Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddisglair

ddisglair

Y mae pennod gyfareddol Dr Owen Thomas yn Cofiant John Jones, Talsarn yn ymdrech ddisglair i wneud hynny a daw'n agos at lwyddo pan yw'n trafod pregethwyr a glywodd ei hun.

Cyn tewi, hoffwn sôn am un Americanwr arall a oedd yn seren ddisglair yn ei ddydd ac sy'n bwnc trafod o hyd: John Fitzgerald Kennedy.

Cafodd yrfa academaidd ddisglair yn y Clasuron yn Rhydychen, ac fe'i hystyrid yn un o bobl ddysgedicaf ei ddydd.

Y mae Ellis Wynne yn feistr ar holl ystrywiau dychan, ond tra mae Dante yn hamddenol ddwys yn tynnu llun pob amgylchiad yn drwyadl a manwl, a'i drwytho â chydymdeimlad sy'n arswydo dyn gan ei ddifrifoldeb, sboncio'n heini o lun i lun cartwnaidd y mae Ellis Wynne a hynny mor ddisglair ddigri ei fynegiant nes lladd pob ofnadwyaeth gan y pleser o ddarllen; ac yn y proses, lladd ei amcan hefyd, petai waeth am hynny.

Gadewais iddo lifo drosof yn rhaeadrau, roedd yr haul mor ddisglair ac yn chwarae gyda ni yn bryfoclyd.

Meddai: "Y mae hunan lywodraeth seneddol i mi yn fater o gydwybod Gristnogol" Gwelai Syr Ifan ab Owen Edwards ddisglair olau 'mlaen.

Wedi i'r fflach o olau gilio, gwelodd gyda syndod ei fod yn sefyll yno gan ddal clamp o gleddyf addurniedig, a gemau lliwgar ar ei charn, a'i llafn mor ddisglair nes ei bod yn goleuo'r gell gyfan.

Neshaodd draw tuag ataf a gwenodd gyda'i cheg ac roedd ganddi ddannedd bychan, miniog, rheibus mor wyn â bywyn oren newydd ei blicio ac mor ddisglair â phorslen.

Yma y dechreuodd Joe ar ei yrfa ddisglair ym myd draffts, yn aelod o'r tim a chwaraeai yng Nghyngrair Draffts Swydd Caer.

Gwnaed hynny'n ddiweddar mewn dwy ysgrif ddisglair, y naill gan Dafydd Glyn Jones a'r llall gan Brynley F.

Yr oedd yr ymennydd yn glir ac yn ddisglair fel fflam.

Hi sy'n dalp o gig marw, yn saith ar hugain oed, a gyrfa ddisglair o'i blaen - rhyfedd beth mae pobl yn 'i ystyried yn bwysig, ynte?

Yn sydyn, roedd Meic yn dal bwyell ddisglair ddeufiniog a tharian ysgafn gron yn ei ddwylo.

Rhestrid yn eu mysg athrawon mor ddisglair â Hegius a disgyblion llachar megis Rudolf Agricola a'r enwocaf oll, Erasmus.