Cymerais innau ddracht o'r ddiod wedyn ac roedd mor felys â'r gwin.
Y canlynol yw'r achosion fynychaf: afiechyd (fel dolur y galon, is thyroidedd, ac anallu i symud); methiant y corff i adnabod gostyngiad gwres yn ddigon cyflym, fel na all y person grynu a chymryd mesurau i ymdwymo; cyffuriau (fel Largactil a'r ddiod feddwol i ormodedd); a'r achos pwysicaf oll, sef cwymp y tymheredd i radd rhy isel i'r corff fedru ymdaro ag ef.
Yn y diwedd, dwi'n cael ryw fath o floda iddi, ac yn cael bocsus o ddiod a chreision.
Estyn gadair, tyrd at y bwrdd a chyrraedd at y bwyd a'r ddiod.
A dyna ddiod ragorol i roi iechyd da!
Dyn digon tawel, os blin, fyddai Sam fel arfer, ond roedd y ddiod yn ei newid.
Wedi i'r ymwelwyr gyflwyno anrheg ( blodau, potel o ddiod, llyfr, tegan ac ati) mae gwraig y ty yn rhoi iddyn nhw "glico tou coutaliou" (melys y llwy) sef darnau melys o ffrwyth ffres gyda sudd trostynt.
Pregeth yn hyrddio'r meddwyn i ganol tragwyddol dân a brwmstan oedd y gyntaf, a chan fod aroglau'r ddiod felltigedig, y taranai'r diwygiwr yn ei herbyn, yn halogi'r ystafell ac yn gryf ar bob awel chwyrnol o'r gadair gyferbyn ag ef, teimlai Dan yn anghysurus wrth ei darllen.
Ac yn y partion bydd llymeidiau o'r ddiod yn cael eu rhannu am ddim.
Yn eu ffordd a'u steil eu hunain roedd Rondol a Begw'n gymeriadau digon diddorol, ar wahan eu bod wedi mynd yn orhoff o'r ddiod.
Roedd fflangellu'n beth arferol iawn yn y fyddin bryd hynny, ond oherwydd ei wendid am y ddiod cafodd yr Hen Gapelu\l fwy na'r cyffredin o flas y chwip.
Un surbwch, gwglyd y byddwn i'n ei weld o bob amser, ond yn ei ddiod yr oedd yn wahanol meddai'r rhai oedd yn gwybod.
Byddai'i fam yn dod i fyny efo'r ddiod Horlicks roedd Modryb wedi'i archebu ymhen tua chwarter awr, a byddai rhaid iddo fo fod yn ôl yn ei fync erbyn hynny.
Rho lymaid o'r Ddiod Dda iddo.
Ac ar 'sgwydda Sioned y bydd ochor weinyddol y sioe o hyn ymlaen p'run bynnag.' Cymerodd Sioned lymaid bychan o ddiod.
Yr oedd hefyd yn awdurdod ar ddiod ei fro, a chofiai'r manylion lleiaf ynglŷn â hi a'r rhywogaethau neilltuol o afalau y gwasgwsid hi ohonynt.
Ac roedd y bechgyn yn tynnu Carol tua'r caffi am y ddiod a addawyd.
An gwaredo os yw - mewn cyfnod pan yw'r ddiod wrth wraidd cymaint o drafferthion a helyntion cymdeithasol.
Heledd yn crechwenu'n ddwl yng ngafael y ddiod, Heledd yn wylo'n ddilywodraeth a hyll, yn nadu fel anifail mewn poen, a neb yn gallu torri drwy gylch ei hing i'w chysuro.
Yr oedd wedi bod ar y mor, ac yn dipyn rhy ffond o ddiod.
Rhoddodd Duw ddiod felys iddi er mwyn gwella'r boen a achoswyd gan ei chariad a pharodd i Faelon droi yn dalpyn o iâ.
Cymerais lymaid o'r ddiod.
Mewn breuddwyd cafodd y ddau ddiod gan angel ac fe drowyd Maelon yn lwmp o rew.Cafodd Dwynwen dri dymuniad gan yr angel, a'r cyntaf oedd i Faelon gael ei ddadmer.
Yn awr y mae cwmni seidar wedi gweld yr achlysuron yn rhai addas i hyrwyddo ei ddiod.
Ond ni siaradai lawer amdanynt, ac eithrio'r ddiod a'r pridd ei hun.
Yr oedd dydd Llun yn ddiwrnod mawr yn Y Porth, Rhondda, pan agorwyd yn swyddogol hen ffatri ddiod pop Corona yn ganolfan heb ei hail ar gyfer y diwydiant adloniant Cymraeg.
Tipyn o bwysau oedd cario bob un botel gwart o sudd oren ar ei gefn, ond yr oedd cael digon o ddiod i dorri syched yn iawn digonol am y drafferth o gario'r bwrn.
Nid yfodd ddiferyn o ddiod gadarn wedi hynny, er cael cynnig peth droeon.
Neu'r Ddiod Wurthiol fel yr oedd y Sbaenwyr yn ei galw - am ei bod yn rhoi digon o nerth i filwyr fartsio am ddiwrnod cyfan.