Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddirnadaeth

ddirnadaeth

Yn ychwanegol at y ddau brif syniad hyn am bechod ac iawn, y mae yna ddarnau unigol o fewn i'r Hen Destament sy'n dangos yn eu ffordd eu hunain ddirnadaeth unigryw o'r agwedd hon ar berthynas Duw a dyn.

Cerddai ar hyd math o gulffordd wastad, ddinodwedd, o wlad gynefin ei lencyndod a phrofedigaethau'r wythnosau diwethaf tuag at diriogaeth ddynol a oedd bron tu hwnt i'w ddirnadaeth a'i ddychymyg.

Ei nod pennaf yw osgoi pob drwg, ac yn arbennig y galluoedd drygionus sydd y tu hwnt i'w ddirnadaeth - osgoi'r drwg ac ymgyrraedd at y da a phrofi llawenydd a bodlonrwydd.

I'n cenhedlaeth ni yng Nghymru, sy'n rhoi bri ar ryddid pobl i wneud fel y mynnont mewn materion moesol, y mae bron y tu hwnt i ddirnadaeth sut y gallai corff o bobol fabwysiadu'n wirfoddol gyfundrefn sy'n ymddangos i ni'n orthrymus.