Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddioddef

ddioddef

Mae'r adroddiad yn argymell cynnal cronfeydd bwyd mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef oherwydd sychder, a sicrhau bod yna system effeithiol i ddosbarthu'r bwyd pan fo angen.

Aros i ddioddef.

Ond os yw Johnson i ddioddef yn sgîl awydd eraill i gosbin hallt bob trosedd fechan yna mae'r gêm wedi colli ei phersbectif.

ER pan ddywedodd Wiliam yn herfeiddiol na fedrai ddioddef bod yn gardotyn yn hwy yn y chwarel a'i fod am fynd i'r Sywth - yr oedd fel petai bwysau wrth ei chalon.

Eto i gyd, yr oedd rhai dosbarthiadau yn llawer mwy tebygol o ddioddef o'r afiechyd.

Ni bu raid i Bowys, tywysogaeth y Canolbarth, ddioddef fel y gwnaeth Gwynedd.

Ond yn achlysurol digwyddai rhywbeth i droi'r fantol, gan effeithio ar bawb a phopeth yn y swyddfa, oblegid doedd Rhian ddim yn un i ddioddef yn ddistaw.

Y thema fydd 'Y pethau na allwn ddioddef eu colli am byth'.

Ni allai ddioddef ei chlywed yn disgrifio sumptomau ei hafiechyd.

Gwelwyd yn fuan bod y rhai a oedd yn defnyddio cyffuriau mewn modd anghyfreithlon, gan rannu offer chwistrellu, yn fwy tebygol o ddioddef; hefyd y rhai, o blith y ddau ryw, a oedd yn anllad ac yn mwynhau rhyw gyda nifer o bartneriaid o'r naill ryw neu'r llall.

Yr oedd yn gyfnod pan oedd chwyddiant yn rhyw lusgo yn araf o un flwyddyn i'r llall, bron yn ddisylw, a 'does rhyfedd felly fod y rhan fwyaf ohonom yn dal i ddioddef gan ryw 'rith ariannol'.

Traddodiad o ddioddef dirmyg ac erlid yw traddodiad amddiffyn politicaidd i'r iaith Gymraeg.

Mae'n ffaith, medden nhw, fod dynion yn llawer mwy tebygol o ddioddef o'r salwch na merched.

O hynny hyd at doriad dydd y bore wedyn, 'roedd trenau'n rhydd i basio trwy Lanelli heb ddioddef nemor mwy na sgrech sarhaus neu garreg trwy'r ffenestr.

Fedra i moi ddioddef e." Roedd hi'n gwybod yn iawn ar beth y cyfeiriai ond dewisodd ymddangos yn ddiniwed, "Balchder?" meddai.

Fe wnaethon ni ddioddef, ond roedd yr artaith yn werth y boen.

Ni allai ddioddef ffyliaid a gallai roi min ar ei bensil a'i dafod.

Pe gallwn ddioddef y tro yma, ni fyddai'n rhaid i mi fynd ar gyfyl yr un ymarfer eto hyd yr un diwethaf, efallai.

Dafydd a Branwen a phob ddi-smygwr arall sydd wedi bod yn agos at swyddfa'r Gymdeithas am ddioddef fy mwg; Owain am y sylwadau hollol diwerth; Grant am deutha fi sut i gyhoeddi blincin' peth i ddechrau; pawb sy 'di cyfrannu a chefnogi; pawb sy 'di rhoi cysylltiadau i'r Tafod Trydanaidd ar eu tudalennau Gwe nhw; pawb sy 'di ymweld â'r Wefan hon; pawb sy 'di cynorthwyo a chefnogi Cymdeithas yr Iaith rhywsut rhywbryd -- diolch am eich ysbrydoliaeth a'ch gwaith. Cas-berson y Mis

Ar y cychwyn bu'n rhaid i William Hughes a'r hwch ddioddef anfri a sen oddi ar law y cybiau a deithiai'n y sedd gefn.

Bu'n rhaid imi ddioddef arteithiau tebyg am chwe diwrnod arall i ddilyn, a'r doctor gyda phob pigiad yn gweiddi 'Sori!', bendith arno.

Cerdd hynod sydd yn mynd â ni yn ôl yn hiraethus mewn atgof plentyn at gymdeithas glòs y cymoedd glofaol, y cyd-chware, y cyd-addoli a'r cyd-ddioddef; ond mae ing yn yr hiraeth am fod y bardd yn edrych yn ôl ar fyd dewr a dedwydd o safbwynt cymdeithas wedi ei chwalu gan ddiweithdra.

Yr oedd peth brys i'w gael i gydio yn ei waith rhag i fusnes y Swyddfa ddioddef.

Roedd y rhain wedi bod mor deyrngar i'r llw a dyngwyd i Hipocrates nes eu bod, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhoi llawer mwy o sylw i anghenion y rhai cyfoethog oedd yn llawer mwy tebyg o ddioddef o ddiffyg traul na'r dica/ u oedd yn sgubo fel pla drwy rengoedd y rhai na fedrai fforddio bwyta digon, i bryderu ynghylch diffyg traul.

Syrth mewn cariad ag ysgolfeistr o Almaenwr, ond gwrthyd ei briodi, 'gan ddewis yn hytrach ddioddef.' Yn nrama Lewis nid cenedl yw'r gwahanfur rhwng y ddau gariad ond amrywiad diddorol ar ddosbarth cymdeithasol.

Credai hefyd - fel y dywedodd wrthyf droeon - ei fod wedi darganfod y gymdeithas ddelfrydol ymysg ffermwyr Sir Benfro - lle'r oedd cyd-weithio a chyd-lawenhau, heb sôn am gyd-ddioddef, wedi ei gwneud yn gymdeithas glos, lawen a chydweithredol.

Atebodd: "Wel, os byddai wedi gwneud camgymeriad a chanfod fod priodas yn hunllef fydd dim rhaid imi ddioddef yn hir.

Tuedd polisi yw gwarchod buddiannau'r sefydliad yn hytrach na'r unigolyn a gallai rhai unigolion ddioddef.

Ei syniad oedd cael gwragedd ar draws y byd i greu baneri eu hunian ar y thema 'Y pethau na allwn ddioddef gweld eu dinistrio gan ryfel niwcliar'.

Nid yw'n hollol eglur pa un ai cludwr dynol neu geffyl sydd ym meddwl awdur y Pedair Cainc ond, fel Branwen, mae'n rhaid i Riannon ddioddef darostyngiad mawr.

Fuasai neb yn meddwl, wrth eu gweld yn eu mwynhau eu hunain, fod haint o ddioddef a marw yn Ne'r Iwerydd.

Nid ydym yn barod i ddioddef Llywodraeth sy'n rheoli trwy Quangos ac yn dileu pob corff democrataidd.

Cwmni dynion fel Cela Trams a Dik Siw, a'u bryd ar wneud arian mor ddidrafferth ac mor gyflym ag y gallent; dynion na allent ddioddef wnionyn o fewn milltir iddynt.