Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddiolch

ddiolch

Mae gennych chi le i ddiolch nad ydw i ddim yn cysgu mor esmwyth ag y bu+m i, neu fyddech chi ddim yma'n mwynhau brecwast yn yr haul ond yn yr ysbyty yn ymladd yn erbyn niwmonia.

Dymuna Olwen Rees Jones, Danolfan, Wern, Trefnydd casgliad at y Groes Goch yn Llanfairpwll yn ystod wythnos y Groes Goch ym mis Mai ddiolch i drigolion Llanfairpwll am eu cefnogaeth i'r gronfa ac i ddiolch yn arbennig i'r holl gasglwyr am eu gwaith ardderchog.

Wrth ddiolch i'r pwyllgor, dymunodd y Llywydd yn dda i'r rhai fydd yn ein cynrychioli yn Llanelwedd.

Gall peilot gadw'i lwc drwy wagio'i bocedi ar y ddaear ar ôl glanio fel pe bai'n ail-gyflwyno aberth o ddiolch am gael siwrnai ddiogel.

Dŵad ymlaen ata' i wnaeth hi ar ddiwedd sesiwn o Taro i Mewn yn Festri Salem, un bore Mawrth, i ddiolch am y cwmni a'r gymdeithas gan ychwanegu, ar yr un gwynt, na ddaru hi ddim deall gair o'r Myfyrdod Cymraeg.

Fe ddechreuodd drwy ddiolch i fi am helpu gyda'r holl drefniade, ond soniodd hi'r un gair am y 'wyllys.

Dyblwyd a threblwyd yr emyn a daeth llanc ifanc ymlaen, un nad oedd erioed o'r blaen wedi gwneud dim yn gyhoeddus, a bwrw ati i ddiolch am farwolaeth y Groes ac i weddi%o'n daer am "awel o Galfaria fryn".

Hoffai pawb hefyd ddiolch i Myrddin Jones, "Dinas", William Williams, "Lon Isa% ac Eric harper, Tŷ Newydd am eu caniatad parod iawn i gael mynd ar eu tir.

Yn y cyswllt hwn, carwn ddiolch am yr holl anrhydeddau a ddaeth i'm rhan i yn bersonol.

Fe hoffwn i ddiolch i Cymorth i Fenywod am fod mor gynnes a chymwynasgar."

Dymuna'r Pwyllgor ddiolch yn hael i bawb a roes gyfraniad hael mewn amrywiol ffyrdd ac am bob cydweithrediad er hwylustod y trefniadau.

Wrth ddiolch iddo am ei sylwadau caredig ynglyn âr cyfleusterau presennol addawodd Alun Michael y deuai yntau fel yr aelodau eraill i sylweddoli bod i'r adeilad ei anfanteision a bod yr angen yn parhau am adeilad i'w barchu.

Hoffwn ddiolch i'r gweinidogion, y Parch.

Yr oedd araith ddiolch Saunders Lewis yn gywrain

Dymunaf ddiolch yn fawr iawn i bawb a anfonodd gardiau a rhoddion i mi ar achlysur fy ymddeoliad.

Hoffwn fanteisio'n arbennig ar y cyfle hwn i ddiolch i ddau o'n haddysgwyr amlycaf, yr oedd y Gymraeg yn agos iawn at eu calonnau, am eu cyngor cadarn a'u cefnogaeth barod i waith y pwyllgor ar bob achlysur, sef Mr Illtyd Lloyd (Prif Arolygydd Ysgolion Cymru a ymddeolodd yn gynt eleni) a Mr Gareth Lloyd Jones (Ysgrifennydd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru a fydd yn ymddeol ddiwedd Awst).

Dymunwn ddiolch a dymuno yn dda i weithiwr Aberconwy sydd wedi ymddeol ar ol rhoi gwasanaeth gwerthfawr trwy gasglu sbwriel o amgylch yr ardal.

Ar derfyn y tymor hoffen ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant y cyfarfodydd, ac edrychwn ymlaen at y tymor nesaf.

Yn yr un cywair dymuna ei mam, Mrs Hilda Campbell ddiolch o galon i'w ffrindiau am yr anrhegion a chardiau yn dymuno yn dda iddi pan yn gorffen ym Mrig-y-Nant yn ddiweddar.

UNRHYW FATER ARALL Cynigiodd Val Hill bleidlais o ddiolch i Ellen ap Gwynn am ei gwaith dros y blynyddoedd.

Fodd bynnag, llawer o ddiolch Anona.

"Llawer o ddiolch i Tudur a Theo, nid yn unig am daith ddifyr tu hwnt ond hefyd am yr holl waith paratoi trylwyr a wnaeth y ddau ymlaen llaw.

Phillips, Athrofa Gogledd Ddwyrain Cymru Cyflwyniad Carwn yn gyntaf ddiolch i'r Gymdeithas am roi'r anrhydedd i mi drwy fod yn Llywydd Anrhydeddus am eleni.

Hoffwn ar ran PDAG ddiolch i bawb a dderbyniodd ein gwahoddiad i ymuno yn y seminar ac a gyfrannodd ymhob ffordd at lwyddiant y diwrnod.

Hoffwn ddiolch i nifer o gyfeillion a sbardunodd fy niddordeb yn y fordaith dan hwyliau i Awstralia ac yn arbennig.

Diweddodd Ellen ap Gwynn ei hadroddiad trwy ddiolch i bawb gyda phwyslais arbennig ar lafur y Pwyllgor Gweithredol.

Yn gynta am fod Cymru wedi dod i Iwerddon iddo fe gael gweld gêm ryngwladol, ond yn ail roedd am ddiolch i mi am rwystro'r hyn a alwai ef yn esgus pellach i bropaganda'r wasg Seisnig gael ei ddefnyddio yn erbyn ei bobl e.

Y mae'n werth cofio bod llawer yng Nghaerdydd heddiw a all ddiolch am eu swyddi breision i weithgarwch Plaid Cymru fel grŵp ymwthiol.

meddylier am yr holl dyndra rhwng gwahanol grefyddau yn ystod rhyfel y gwlff, a chofier am thatcher yn mynd i'r eglwys i wasanaeth i ddiolch am y fuddugoliaeth !

Gallant ddiolch fod Cristngion mor ddifeind ou cred a'u crefydd hwy.

Am ugain mlynedd olaf ei bywyd yr oeddwn i'n un o'i chyfeillion: âi fy ngwraig a minnau i'w gweld yn aml, bu'n cysgu yn ein tŷ ni, ysgrifennai lythyron atom; yn ddi-feth bob Nadolig anfonai bunt i'n merch ni, ac os byddai Elin yn hwy nag arfer yn ysgrifennu ati i ddiolch iddi am y bunt honno, cyrhaeddai llythyr oddi wrth Kate Roberts i holi a oedd y bunt wedi cyrraedd.

Llongyfarchwn Derec yn gynnes iawn a'i gyd-weithwyr gan ddiolch iddynt am gyfoethogi bywyd ein Ieuenctid, a rhoi mwynhad a bendith i eraill.

Ni fedraf ddiolch yn ormodol i Cassie Davies, oherwydd bu hi fel angel gwarcheidiol drosof yn yr holl gynlluniau.

Mae arnaf ddiolch am yr awgrym, a hyd oni ddaw gwell gair bwriadaf ddefnyddio'r term cyfrifolaeth am subsidiarity.

Hyd heddiw ymhlith rhai pobl, yn arbennig y to hyn, ceir cred nad gweddus mynd allan i 'wydd pobol' wedi cyfnod o salwch heb yn gyntaf fynd i'r capel neu'r eglwys i ddiolch.

Roedd am ddiolch yn hytrach bod Cymru wedi llwyddo i rwystro Iwerddon rhag rhannu'r bencampwriaeth â Lloegr.

Gyda'r amlygiad gorau o'r modd yr ymserchai'r abad hwn yn y beirdd yw'r cywydd a ganodd Iorwerth Fynglwyd i ddiolch iddo am rodd o win a dderbyniasai ganddo pan oedd yn glaf.

Heb air o ddiolch i'm brawd am fod mor graff, symudodd y gwrachod eu bysedd yn ôl i'r golofn ar ymyl y ddalen.

Heb air o ddiolch, heb sôn am eglurhad, fe ddiflannodd y criw teledu.

[Dymuna'r awdur ddiolch yn fawr i Mrs Sali Heycock a roes gymaint o help i lunio'r ysgrif hon.]

Eto, yn gwbl ddirwgnach mae athrawon cydwybodol yn parhau i ysgwyddo y dyletswydd hwn a hynny gan amlaf heb air o ddiolch - ond gan wybod y byddant dan feirniadaeth lem pe byddai rhywbeth yn mynd o'i le.

DIOLCH Dymuna John, Gwyneth a'r plant Hengefn Llanfair Caereinion, ddiolch yn ddiffuant iawn am bob arwydd o gydymdeimlad a hwy yn eu profedigaeth o golli tad a thaid annwyl.

Hoffent hefyd ddiolch i ferched y gegin am eu diwallu a chawl, te a brechdannau, drwy gydol y dydd, ac hefyd am drefnu lluniaeth ar gyfer y cyhoedd.