Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

ddisgyblaeth

ddisgyblaeth

Mam yn ceisio dianc o galedi ac oerfel Trefeca, o'r llafur a'r ddisgyblaeth ddiderfyn, gan adael un bach yn crio yn ymyl y lan a'r llall yn farw yn ei chôl.

Y gwir plaen yw nad oes gan fwyafrif y cwmni%au Cymraeg na'r ddisgyblaeth na'r grefft i gystadlu ar y lefel yma ar hyn o bryd.

* feithrin, cynnal a chadarnhau gwell perthynas gymdeithasol gydag unigolion o fewn y grwpiau yn ystod y cyfnodau plentyn-ganolog gan eu bod: -yn cael cyfle i'w cynorthwyo'n unigol pan fo angen y cymorth ar y disgybl, -yn dod i'w hadnabod mewn sefyllfa lai ffurfiol ac yn gallu arfer gwahanol fath o ddisgyblaeth ar wahanol gyfnodau yn ystod gwers;

Roedd ganddo ef gydwybod gymdeithasol effro iawn, wrth gwrs, ond yr esiampl a gynigiai ei stori i'r genhedlaeth yn union cyn f'un i oedd gwerth hunan-wellhad: goruchafiaeth hunan-ddisgyblaeth, diwydrwydd, a byw'n dda, gwerthoedd oedd wedi eu hangori mewn patrwm cymdeithasol di-sigl.

Ond y tu mewn iddo, nid oedd dim o'r ddisgyblaeth honno a'i hamddiffynnai'n allanol; ac o'r tu mewn iddo fe ymwybyddai ag udo hir hir a oedd yn adlais addas i eiddo Ap.

Yn ei ffurfiau cynharaf mudiad yn galw am grefydd ddyfnach, am hunan-ddisgyblaeth llymach ac am fywyd moesol ar lefel uwch nag a welwyd yn y Brifysgol er dyddiau John Wesley ydoedd.

Beirniadwyd y ddisgyblaeth allanol yma yn aml am iddi fod yn 'allanol', a hefyd am ei bod yn rhwystro'r economi rhag rhuthro ymlaen i gyrraedd rhyw nod dymunol o dyfiant.

Ymddengys i ni y buasai unrhyw weinidog yn y wlad hon a ymddygai fel y gwnâi Mr Jones yn rhwym o osod ei hun yn agored i ddisgyblaeth lem.

Nid yw'n annheg dadlau fod y ddisgyblaeth hon wedi crisialu'n ddiweddarach yn barchusrwydd ffurfiol a phobl yn canmol y gwerthoedd yn gyhoeddus ac yn eu gwadu yn y dirgel.

Yr oedd y rhai mwyaf dof ohonynt yn ddigon bodlon ar y drefn esgobol ac at ei gilydd yn parchu'r ddisgyblaeth eglwysig ond yn gobeithio y gwawriai diwrnod gwell cyn bo hir pan symudid y pethau a'u tramgwyddai.

Ac er i Newman wadu wrth Esgob Rhydychen mai mynachlog ydoedd, wrth i'r amser gerdded a dynion ifainc yn dod yno i aros, ymdebygai bywyd Littlemore yn fwyfwy i fywyd sefydliad Pabyddol, gyda phwyslais neilltuol ar ddisgyblaeth a llymder personol, yn enwedig yn nhymor y Grawys.

Cafodd Bowser y gair o fod yn gymydog caredig a rhadlon ond tuag at ei deulu mynnodd ddisgyblaeth haearnaidd ac erys hanes y driniaeth a gafodd Elisabeth ganddo yn staen annileadwy ar ei gymeriad o hyd.

Mewn gair, gyda'r gyfundrefn o gyfnewid amrywiol, nid oedd rhaid wrth yr un elfen o ddisgyblaeth fewnol ar wariant, buddsoddiant, prisiau a chyflogau.

Mae hynnyn bendant yn wir am ddisgyblaeth yn wyneb dyfarnu oedd yn bathetig.

Symudol yw'r boblogaeth nawr, ac er fod y newydd-ddyfodiaid, yn Gymry a Saeson, yn fwy amharchus o'r Sabath na'r oes o'r blaen, eto y maent hwythau yn parchu cymdogaeth dda ac y mae'r ddisgyblaeth gymdeithasol yn para yn ei grym.

Diffinio'r ddisgyblaeth newydd

Os yw awdur yn dewis cynnig i'r darllenydd ddarn o ffuglen sydd i fod yn undod cyfan o fewn pump neu chwech neu hwyrach ddeg o dudalennau, yna mae'n rhaid wrth ddisgyblaeth cywasgu ac artistwaith cynildeb i wneud y peth yn werth chweil o gwbl.

Ac ni all yr hanesydd anwybyddu'r ffaith fod y math yma o ddisgyblaeth wedi cyfrannu mewn ffordd greadigool at fagu cadernid cymeriad ymhlith miloedd yn y gymdeithas.

Gwneir datganiad o'r fath ar ôl asesiad gan dîm aml-ddisgyblaeth, ac mae'n rhiad i'r tîm hwnnw gynnwys rhywun sy'n gallu rhoi cyngor seicolegol, addysgol a meddygol ac mae'n rhaid iddo roi ystyriaeth i farn rhieni.

Arferai'r mynachod hyn ffurf o ddisgyblaeth lem.