gydag adnoddau digonol.

Canys fe all gwraig dlawd ar risiau â darn mawr o sebon gwyrdd ddileu pob meddwl am fyd busnes ym meddwl gŵr cyfoethog, yn dra effeithiol.

Gofynnwn iddynt gefnogi'n galwad i ddileu'r Bwrdd Iaith ar y sail ei fod yn Quango a sefydlwyd yn sgîl Deddf Iaith 1993 i wneud dim ond gweinyddu polisïau'r Torïaid ar yr iaith Gymraeg.

Bydd hyn yn talu ar ei ganfed yn enwedig os llwyddir i ddileu'n llwyr bob darn o wreiddiau'r chwyn lluosflwydd.

Daeth gramadegwr, pur ei anian, am wagiad gan ddileu 'Hilydd' ac ychwanegu 'Hilberson'.

A syllu, syllu ar eiria'r daflen, geiria caled ar y gwyn llyfn, fel tasa dal i sbio'n mynd i ddileu'r geiriau neu yn newid yr enw i enw rywun arall y medran ni yn haws ei sbario.

Dydw i ddim yn mynd i sôn am wendidau ond rhaid imi ddweud taw tipyn o siom oedd ffilmiau byrion Gwobr DM Davies, gan y gwneuthurwyr ffilmiau ifainc (pobl ifainc sy'n gwneud ffilmiau - nid ffilmiau ifainc) â chysylltiadau â Chymru (ac eithrio un ffilm a welwyd nad oedd ei gwneuthurwr ag unrhyw gysylltiad â Chymru o gwbl a bu'n rhaid ei ddileu o'r gystadleuaeth).

Yn ail, mae llawer o'r rhai sydd yn y gerddi yn y Gwanwyn a'r Haf yn ei throi hi am y wlad yn y Gaeaf ac yn bwydo ar bob math o hadau, a hefyd ar weddillion y grawn yn y caeau ūd a'r gwenith Er bod y pincod i gyd yn byw ar hadau, mae pig y rhan fwyaf ohonynt yn amrywio i drin yr hadau y maent yn ei fwyta, ac i ddileu unrhyw ffraeo ynglyn â bwyd.

ffordd o ail asesu a/neu ddileu yn gyfan gwbl hen ganiatadau cynllunio.

Ac ar ei waethaf sylweddolodd iddo ar ambell egwyl ddistaw fod yn gweddio'n fyr ac yn gryno am gael y cyfle, y fraint ysbrydol, bron, o ddileu'r ymosodiadau gwaedlyd hyn.

Roedd catharsis y noson flaenorol wedi gadael ei ôl, fodd bynnag; cleisiau glasddu a chlwyfau dwfn ar ei ddyrnau a'i goesau, ond eisoes roedd ei system fetabolig gyflym yn gweithio'n ddiwyd i ddileu'r rhain.

Dechreuodd o leiaf rhai o'n harweinyddion amau ein syniadau rheibus gorllewinol - prin iawn yw'r rhai sy'n ymfalchi%o bod ein cyndadau (a Chymry yn eu plith), er enghraifft, wedi cwbwl ddileu llwythau a gwareiddiadau eraill yn Tasmania a De a Gogledd America.

Er i'r llywodraeth gydsynio i ddileu hormonau hybu tyfiant, ni wnaed unrhyw ymdrech i ddileu hormonau i hybu llefrith mewn buches odro.

Cyhoeddodd y Barnwr Gweinyddol y dylid, yn wyneb y ffeithiau newydd a ddaethai i'r amlwg oddi ar ei dreial, ryddhau Lewis ar unwaith, gan ddileu'r gollfarn arno.